Arian i wella amddiffynfeydd 10 mlynedd wedi llifogydd Y Bontnewydd

Llifogyff ty alanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa yn nhŷ Alan Owen wedi'r llifogydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd cymunedau yn y gogledd gafodd eu taro gan lifogydd bron i 10 mlynedd yn ôl yn derbyn cyllid i wella amddiffynfeydd.

Wynebodd sawl ardal gan gynnwys Talybont, Y Bontnewydd, Caernarfon a Biwmares nifer o lifogydd dros gyfnod y Nadolig yn 2015, gyda nifer o bobl yn gorfod gadael eu tai ar frys.

Gyda pheth o'r gwaith eisoes wedi digwydd, mi fydd gwaith gwerth £2m rŵan yn dechrau yn Y Bontnewydd ger Caernarfon i gryfhau amddiffynfeydd wrth i sgil effaith stormydd waethygu.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mi fydd y gwaith yn "dawelwch meddwl" i nifer sydd yn dal i boeni bron i ddegawd yn ddiweddarach.

Alan Owen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 15cm o ddŵr yng nghartref Alan Owen o'r Bontnewydd yn 2015

Roedd cartref Alan Owen o'r Bontnewydd yn un o naw ar ei stad a welodd dŵr yn llifo drwy ei gartref ar fore 27 Rhagfyr 2015.

Roedd dros 15cm, neu chwe modfedd, yn llifo drwy'r gegin a'r ystafell fyw.

"Gwnaethon ni godi tua 08:00 a just gweld o amgylch y tŷ ac wedyn yn codi drwy'r lloriau 'ma", meddai Alan.

"Mi gymerodd o ryw bum mis a hanner i ni gael dod 'nôl i fyw.

"Roedd y cwmni insurance eisiau gwybod bob dim, hyd yn oed pacedi o fwyd oedd ar ei hanner.

"Mae 'di bod yn boen meddwl, bob tro mae 'di bod yn bwrw glaw yn hegar 'da ni'n meddwl, o ydi hwn am ddigwydd eto?"

Yn ystod y llifogydd mi gafodd nifer o ardaloedd ledled Cymru eu heffeithio gyda cheir yn sownd ar yr A55 ger Talybont, a nifer yno ond gorfod gadael eu cartrefi.

Mae'r gwaith gwerth miliynau o bunnoedd yno bellach wedi ei gwblhau i wella'r isadeiledd, ond mi fydd cymunedau llai hefyd rŵan yn derbyn cyllid.

Bydd Y Bontnewydd yn derbyn £2m, ardal Caernarfon yn derbyn £693,000 a Mynydd Llandygai yn derbyn £1.25m.

Emyr Gareth
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emyr Gareth eu bod am godi lefel y wal a chryfhau'r sylfaen

Yn ôl Emyr Gareth, sy'n Brif Beiriannydd gyda Chyngor Gwynedd, y bwriad yn Y Bontnewydd yw cryfhau'r isadeiledd.

"Yma fyddwn i'n gwella'r wal", meddai.

"Mi nawn i godi ei lefel hi a chryfhau'r sylfaen ac yna wrth Afon Beuno nawn i godi waliau hefyd a gwella mynediad i'r ceuffosydd".

"Hefyd nawn i roi ardal storio newydd mewn i leihau a rheoli faint o ddŵr sy'n dod mewn i'r pentref."

Menna Trenholme
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Menna Trenholme bod yr oedi o weithredu cynlluniau wedi bod yn her

Yn ôl Cyngor Gwynedd mi fydd y gwaith yn rhoi'r hyder a thawelwch meddwl i bobl sy'n byw yn y cymunedau hyn na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto.

Yn ôl y Cynghorydd Menna Trenholme, sy'n cynrychioli ward Bontnewydd, mae'n cydnabod bod yr oedi o weithredu cynlluniau wedi bod yn her.

"Ydi mae 10 mlynedd yn amser hir iawn ond mae'n rhaid inni gofio bod Llywodraeth Cymru yn gorfod blaenoriaethu prosiectau ar draws Cymru.

"Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi tua £200,000 i 'neud gwaith ar yr afon ar y pryd a does dim llifogydd wedi digwydd ers 2015.

"Ond dwi'n siŵr y bydd pobl yn croesawu bod y gwaith yn digwydd nawr".

Pynciau cysylltiedig