Ble mae'r dychan Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd
Barry JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Archie wedi gweithio ar raglenni dychan Dim Byd a Cnex

Mewn cyfnod sy'n gallu teimlo'n ddigon tywyll mae'r dyn ddaeth â rhaglenni comedi fel Dim Byd a 'Run Sbit i deledu Cymraeg yn addo chwistrelliad o hiwmor i godi'n calonnau gyda rhaglen ddychan ar Radio Cymru.

Gyda help archif y BBC mae Barry 'Archie' Jones yn cymryd golwg ddychanol ar y Gymru Gymraeg yn y rhaglen Dim Byd (Ar y Radio) ar Radio Cymru ar 3 Ebrill.

"Dychan ysgafn... rhyw fath o spoof o raglen Wythnos i'w Chofio fydd yn cyfeirio at eitemau yn yr wythnos a torri wedyn i glipiau o archif Radio Cymru i neud sgetsus swreal," fydd y rhaglen meddai.

Er bod rhai yn dadlau fod gwleidyddiaeth y byd bellach y tu hwnt i ddychan - y realiti yn fwy swreal nag y gallai unrhyw ddigrifwr ei ddychmygu - byddai nifer yn dweud bod yr angen yn fwy nag erioed am ddefnyddio hiwmor i roi'r byd, a'r unigolion sy'n ei arwain, yn eu lle.

Yn Saesneg mae rhaglenni dychan fel Have I Got News For You, Mock the Week, Spitting Image a chomedïwyr fel Frankie Boyle yn dal i geisio cadw'r grefft yn fyw.

Ond pam mai prin yw'r rhaglenni hyn yng Nghymru?

"Mae'n dod lawr i arian," meddai Archie, sy'n gynhyrchydd a sgriptiwr (a cherddor, ond stori arall ydi honno) ac wedi cytuno i gael sgwrs ddifrifol am gomedi gyda Cymru Fyw - sy'n ddewr o ystyried bod trio dadansoddi hiwmor yn lladd y jôc, medden nhw.

"Mae'r rhaglenni dychan yma, y dychan caled wythnosol cyfredol, ar y cyfan yn cael eu gwneud gan dimau o bobl.

"Mi gei di bobl rownd y bwrdd yn trafod, 'lle dani'n mynd efo'r stori yma?' ac mae pobl yn batio syniadau rownd nes yn y diwedd maen nhw'n berwi fo lawr i un jôc ar ôl oriau o drafod.

"Tydi'r arian ddim yn y Gymru Gymraeg i gynnal y math yna o bobl i ddod i fyny efo un jôc, a fydd o byth.

"Mae hwnna'n rhan mawr o pam nad oes gynnon ni ddim dychan yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dim Byd ar y Radio yn rhoi golwg ddychanol ar y Gymru Gymraeg

Rheswm arall ydy mai "pwll bach" o straeon sydd yna yng Nghymru meddai.

"Os oes 'na stori fawr yn torri am Brecsit neu rywun o'r cabinet yn gwneud rhywbeth, wel erbyn yr amser i bennod yr wythnos yma o Post Mortem er enghraifft ddod allan [rhaglen ddychan oedd ar Radio Cymru rai blynyddoedd yn ôl], wel mae'n hen stori.

"A mwy byth yn y dyddiau yma o wefannau cymdeithasol lle mae gan bawb lais, o fewn eiliadau i rywbeth ddigwydd, mae pawb yn gallu dweud rhywbeth, heb gael eu talu am wneud, maen nhw jyst yn roi o allan.

"Mae unrhyw sgriptiwr wedyn yn cwffio yn erbyn 'dwi di clywed y jôc yna o blaen!'

"Be' bynnag sy'n digwydd mae 'na filoedd o bobl allan yna yn gallu dod i fyny efo jôc am y sefyllfa sy'n digwydd, ei drydar o a hwnna'n cael ei rannu o fewn eiliadau."

Sgrifennu ar gyfer y 'pwll bach'

Dechreuodd Archie sgrifennu sgetsus i raglen Cnex, cyfres gomedi wedi ei hanimeiddio oedd yn gwneud hwyl am ben rhai o enwogion Cymru.

Yn hytrach na cheisio cystadlu gyda'r 'pwll mawr' o straeon roedden nhw'n canolbwyntio ar straeon Cymreig a Chymraeg, ond mae 'na berygl wedyn o greu rywbeth ar gyfer criw rhy ddethol o bobl meddai.

"Oeddan ni'n teimlo ar y pryd bod Cnex yn rhaglen oedd wedi cael ei sgwennu ar gyfer y bobl sydd i mewn i'r 'pethe'," meddai.

