Siop y Pethe yn Aberystwyth i werthu ar-lein yn unig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Siop y Pethe: 'Cadw'r drysau ar agor ddim yn bosib'

Mae perchennog Siop y Pethe - y siop Gymraeg fodern gyntaf - wedi cyhoeddi y bydd yn cau'r siop eiconig yn Aberystwyth ac yn symud i werthu ar-lein yn unig.

Agorodd drysau'r siop ym 1967 - y cyntaf i werthu llyfrau, recordiau a phosteri poblogaidd Cymraeg.

Yn 2015 fe drosglwyddodd sylfaenwyr y siop - Megan a'r diweddar Gwilym Tudur - Siop y Pethe i ddwylo'r perchnogion newydd.

"Fe 'nath Gwilym a Megan, flynyddoedd yn ôl, ddod allan a chreu rhywbeth arbennig yma yng nghanol y dre," medd y perchennog Aled Rees.

"Ond mae'n rhaid symud 'mla'n gyda'r amser, a gwneud y penderfyniadau anodd 'ma."

"Bydd Siop y Pethe yn trosglwyddo ei ffocws i'n platfform ar-lein siopypethe.cymru," medd Aled Rees fore Gwener, "ac yn mynychu digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dyfodol rhagweladwy."

Bydd y siop gwerthu nwyddau Cymreig Broc Môr yn parhau ar y safle.

Ychwanegodd: "Fel dyn busnes gymeres i dros y siop, ac roedd lot o galon ynddo fe a lot o ben.

"Dyn busnes ydw i ar ddiwedd y dydd, ond eto mae'r siop wedi aros ar agor achos bod fy nghalon i yn yr adeilad ac ma fy nghalon i yn y gymuned yn Aberystwyth.

"Ond eto, os dwi'n edrych arno ar y ffigyre, ma' popeth wedi mynd lan.

"Ni'n berchen ar yr adeilad, ond roedd cost ein morgais ni... rhyw £1,200 y mis ro'n ni'n talu rhyw bum mlynedd nôl - nawr mae e'n £1,800. Ma' gyda ni gostau tanwydd a mae hwnna wedi mynd fyny.

"Ma' popeth wedi codi, ac ma' niferoedd y bobl sy'n dod mewn wedi mynd lawr, ac os ti'n edrych arno fe fel dyn busnes dyw cadw'r drws ar agor ddim yn gallu digwydd," meddai.

"Yn dilyn trafodaethau gyda Broc Môr, penderfynwyd y byddai Siop y Pethe yn gadael yr eiddo yn yr wythnosau nesaf, gyda'r cyhoeddiad swyddogol wedi'i drefnu ar gyfer Mawrth 1af.

"Roedd y penderfyniad hwn yn emosiynol drethus, yn enwedig o ystyried marwolaeth diweddar Gwilym, cyd-sylfaenydd y siop.

"Rwyf am sicrhau pawb bod y symudiad hwn yn cael ei wneud gyda pharch mawr i etifeddiaeth Gwilym a Megan rhywbeth yr wyf bob amser wedi ymdrechu i'w gynnal," meddai Aled Rees mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore Gwener.

Disgrifiad o’r llun,

Fis diwethaf, bu farw Gwilym Tudur - a sefydlodd Siop y Pethe gyda'i wraig, Megan - yn 83 oed

Yn ôl Aled Rees mae sefyllfa Siop y Pethe yn symptom o'r heriau mae'r stryd fawr yn eu hwynebu.

"Mae pobl yn gwario'n wahanol. Ma' profiade a'r safon wedi codi ac ma' angen i ni feddwl bod hwnna'n ffordd o gael pobl mewn i'r trefi.

"Dwi'n mwynhau mynd i 'escape room' pan dwi bant, a ma' hwnna'n brofiad.

"Wethie ma'n well 'da plant rhywbeth sy'n rhoi gwên ar eu hwyneb a dim pethau materialistic sy'n gallu torri o fewn oriau.

"Dwi'n gweld taw profiadau a newid canol ein trefi... fel bod pobol yn mynd nôl i fyw ynddyn nhw yw'r ateb.

"Mae 'na lot o swyddfeydd gwag. A oes modd newid rheiny i lefydd ma' pobl yn gallu byw?"

'Angen i'r llywodraeth edrych ar ddarllen Cymraeg'

Yn y cyfamser mae Siop Lewis yn Llandudno ar fin cau a'r perchennog, Trystan Lewis, yn gwerthu'r stoc am hanner pris a llai.

