'Syndod' ffermwr ar ôl i fuwch eni tri llo ar Ynys Môn

LloiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y lloi ar fferm Sarn Llanfechell

  • Cyhoeddwyd

Mae digwyddiad anarferol iawn o fewn y byd amaeth wedi achosi sioc ar fferm yn Ynys Môn, wrth i fuwch roi genedigaeth i dri llo.

Roedd yn "syndod mawr" i Gareth Pritchard Jones pan welodd dair heffer fach wrth ochr eu mam ar ei fferm Sarn Llanfechell.

Mae'n debyg ei fod yn ddigwyddiad un mewn 100,000, ac ar yr achlysur yma roedd y tarw o frid Hereford, a'r fuwch yn Friesian.

Yn siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Mr Jones fod yr enedigaeth wedi dod yn gynt na'r disgwyl gan fod y fuwch yn cario tripledi ond bod y lloi "yn ffynnu".

GwarthegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y lloi gyda'u mam

"Dwi 'di cael aml set o twins bob blwyddyn ond erioed 'di meddwl cael tri llo gan fuwch o'r blaen," meddai.

"Di nhw ddim yn lloi gwael o gwbl i feddwl fod 'na dri ohonyn nhw.

"'Sa chi heb 'di dweud fod y fuwch yn cario tri chwaith."

Dywedodd fod y lloi yn tynnu ar ôl eu mam, gyda'u cotiau coch a phennau gwyn.

"Maen nhw i fewn hefo'r lloi eraill ŵan ac yn hapus iawn," ychwanegodd.

"Mae'r fam yn cael ei godro - maen nhw'n ffynnu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig