Storm Bert: Y Swyddfa Dywydd yn amddiffyn eu rhybudd melyn
- Cyhoeddwyd
Doedd yr asesiadau a gafodd eu gwneud cyn Storm Bert ddim yn awgrymu bod llifogydd difrifol yn debygol, yn ôl un o uwch swyddogion y Swyddfa Dywydd.
Roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan ymhlith y rhai ddywedodd fod angen gwell rhybuddion ar ôl i'r llifogydd daro dros 700 o dai yng Nghymru wedi'r storm fis diwethaf.
Dywedodd Simon Brown, un o gyfarwyddwyr y Swyddfa Dywydd, wrth bwyllgor San Steffan ddydd Mercher fod y tywydd gymharol sych yn y pythefnos cyn Storm Bert "yn gyffredinol yn golygu bod pridd wedi sychu" gan awgrymu "na fyddai cymaint o lifogydd".
Ond dywedodd Mr Brown fod yr asiantaeth yn adolygu a oedd rhybudd tywydd melyn a gyhoeddwyd cyn y storm yn briodol.
Mae aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi bod yn cynnal ymchwiliad i barodrwydd Cymru ar gyfer llifogydd, yn dilyn Storm Bert a Storm Darragh.
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn Ruth Jones, fod y ddwy storm yn ymddangos fel pe baent wedi cael eu "trin yn hollol wahanol" yng Nghymru.
Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd melyn cyn Storm Bert, tra bo rhybuddion coch, oren a melyn mewn grym ar gyfer Storm Darragh.
"A oedd y rhybuddion a gyhoeddwyd ar gyfer Storm Bert yn ddigonol i alluogi i bobl amddiffyn eu hunain?" gofynnodd Ms Jones.
Atebodd Mr Brown: "Ar gyfer Storm Bert fe gawson ni gyfnod o bythefnos o dywydd gymharol sych, a oedd yn gyffredinol yn golygu bod y pridd wedi sychu.
"Mewn gwirionedd, pan wnaethon ni'r asesiad effaith ar Storm Bert, yn feteorolegol roedd llawer o law ond roedd yr amodau pridd cyn hynny yn awgrymu na fyddai cymaint o lifogydd."
Roedd Storm Darragh yn wahanol gan fod llawer o dywydd gwlyb yn arwain ato ac roedd mwy o wynt, ychwanegodd.
Yn ymateb i'r feirniadaeth o rybuddion y Swyddfa Dywydd, dywedodd Mr Brown: "Mae hindsight yn grêt, a byddwn yn sicr yn edrych i weld a oedd y rhybudd tywydd yn briodol."
Dywedodd Jeremy Parr, pennaeth rheoli perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wrth y pwyllgor fod "difrod helaeth" wedi ei achosi gan Storm Bert, gyda rhannau o fwy na 700 o eiddo dan ddŵr.
Esboniodd mai rôl CNC yw "rhoi'r signal" i sefydliadau partner cyn y mae disgwyl llifogydd.
"Ond gyda Storm Bert roedd 'na dipyn o ansicrwydd a dim llawer o hyder yn y rhagolygon," meddai.
Dywedodd Mr Parr fod hynny'n "gallu digwydd", ac mae rhagweld patrymau tywydd yn "beth cymhleth".
Ychwanegodd fod pethau wedi "datblygu'n gyflym" gyda Storm Bert ar y dydd Sadwrn, 23 Tachwedd.
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr
Dywedodd Mr Parr, gan fod cynhesu'r blaned yn gwneud digwyddiadau tywydd eithafol yn fwy tebygol, fod angen rhywle i "symiau enfawr o ddŵr" fynd a fyddai'n lleihau'r difrod i gymunedau.
Rhoddodd esiampl o "dir aberthol mewn rhai lleoliadau i ganiatáu llifogydd, fel nad yw cymunedau yn cael llifogydd i lawr yr afon, er enghraifft".
Ond dywedodd nad yw hynny'n hawdd gan fod y tir yn eiddo i rywun.
Mwy o 'gyfrifoldeb personol'
Awgrymodd Mr Parr fod angen i bobl gymryd mwy o "gyfrifoldeb personol" dros berygl llifogydd i'w heiddo, a bod angen "derbyn bod mwy o risg yn y dyfodol".
Mae'r nifer sy'n defnyddio'r gwasanaethau rhybuddion llifogydd yn isel, meddai, oherwydd bod pobl yn credu na fyddan nhw'n cael eu heffeithio a'r "effaith ar yswiriant".
"Mae angen i chi feddwl y gallai ddigwydd, ac rydyn ni i gyd yn gwybod pan fydd yn digwydd bod y cyflymder y gall ddigwydd yn anhygoel, yn enwedig nawr gyda mwy a mwy o ddigwyddiadau tywydd eithafol," meddai.
"Felly un o'r pethau rydyn ni wir yn annog pobl i'w wneud yw cael y sgwrs honno yn eich cartref - beth fydden ni'n gwneud pe bai'n digwydd i ni?
"I ble fydden ni'n mynd? Pa eiddo fydden ni'n ei symud? A ddylen ni symud ein car ymlaen llaw? Beth am y pethau gwerthfawr?
"Yr holl bethau hynny sydd angen i bobl feddwl amdanynt ymlaen llaw."