Ffynhonnell y llun, Siop Lyfrau Lewis

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Mr Lewis: "Y gwir amdani yw mai'r Cymry yn hoffi'r syniad o siop Gymraeg ond bellach nid ydyn nhw'n gynaliadwy.

"Y gwirionedd ydi, mae calon yn hytrach na phen sy'n rhedeg siopau fel hyn.

"Os ydi siopau am barhau, mae'n rhaid i'r llywodraeth gynnig ryw fath o gymhorthdal neu ma' siopau mynd i ddiflannu.

"Mae'r llywodraeth yn ymrwymo i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Os ydyn nhw o ddifri, mae rhaid iddyn nhw edrych ar ddarllen Cymraeg a'r allbynnau."

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae busnesau Cymraeg yn bwysig i'n heconomi ac yn helpu i hyrwyddo'r iaith a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

"Mae nifer o'r rhai sydd wedi sefydlu busnesau Cymraeg ymhlith pencampwyr gwreiddiol yr iaith.

"Ddydd Gwener, rydym wedi lansio cynllun sy'n annog mwy o fusnesau ac unigolion i ddod yn llysgenhadon diwylliannol i hyrwyddo'r Gymraeg a'u treftadaeth yn eu cymunedau.

"Am y bumed flwyddyn yn olynol rydym yn darparu rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n ychwanegol at y cymorth gwerth bron i £1 biliwn sydd wedi'i ddarparu ers 2020-21."

Disgrifiad o’r llun,

"Ma popeth wedi codi, ac ma niferoedd y bobol sy'n dod mewn wedi mynd lawr," meddai Aled Rees

Ai cynnig profiadau yn ogystal â nwyddau yw'r ateb i sicrhau dyfodol siopau Cymreig Cymru?

Dyna'r cam mae siop Ffab yn Llandysul wedi ei gymryd.

Ar safle hen siop lyfrau argraffwyr Gomer yn y dre, mae Ffab wedi bod yn gwerthu llyfrau, cardiau a nwyddau o bob math ers 2014.

Ond mae nifer y llyfrau sydd yn cael eu gwerthu wedi bod yn gostwng dros y blynyddoedd, yn ôl y perchennog Bethan Jones.

"Mae'r gwerthiant wedi mynd lawr tipyn a dweud y gwir. Ond mae llyfrau dal yn bwysig, ni dal yn cael tipyn o lyfrau plant mewn, nhw sy'n gwerthu, neu llyfrau penodol sy'n 'neud gyda'r ardal, ma rheiny'n bwysig.

"Ni yn gwerthu llyfrau, ond dim digon i gynnal siop."

Disgrifiad o’r llun,

"Ni yn gwerthu llyfrau, ond dim digon i gynnal siop," meddai Bethan Jones, perchennog Siop Ffab yn Llandysul

Ers dwy flynedd mae siop goffi wedi agor lan llofft uwchben siop nwyddau Ffab ac mae hwnnw'n tynnu rhagor o gwsmeriaid trwy'r drws.

"Mae e'n denu pobl fwy i'r siop nawr achos ma' nhw'n gw'bod bod nhw'n gallu dod i gael bwyd fan hyn.

"Mae pobl yn dod am fwyd a falle cofio 'w, mae eisiau anrheg arna'i neu cerdyn' ac mae'n gweithio dwy ffordd rili.

"Fe neithon ni gau'r siop goffi jyst cyn Dolig llynedd, ac fe a'th y siop lawr stâr yn eitha tawel. Ond ers ailagor mae hi 'di bod yn fishi iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Edward Thomas Jones bod angen i'r stryd fawr "gynnig mwy o brofiadau" bellach

Yr her fwyaf i siopau bach, a siopau llyfrau Cymraeg yn benodol, yw'r gystadleuaeth gan siopa ar-lein yn ôl yr uwch-ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Bangor, Dr Edward Thomas Jones.

Ond mae e'n credu bod "cynnig profiadau" yn gallu helpu siopau'r stryd fawr i ffynnu.

"Ry'n ni'n gweld y stryd fawr yn datblygu o sut 'dan ni yn ei chofio yn yr 80au a'r 90au," meddai.

"Mae nawr yn stryd sy'n cynnig profiadau yn hytrach na siopa, a dyna'r unig ffordd 'neuth y siopau bach yma gario 'mlaen i'r dyfodol yw trwy gynnig rhyw brofiad i'w cwsmeriaid."

Pynciau cysylltiedig