"Digon hawdd inni neud jôc bach am y ffaith fod Gerallt Pennant ella'n siarad fel hen ddyn pan oedd o'n hogyn ifanc, ond ti'n gorfod bod yn ymwybodol o pwy ydi Gerallt Pennant i werthfawrogi hynna, felly oeddan ni'n lwcus ei fod o yn gweithio, ond bach iawn oeddat ti'n gallu ei wneud hefyd achos bod ni yn wlad mor fach."

Llun o Barry 'Archie' Jones
Cwmni Da
Mae na ambell i sgets fyddai'n meddwl amdano a meddwl ddylsa ni heb fod wedi gwneud hynna...
Barry 'Archie' Jones

Hefyd roedd y ffaith fod y gyfres wedi ei hanimeiddo, ac felly'n cymryd amser i gyrraedd y sgrîn (yn ogystal â bod yn ddrud i'w gwneud), yn golygu nad oedden nhw'n gallu gwneud straeon cyfredol.

"Yn lle hynny roeddan ni'n sbïo ar bobl adnabyddus Cymraeg a trio chwyddo nhw iddyn nhw fod yn sefyll am ryw haen o gymdeithas," meddai.

"Roedd Bryn Terfel yn sefyll am fwy na Bryn Terfel, roedd o'n sefyll am y bobl gyfoethog oedd yn trio chwarae lawr eu cyfoeth drwy fod yn rhywun cyffredin ar y stryd, so oeddan ni'n mynd mwy lawr y lôn yna, oedd yn dal yn ddychan ond yn ddychan llai cyfredol.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

"Da de?" Fersiwn Cnex o Bryn Terfel

Rhy bell?

"Wrth sbïo nôl ar Cnex, roedd hi'n hawdd weithiau i feddwl, dwi di dod i fyny efo jôc am hwn a hwn neu hon a hon a mynd efo fo. Ac oedd 'na ryw fath o fethu camu nôl weithiau a meddwl 'ydi hwn yn greulon?' 'A ddylsa ni fod yn gwneud hyn?'.

"Ac ar adegau roedd 'na bethau yn mynd heibio.

"Mae 'na ambell i sgets fyddai'n meddwl amdano a meddwl ddylsa ni heb fod wedi gwneud hynna - a dwi'n gwybod fysa ni ddim wedi hyd yn oed trio ei wneud o y dyddiau yma.

"Ti ddim yn cael gwneud hwyl am ben gwahanol grefydd neu gender ac unrhyw beth fel'na. Mae beth sy'n cael ei ystyried gan bobl gall fel testun sbort wedi mynd yn llai ac yn llai, a 99.9% o'r amser dwi'n hollol gytuno efo hynna.

"Dwi wirioneddol ddim yn meindio sut mae'r rheolau yn cael eu gwasgu o ran dychan, achos be mae o'n neud ydi gwneud y dasg o sgwennu rhywbeth yn anoddach, ond mae na her yn fanna hefyd.

"Os dwi ddigon da mi fedrai wneud o, ac os dwi ddim digon da yna dwi ddim digon da."

Hiwmor i daclo anghyfiawnder

Beth felly ydy swyddogaeth dychan, y grefft o dynnu blewyn o drwyn?

"Mae gynnon ni i gyd hawl i leisio barn am unrhyw beth dani'n ystyried yn anghyfiawn yn y byd," meddai Archie.

"A dau ffordd sydd 'na dwi'n meddwl o ddangos bod chi'n anhapus efo unrhyw anghyfiawnder - bod yn flin am y peth a rantio, a hyn a hyn o rantio mae rhywun yn gallu ei wneud achos mae'n cael chdi lawr, a hyn a hyn o wrando ar rywun yn rantio elli di ei wneud.

Ffynhonnell y llun, BritBox/Spitting Image
Disgrifiad o’r llun,

Thatcher oedd prif gocyn hitio Spitting Image yn yr 1980au ond mae'r gyfres newydd wedi creu pypedau grotesg o Donald Trump a Boris Johnson ymysg eraill

"Ond y ffordd arall wrth gwrs ydi gwneud hwyl am ben y sefyllfa, sydd wastad yn mynd i fod y peth gorau i wneud achos dachi'n teimlo'n dda bod chi'n chwerthin.

"Rydych chi'n dal i weld bod y sefyllfa yn un annheg, mae hwnnw dal yna, ond dachi'n gallu chwerthin am y peth, achos' dach chi naill ai'n chwerthin neu grio!

"Yn ychwanegol i hynna wrth chwerthin am unigolyn sy' 'di gwneud rhywbeth anghyfiawn, neu unrhyw gorff, wrth chwerthin am ben y peth dachi'n tynnu blewyn o'u trwyn nhw ac yn cael ryw fwynhad o 'we're on to you' math o beth.

"Dyna ydi job dychan - jyst i dynnu'r edge oddi ar pa mor ofnadwy ydi'r byd! Neud inni sylweddoli mai jyst jôc ydi'r holl beth."

Hefyd o ddiddordeb: