Tro pedol ar gynigion i oedi triniaethau rhai cleifion ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod cynlluniau bwrdd iechyd yn y canolbarth i oedi triniaeth rhai cleifion sy'n derbyn gofal dros y ffin yn Lloegr wedi eu gollwng.
Roedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystyried "cam gweithredu eithriadol" fyddai'n golygu y gallai pobl sy'n byw ym Mhowys, sy'n derbyn triniaeth yn Lloegr, gael eu gorfodi i aros yn hirach am ofal.
Yn rhan o'r trafodaethau roedd awgrym y byddai rhai cleifion wedi gorfod aros hyd at 11 wythnos yn hirach am driniaeth, a hynny yn fwriadol er mwyn sicrhau bron i £10m o arbedion.
Mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y bwrdd iechyd fod angen mwy o wybodaeth am effaith y cynnig cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Bydd y bwrdd yn cyfarfod eto ar ddydd Mercher 29 Ionawr i drafod y mater ar ôl derbyn asesiad llawn o effaith posib y cynnig.
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024
Yr argymhelliad sydd bellach yn cael ei wneud yw i'r bwrdd iechyd beidio â chyflwyno unrhyw newidiadau i 'weithgaredd dewisol' - sy'n cynnwys triniaeth i gleifion yn Lloegr - yn nhri mis olaf y flwyddyn ariannol hon.
Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn cael gwybod bod angen rhagor o gydweithio gyda darparwyr gofal iechyd i adolygu sut mae triniaethau a gofal yn cael eu comisiynu'r flwyddyn nesaf "gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael".
A hefyd, y bydd trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru "ar y camau nesaf a chefnogaeth ariannol strategol ar gyfer gweddill 2024/25".
Cynigion yn 'chwerthinllyd'
Dywedodd yr aelod o'r Senedd dros Sir Drefaldwyn, Russell George, fod y cynllun gwreiddiol i oedi apwyntiadau cleifion Powys yn "chwerthinllyd".
"Ni ddylai'r mesurau hyn fod wedi cael eu hawgrymu yn y lle cyntaf," meddai.
"Byddai'n hurt pe bai cleifion o Gymru yn gorfod aros yn hirach am driniaeth oherwydd cyfyngiadau ariannol, yn enwedig pan fo digon o allu i drin y cleifion hynny o fewn ysbytai'r GIG ychydig dros y ffin."
"Rydyn ni ym Mhowys, yn dibynnu ar ysbytai dros y ffin yn Lloegr ac roedd y cynnig hwn mewn perygl o greu anghyfartaledd.
Ychwanegodd fod y cynigion gwreiddiol yn "annerbyniol" ond ei fod yn "obeithiol" y daw'r "canlyniad cywir ddydd Mercher".