Netflix: Fe allwn chwarae rôl wrth hyrwyddo'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Netflix yn dweud y gallan nhw chwarae rôl yn "hyrwyddo a chadw'r iaith Gymraeg" trwy drwyddedu cynnwys Cymraeg.
Daw wrth i'r platfform ffrydio ar-lein gyhoeddi y bydd yn trwyddedu drama Gymraeg S4C - Dal y Mellt - o fis Ebrill.
Dyma fydd y gyfres ddrama iaith Gymraeg gyntaf gan S4C i gael ei thrwyddedu gan y platfform.
Ond dywedodd Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus y DU ac Iwerddon Netflix na fyddan nhw "eisiau cystadlu'n uniongyrchol" gyda S4C.
Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan dywedodd Benjamin King: "Dwi'n falch o allu rhannu gyda'r pwyllgor y bore 'ma y byddwn ni'n cyhoeddi'n fuan ein bod wedi trwyddedu'r sioe hyfryd gan S4C yn yr iaith Gymraeg, Dal y Mellt, gafodd ei darlledu ar S4C y llynedd a bydd yn dod i Netflix fis Hydref.
"Mae hon yn un enghraifft o adeg lle'r ydym wedi adnabod darn o gynnwys sy'n benodol iawn yn ddiwylliannol ond ry'n ni'n credu y bydd yn hynod o lwyddiannus gyda'n haelodau."
Wrth gael ei holi gan aelodau seneddol ynghylch a allai'r platfform ffrydio gyfrannu at hyrwyddo'r iaith Gymraeg, dywedodd Mr King eu bod eisoes yn cynnig rhai is-deitlau ac wedi cynnwys yr iaith yn rhan o gyfres The Crown.
"Fe allwn chwarae rôl ddefnyddiol yn ategu'r bwriad i hybu a chadw'r iaith Gymraeg", dywedodd.
"Dyna pam ry'n ni wedi penderfynu trwyddedu rhaglenni iaith Gymraeg.
"Mae gennym ni is-deitlau Cymraeg ar ambell ffilm, mae gennym ni bennod o drydedd gyfres The Crown sydd bron â bod yn uniaith Gymraeg am arwisgiad Charles a'i gyfnod yn Aberystwyth."
'Ddim am gystadlu'n uniongyrchol'
Fe ddywedodd hefyd bod angen "cofio fod gan S4C uchelgais benodol iawn i gynhyrchu rhaglenni iaith Gymraeg" ac na fydden nhw eisiau "cystadlu'n uniongyrchol" gyda hynny.
"Ond trwy drwyddedu peth o'u cynnwys fe allwn helpu i'w hyrwyddo a dod o hyd i gynulleidfa ehangach."
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Siân Doyle, bod trwyddedu'r ddrama i Netflix yn "newyddion gwych i ddrama yn yr iaith Gymraeg".
"Mae gwerthu cyfres uniaith Gymraeg i ffrydiwr byd-eang mawr fel Netflix yn gosod ein huchelgais i fynd â thalent a'r iaith Gymraeg i'r byd ac yn creu cyfleoedd cyffrous pellach i S4C."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2021