Cyn-chwaraewr rygbi Cymru Josh Navidi i ailgydio yn y Gymraeg

Ken Owens a Josh Navidi yn sefyll wrth ymyl y cae rygbi yn Stadiwm y PrincipalityFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ken Owens fydd mentor Josh Navidi ar y gyfres newydd o Iaith ar Daith

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi, Josh Navidi wedi cael cymorth cyn-gapten Cymru i ailafael yn y Gymraeg.

Symudodd tad Navidi o Iran i Gymru yn sgil Chwyldro Islamaidd Iran yn 1979, ac mae ei fam yn wreiddiol o Ynys Môn.

"Dwi eisiau ailgydio yn fy Nghymraeg," meddai Navidi.

“Mae Mam yn siarad Cymraeg - mae hi’n siarad gyda fi yn Gymraeg ond dwi’n ateb yn Saesneg."

Cyn-fachwr Cymru, Ken Owens, fydd mentor Navidi ar y gyfres newydd o Iaith ar Daith ar S4C.

Disgrifiad,

Josh Navidi a'i fam, Euros, yn siarad Cymraeg mewn cyfweliad o 2019

Yn Llanddona, Sir Fôn mae taith Navidi yn dechrau, lle'r oedd ei nain yn byw.

Ymysg y tasgau sy’n ei wynebu ar ei daith mae gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm Principality.

“Mae’r Gymraeg yn rhan ohona i, ond mae jest angen yr hyder i ddatgloi hynny a medru siarad gyda phobl yn yr iaith," ychwanegodd Navidi.

Dechreuodd Navidi, 33, ei yrfa gyda chlwb Caerdydd yn 2009, ac fe enillodd 33 o gapiau dros Gymru.

Cyhoeddodd ei fod yn ymddeol o rygbi y llynedd ar ôl anaf difrifol i'w wddf.

Ers ymddeol, mae wedi troi at sylwebu a gwerthu ceir.

Mae Iaith ar Daith yn dechrau ar S4C nos Sul am 20:00

Pynciau cysylltiedig