Cwpl o Aberystwyth yn ennill achos llys 'hanesyddol'
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a gwraig sy'n rhedeg busnes yn Aberystwyth wedi ennill achos yn y Llys Apêl yn Llundain sy'n cael ei ddisgrifio fel un "hanesyddol".
Roedd Marc a Rhian Phillips, cydberchnogion Clwb Why Not yn Aberystwyth, wedi dwyn achos yn erbyn eu cwmni yswiriant am eu bod yn gwrthod talu allan ar bolisi yn sgil colledion Covid.
Wedi brwydr hir, y mae Rhian yn ei ddisgrifio fel "saga", fe enillon nhw eu hachos yn y Llys Apêl - sy'n golygu bod modd bwrw ymlaen â'r broses o hawlio colledion o thua £1.5m ar eu polisi.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am ymateb gan gwmni West Bay Insurance PLA a QIC Europe Ltd.
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
Mae Mark a Rhian Phillips wedi bod yn berchen ar glwb nos Why Not Bar and Lounge ers tua 20 mlynedd, ac yn Rhagfyr 2019 fe wnaethon nhw brynu'r adeilad drws nesaf er mwyn agor bwyty a bar newydd.
Ond yn fuan ar ôl i SY23 - a enillodd seren Michelin - agor, fe darodd y pandemig a bu'n rhaid cau'r drysau am gyfnod.
"Fe wnaethon ni fuddsoddi yn drwm iawn mewn i'r adeilad a'r busnes newydd 'ma, 'mond i gael ein cau tri mis ar ôl agor - felly gawsom ni dipyn o fraw pan wnaeth Covid ein cau ni," meddai Rhian ar raglen Dros Frecwast.
Esboniodd Rhian eu bod nhw wedi gallu hawlio rhywfaint o arian i gefnogi'r clwb nos, ond gan fod y bwyty mor newydd, doedd modd hawlio dim i helpu gyda chostau'r busnes.
"Dim ond o'r clwb nos o'n ni wedi gallu cael elw o fan hyn a fan draw, ond dim hanner digon i gyfateb â'r hyn oedden ni wedi buddsoddi," meddai.
"Oedden ni eisiau bwyty da yn nhref Aberystwyth, moyn e i bobl y dref ac i bobl ddod mewn i'r dref."
Cyn i'r busnesau orfod cau oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo, fe wnaeth y gŵr a gwraig ofyn am gymorth gan eu cwmni yswiriant.
"O'dd Mark wedi ceisio ffonio'r cwmni i weld os oedden ni'n gallu galw arnyn nhw i helpu ni gau un busnes er mwyn cynnal y llall, ond 'na' oedd yr ateb o'r cychwyn cyntaf," meddai Rhian.
Mynnodd y cwmni yswiriant fod rhaid cael prawf bod Covid wedi bod yn bresennol yn y lleoliad ac mai dyna pam eu bod wedi cau, er mwyn hawlio arian.
'Colledion personol ac ariannol'
Honnodd Rhian fod y cwmni wedi ysgrifennu at y busnes ychydig fisoedd i mewn i'r pandemig yn cydnabod bod achosion o Covid wedi bod yno, ond eu bod wedi tynnu hynny'n ôl yn hwyrach yn y broses.
"Achos bo' ni wedi bod yn isel o ran staffio, fe ddaeth tad Mark, a'i lysfam i lawr i helpu ni gyda'r busnes.
"Ar ôl iddyn nhw fynd yn ôl i Loegr fe aethon nhw'n sâl. Mae'n amlwg eu bod nhw wedi dal Covid gyda ni lawr 'na, a buon nhw farw.
"Bu farw llysfam Mark ychydig ddiwrnodau ar ôl mynd i'r ysbyty, ac wedyn fuodd tad Mark yn sâl iawn am ychydig wythnosau a fe gollon ni fe hefyd, a'i fodryb.
"Ni 'di 'neud colledion personol yn ychwanegol i'r ariannol."
Yn ôl Rhian, mae'r broses o geisio hawlio arian gan y cwmni yswiriant wedi bod yn "saga, ac yn frwydr hir".
"Fe enillon ni'n achos yn yr Uchel Lys ym mis Mehefin 2023... ond fe aethon nhw â'r achos i'r Llys Apêl - aeth blwyddyn arall heibio a wnaethon ni ennill eto.
"Gafo' ni'r judgement lawr wythnos diwethaf oedd yn dweud ein bod ni wedi ennill, ond dim ond galluogi ni i fynd ymlaen â'n achos personol ni mae hwn.
"Mae'r achos wedi cyfiawnhau bo' ni'n gallu hawlio ar ein polisi, ond ni ddim wedi cael ein talu dimau eto."
Dywedodd Rhian fod rhai adroddiadau yn y wasg eu bod nhw am dderbyn £1.5m yn "annheg" gan mai dyma oedd maint eu colledion ar draws y cyfnod, a gwneud yn iawn am hynny yw'r nod.
'Cynnig gobaith i filoedd o fusnesau'
Mae Rhian a'i gŵr yn gobeithio y bydd eu buddugoliaeth nhw yn y Llys Apêl yn helpu busnesau eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
"Dyna beth oedd y pwrpas mawr, fyddwn i wedi hen ddanto gyda hyn i gyd, ond mae'r gŵr yn benderfynol o ran egwyddor ei fod e am weld hyn drwyddo," meddai.
"Dyw e ddim yn fater teg.
"Ma' pawb wedi prynu ac wedi talu am flynyddoedd am y business interuption yma fel rhan o'u polisïau, ac mae'r cwmnïau yswiriant yn gwrthod talu mas am bethau bach."
Dywedodd cwmni cyfreithiol Hugh James, oedd yn gweithredu ar ran Rhian a Mark Phillips, fod y dyfarniad yn un "hanesyddol" sy'n cynnig eglurder i fusnesau sydd â pholisïau yswiriant tebyg.
"Mae'r penderfyniad yn cynnig gobaith i filoedd o fusnesau sy'n gobeithio am iawndal yn sgil effaith economaidd y pandemig," meddai'r cwmni.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am ymateb gan gwmni West Bay Insurance PLA a QIC Europe Limeted.