Agor a gohirio cwest yn achos marwolaeth yr AS Hefin David

Cafodd Hefin David ei ethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Caerffili yn Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos marwolaeth yr Aelod o'r Senedd Hefin David.
Roedd yna deyrngedau lu i AS Llafur Caerffili pan ddaeth cadarnhad yn gynharach yn y mis ei fod wedi marw yn sydyn yn 47 oed.
Clywodd gwrandawiad yn Llys Crwner Gwent ddydd Mawrth fod ei chwaer wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gartref ym mhentref Nelson, ger Caerffili.
Fe fyddai Mr David wedi troi'n 48 oed y diwrnod canlynol.
Fe fydd y cwest llawn yn cael ei gynnal ar 7 Ebrill 2026.
- Cyhoeddwyd13 Awst
Dywedodd y Crwner Ardal, Rose Farmer, fod parafeddygon wedi cael eu galw i'r tŷ brynhawn Mawrth, 12 Awst a'u bod wedi cadarnhau ei fod wedi marw am 17:27.
Dywedodd Heddlu Gwent adeg cyhoeddi marwolaeth Mr David nad oedd yr achos yn un amheus.
Cafodd archwiliad post-mortem ei gynnal ar 16 Awst.
Dywedodd y crwner fod yr archwiliad hwnnw heb gadarnhau achos y farwolaeth a bod angen aros am gasgliadau adroddiad tocsicoleg.
'Tad annwyl' a chynrychiolydd 'uchel ei barch'
Mae teulu Mr David - gan gynnwys ei gymar, Aelod o'r Senedd Cwm Cynon a'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells - wedi mynegi eu diolch am yr holl negeseuon o gydymdeimlad ers ei farwolaeth.
Dywed eu datganiad: "Mae'n glir o'r negeseuon niferus rydym wedi eu derbyn bod Hefin yn uchel ei barch ac yn cael ei hoffi'n fawr gan y gymuned yr oedd yn ei chynrychioli, a'r bobl y cydweithiodd â hwy yn ystod ei flynyddoedd lu o wasanaeth cyhoeddus.
"Ond yn fwy na hynny, roedd Hefin yn dad ffyddlon hoff i'w ferched Caitlin a Holly, yn fab annwyl i Wynne a Christine, yn frawd annwyl i Siân, yn ewythr gwych i Osian a Catrin, ac yn enaid hoff cytûn i'w gymar annwyl Vikki.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cysylltu â ni ers marwolaeth Hefin, ac yn gofyn nawr am breifatrwydd i alaru."