Cyhoeddi carfan gyntaf merched Cymru ers i Fishlock ymddeol

Bydd y gemau yn helpu paratoadau Cymru ar gyfer rownd rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 a fydd yn dechrau ym mis Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr tîm merched Cymru, Rhian Wilkinson, wedi cyhoeddi ei charfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Y Swistir.
Dyma'r garfan gyntaf i gael ei henwi ers i seren Cymru Jess Fishlock ymddeol wedi gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia ddiwedd mis Hydref 2025.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar 2 Rhagfyr yn Jerez de la Frontera, Sbaen gyda charfan Rhian Wilkinson yn gobeithio dod â rhediad o saith colled o'r bron i ben.
Mae'r Swistir yn safle 24 ar restr detholion y byd, wyth safle yn uwch na Chymru.
Y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd oedd yn rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Hydref 2022 pan sgoriodd Y Swistir yn yr eiliadau olaf i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Mae disgwyl y bydd Cymru yn chwarae ail gêm gyfeillgar yn Sbaen ar 28 Tachwedd ond dyw'r gwrthwynebwyr ddim wedi eu cadarnhau eto.
Cwpan y Byd 2027: Cymru mewn grŵp gyda'r Weriniaeth Tsiec
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd
Sut fydd Cymru yn ymdopi heb Jess Fishlock?
- Cyhoeddwyd29 Hydref
Crasfa i Gymru gan Wlad Pwyl mewn gêm gyfeillgar
- Cyhoeddwyd29 Hydref
Mae Wilkinson wedi enwi pum chwaraewr ddi-gap yn y garfan, gan gynnwys Olivia Francis a Phoebie Poole o Plymouth Argyle.
Mae'r chwaraewr canol cae Laura Hughes o Melbourne City wedi cael ei henwi yn y garfan am y tro cyntaf.
Fe fydd y garfan yn gobeithio elwa o brofiad Sophie Ingle ac Angharad James.
Mae Ella Powell, Rhiannon Roberts, Lily Woodham, Rachel Rowe ac Esther Morgan yn dychwelyd i'r garfan ar ôl anafiadau.
Bydd y gemau yn helpu paratoadau Cymru ar gyfer rownd rhagbrofol Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027 a fydd yn dechrau ym mis Chwefror.
Bydd Cymru, sydd yn Grŵp 1 o Gynghrair B, yn wynebu y Weriniaeth Tsiec, Albania a Montenegro.
Y garfan yn llawn
Cymru: Olivia Clark (Leicester City), Safia Middleton-Patel (Manchester United), Poppy Soper (Rugby Borough), Ceri Holland (Lerpwl), Annie Widling (Portsmouth), Ella Powell (Bristol City), Rhiannon Roberts (Sunderland), Hayley Ladd (Everton), Gemma Evans (Lerpwl), Charlie Estcourt (DC Power), Lily Woodham (Lerpwl), Esther Morgan (Bristol City), Sophie Ingle (Bristol City), Mia Ross (Charlton Athletic), Laura Hughes (Melbourne City), Angharad James (Seattle Reign), Carrie Jones (IFK Norrköping), Tianna Teisar (Plymouth Argyle – ar fenthyg o Bristol City), Mared Griffiths (Manchester United), Olivia Francis (Plymouth Argyle), Phoebe Poole (Plymouth Argyle), Hannah Cain (Leicester City), Rachel Rowe (Nottingham Forest), Ffion Morgan (West Ham United), Elise Hughes (Crystal Palace), Mary McAteer (Charlton Athletic).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.