Rhybudd am law trwm ar draws Cymru gyfan

Bydd y rhybudd melyn yn weithredol rhwng 12:00 dydd Mawrth a 12:00 dydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm ar gyfer Cymru gyfan dros y deuddydd nesaf.
Mae'r rhybudd melyn yn weithredol o 12:00 dydd Mawrth tan 12:00 dydd Mercher.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd nad yw'n sicr ble y bydd y glaw trymaf, ond mae disgwyl hyd at 40mm o law ar draws y wlad gyfan, ac fe allai hyd at 75mm o law ddisgyn mewn rhai mannau.
Mae 'na rybudd hefyd y gallai'r amodau arwain at lifogydd mewn mannau, oedi i wasanaethau trafnidiaeth, ac mae'n bosib y bydd yn amharu ar gyflenwadau trydan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl