Un o sêr Netflix eisiau gallu siarad Cymraeg gyda'i mab
- Cyhoeddwyd
Mae un o sêr y gyfres deledu The Diplomat wedi dweud ei bod eisiau dysgu Cymraeg er mwyn gallu defnyddio'r iaith i gyfathrebu â'i mab.
Mae Keri Russell mewn perthynas â'r Cymro Matthew Rhys, ar ôl iddyn nhw gwrdd ar set y ddrama The Americans.
Dywedodd Ms Russell ei bod wedi dysgu ambell ymadrodd o glywed ei phartner yn siarad â'u mab.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd yr actores ei bod yn "gyfarwydd â bore da, nos da, dwi'n gwybod sut i gyfri. Ond mae Math yn siarad Cymraeg â Sam fwy neu lai drwy'r amser."
Aeth ymlaen i ddweud ei bod yn ysu i ymweld â chanolfan Nant Gwrtheyrn yng Ngwynedd, ar ôl mynegi cymaint o ddiddordeb yn niwylliant Cymru.
"Mae popeth ynghylch y diwylliant Cymraeg a'r Eisteddfod, mae popeth yn gysylltiedig â cherddi a dawns a chelf yn gyffredinol," meddai.
"Roedd cwrdd â Math a dysgu am hynny, mae'n gymaint o ran o bwy ydyw, a pha mor cŵl yw gweld plant yn cael eu magu yn perfformio yn yr hen draddodiad o gelf a chanu a dawnsio."
Fe wnaeth ail gyfres The Diplomat gael ei rhyddhau ar Netflix yr wythnos hon.
Mae Ms Russell yn chwarae rhan Llysgennad UDA yn y gyfres deledu.
Gyda'r etholiad arlywyddol yn ei anterth yn America, mae'n mynnu mai damweiniol yn unig y unrhyw debygrwydd rhwng y gyfres a gwleidyddiaeth y wlad heddiw.
Dywedodd i'r ysgrifennu a'r ffilmio ddigwydd "amser maith yn ôl" ond bod streic actorion ac awduron wedi tarfu ar y ffilmio.
Dywedodd ei bod yn ddiolchgar o'r cyfle i bortreadu gwraig bwerus a galluog yn y gyfres.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2023