Marchogaeth 'wedi achub' dynes ddall oedd ddim eisiau mentro o'r tŷ

Lesley a Second Brook
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lesley Sayers, mae ei pherthynas gyda Second Brook wedi ei "hachub"

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes o Gymru, sydd wedi profi sawl her mewn bywyd, wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau gyda chyn-geffylau rasio.

Mae Second Brook o Gastell-nedd, a'i berchennog dall Lesley Sayers, 40, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Ceffyl y Flwyddyn 2025.

Mae'r cyn-geffyl rasio, Up For An Oscar, hefyd wedi ei enwebu ar gyfer y wobr am Effaith Gymunedol, am ei waith gyda Samantha Ivy Barton, 19 oed o Sir Benfro, sydd wedi profi heriau digartrefedd yn ddiweddar.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo 'Retraining of Racehorses' (RoR) ar gae ras Cheltenham ddydd Sadwrn.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lesley yn 29 oed pan gafodd hi ei chofrestru'n ddall

Dros 10 mlynedd yn ôl, cafodd Lesley Sayers - oedd yn 29 oed ar y pryd - ei chofrestru'n ddall.

Fe effeithiodd hynny ar ei hyder o amgylch ceffylau, sef ei phrif ddiddordeb.

"Fe dorrodd fy nghalon oherwydd roeddwn i'n meddwl na allwn i wneud yr hyn roeddwn i'n arfer ei wneud," meddai.

"Oni bai fy mod gyda mam neu fy nhad, doeddwn i ddim eisiau mynd allan o'r tŷ.

"Mae'r byd yn lle brawychus pan allwch chi weld, heb sôn am pan na allwch chi weld."

Ym mis Medi 2015, cafodd Lesley ei chi tywys cyntaf. Mae'n dweud i'r ci tywys roi hyder iddi farchogaeth unwaith eto.

Gyda chefnogaeth ei mam Wendy, sydd hefyd yn marchogaeth, fe ddaethon nhw o hyd i'r cyn-geffyl rasio, Second Brook, sy'n cael ei adnabod bellach wrth ei enw stabl, Seb.

Dywedodd Wendy fod Seb wedi helpu ei merch i ganfod ei llwybr hi mewn cyfnod tywyll, ac fe ddechreuodd farchogaeth eto yn 2016.

"Fe yw fy ffrind gorau. Fe achubodd fi ac rydw i yno iddo fe," meddai Lesley.

"Mae e'n bwyllog, mae e'n gallu bod yn spicy, ond fe yw'r gorau."

'Mae e'n un o fil'

Seb, neu Second Brook, yw un o'r cyn-geffylau rasio i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Ceffyl y Flwyddyn 2025 yng ngwobrau'r RoR.

Ers ymddeol yn 2014 mae wedi cael ei gydnabod am ei allu wrth addasu i anghenion ei berchennog.

Dywedodd Lesley, sy'n dibynnu'n llwyr ar olwg Seb wrth gystadlu, fod cyrraedd y rownd derfynol yn "sioc llwyr" iddi.

"Mae pawb sydd yn y ffeinal yn haeddu ennill, ond byddai unrhyw un sy'n fy adnabod ac sydd wedi gweld ein stori, yn deall ei fod e'n un o fil.

"Nid llawer fyddai'n goddef beth mae e'n ei oddef gyda fi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gweithio gydag Up For An Oscar wedi helpu Samantha wrth ddelio â phroblemau yn ei bywyd personol

Mae'r RoR - elusen sy'n cefnogi cyn-geffylau rasio trwy ddiogelu eu lles, yn ogystal â darparu addysg, cymorth a chyngor i'w perchnogion - yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu eleni.

Mae'r cyn-geffyl rasio, Up For An Oscar o Sir Benfro a Samantha Ivy Barton, 19, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Effaith Cymunedol y RoR.

Maen nhw wedi cael eu henwebu yn sgil eu gwaith yn Redberth Croft CIC, cwmni budd cymunedol sy'n cefnogi cyn-filwyr, unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol a grwpiau bregus eraill yn Sir Benfro a gorllewin Cymru.

'Mor anghredadwy'

Yn gynnar yn 2024, fe brofodd Samantha yr her o fod yn ddigartref.

Ond daeth o hyd i bwrpas newydd yn ei gwaith gydag Up For An Oscar, sydd bellach yn cael ei alw'n Ozzy.

Bellach yn gweithio fel rheolwr fferm yn Redberth Croft CIC, mae Samantha ac Ozzy yn ysbrydoli ac yn mentora pobl ifanc o'r gymuned leol, gan eu helpu i fagu hyder yn eu hunain a'u gallu i weithio gydag anifeiliaid mawr.

"Byddai'r fersiwn iau ohonof i wedi edrych ar hyn ac wedi mynd, 'na, dim gobaith', oherwydd mae hyn mor anghredadwy," meddai Samantha.

"Rydw i ac Ozzy wedi gweithio trwy lawer o amseroedd anodd, amseroedd caled.

"Ry'n ni wedi gweithio gyda'r gymuned yn Redberth Croft a chymunedau eraill wrth fynd i sioeau a phethau, gan roi ein henwau allan yna.

"Mae cael y strwythur hwnnw o bobl o'ch cwmpas mor bwysig wrth weithio tuag at unrhyw freuddwyd neu angerdd sydd gennych chi."

Disgrifiad o’r llun,

Amelie Houghton, 13, sy'n cael ei mentora gan Samantha yn Redberth Croft

Dywedodd Amelie Houghton, 13, sy'n cael ei mentora gan Samantha yn Redberth Croft: "Maen nhw wedi gweithio yn galed iawn, iawn i gyrraedd lle maen nhw nawr.

"Mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod trwy gymaint felly dwi'n credu eu bod nhw'n haeddu'r wobr.

"Mae hi [Samantha] wedi fy helpu llawer ac wedi rhoi'r cyfle i mi fod o amgylch ceffylau mawr. Dwi'n falch fy mod wedi cwrdd â'r ddau ohonyn nhw."

Bydd yr holl enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni wobrwyo ar gae ras Cheltenham ar 25 Ionawr.

Pynciau cysylltiedig