Pryder fod 'dim dyfodol' i gynllun Tir Glas yn Llambed
- Cyhoeddwyd
Mae aelod Senedd Cymru dros Geredigion wedi dweud ei bod hi'n ofni bellach nad oes dyfodol i gynllun i greu academi bywyd gwledig ar safle Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llambed.
Cafodd Academi Tir Glas ei lansio gyda chryn ffanffer gan y brifysgol ym mis Ebrill 2022, dolen allanol, gyda'r bwriad o ddatblygu hyfforddiant ym maes bwyd, mentrau gwledig a choedwigaeth.
Yn dilyn cyhoeddiad y brifysgol ym mis Tachwedd bod yna fwriad i symud cyrsiau'r dyniaethau i Gaerfyrddin ym mis Medi 2025, mae Elin Jones wedi dweud ei bod hi'n gweld "dim dyfodol" i gynllun Tir Glas gan fod "unigolion allweddol" bellach wedi gadael.
Dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bod cynllun Tir Glas "wedi ei atal dros dro" tra bod "adolygiad trylwyr" yn cael ei gynnal.
Mae BBC Cymru'n deall bod dau ffigwr blaenllaw, oedd wedi datblygu cwricwlwm ar gyfer Tir Glas, wedi penderfynu gadael y brifysgol yn gynharach eleni.
Mae Simon Wright a Carwyn Graves yn arbenigwyr ym maes bwyd.
Cafodd Mr Wright ei benodi fel "Athro Ymarfer" gan y brifysgol ym mis Tachwedd 2021.
Roedd Carwyn Graves yn ddarlithydd mewn Treftadaeth a Diwylliant Bwyd Cymru.
Deellir bod y ddau wedi penderfynu gadael y brifysgol o'u gwirfodd.
Mae cyn-Brofost safle Llanbedr Pont Steffan, Gwilym Dyfri Jones, hefyd wedi gadael Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae Elin Jones AS yn dweud ei bod hi'n gweld "dim dyfodol" i'r cynllun ar ôl ymadawiad yr unigolion hynny.
Dywedodd y byddai'r cynllun wedi "gweddu yn berffaith i ardal fel Llambed, sydd wedi bod mor ddibynnol ar gynhyrchu bwyd - wedi bod ac i'r dyfodol".
"Roedd yna gyffro yn y dref, bod cynllun Tir Glas wedi ei gynllunio gan y brifysgol a bod yna unigolion wedi eu cyflogi - pobl oedd â pharch uchel iddyn nhw.
"A'r rheiny mae'n debyg wedi gorfod gadael erbyn hyn hefyd.
"Mae'n amlwg nawr, o edrych o weddol o bell, bod y cynlluniau a'r addewidion wedi cael eu hadeiladu ar dywod yn hytrach nac ar graig, ac eu bod nhw wedi cael eu gor-addo i'r coleg ac i'r ardal, a doedd yna ddim seiliau digon cadarn i gynllun o'r fath.
"Mae'n drueni, oherwydd roedd yna gyffro ac egin cyfle i weld rhywbeth o wir werth i Lambed, ac mae hynny yn gwneud tristwch heddi hyd yn oed yn fwy."
Beth ydy cynllun Tir Glas?
Fe wnaeth yr Athro Elwen Evans olynu Medwin Hughes fel Is-Ganghellor y brifysgol ym mis Medi 2023.
Fe ofynnodd BBC Cymru am gyfweliad gyda'r Is-Ganghellor ond fe wrthodwyd y cais.
Mewn broliant ar wefan Tir Glas,, dolen allanol mae'r brifysgol yn dweud taw nod y cynllun yw "creu academi academaidd ac ymarferol i ddatblygu bywyd gwledig cynaliadwy, gan hyrwyddo ffyniant economaidd a sofraniaeth leol yn ogystal ag arddangos gwir gyfrifoldeb amgylcheddol tra'n gwarchod ein treftadaeth ddiwylliannol".
Roedd tair elfen i Tir Glas :
Academi Fwyd Tir Glas. Creu bwyd lleol cynaliadwy
Canolfan Datblygu Perfformiad Adeiladau a Phren Cymru
Canolfan Busnes a Menter Wledig
Roedd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyflwyno cais cychwynnol i Fargen Dwf Canolbarth Cymru am arian i ddatblygu cyfleusterau newydd i'r academi.
Yr amcangyfrif ar gyfer y costau cyfalaf oedd £13.4m.
Dim ond achos amlinellol strategol, dolen allanol sydd wedi ei gyflwyno - y cyntaf o dri cham yn y broses gymeradwyo.
Mae Llywodraeth DU wedi cadarnhau bod cynllun Tir Glas wedi derbyn £583,000 o gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig.
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
Mewn datganiad am gynllun Tir Glas dywedodd, llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae'r prosiect wedi'i atal dros dro tra bod adolygiad trylwyr yn cael ei gynnal."
Dyw'r brifysgol ddim wedi datgelu faint o arian sydd wedi cael ei wario ar ddatblygu cynllun Tir Glas.
Dyw'r digwyddiadau ar wefan y cynllun ddim wedi eu diweddaru ers mis Ebrill eleni.
Fe gyhoeddodd y brifysgol yn ddiweddar gynlluniau i symud cyrsiau'r dyniaethau i Gaerfyrddin erbyn mis Medi 2025.
Fe ddatgelodd y brifysgol bod yna ddiffyg o £11m yn y cyfrifon diweddaraf, a bod campws Llanbedr Pont Steffan yn costio £2.7m y flwyddyn i'w gynnal.
Dywedodd y brifysgol bod angen gwario £33.5m ar waith cynnal a chadw ar y safle.
Yn ôl y brifysgol, dim ond 192 o fyfyrwyr llawn amser sydd ar gampws Llambed, gyda 92 ohonynt yn israddedigion - sefyllfa sydd "ddim yn gynaliadwy".
Dywedodd Elin Jones bod ganddi "bryderon enfawr am ddyfodol y campws yn Llambed".
"A'r cydweithio sydd wedi bod rhwng y campws a'r dref dros y ddwy ganrif ddiwethaf - mae llwyddiant y ddau yn dibynnu ar ei gilydd.
"Mae'r syniad bod addysg israddedig yn dod i ben ar y campws yn sioc, siom ac anodd iawn dychmygu beth yw'r dyfodol i'r campws heb addysg israddedig.
"Dyna beth yw holl sail bodolaeth unrhyw brifysgol neu goleg.
"Felly [mae] cwestiynau mawr i'r brifysgol ynglŷn â sut maen nhw wedi cyrraedd fan hyn a beth maen nhw yn mynd i wneud nesaf."
'Cydnabod pwysau ariannol sylweddol'
Mae Elin Jones a'r aelod lleol yn San Steffan, Ben Lake, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn sicrhau bod dysgu yn parhau ar safle Llanbedr Pont Steffan.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod prifysgol Cymru dan bwysau ariannol sylweddol".
"Mae Medr yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol prifysgolion yn ofalus, ac mae'r Gweinidog yn cwrdd gyda Medr ac arweinwyr prifysgolion yn rheolaidd."