Cwpan y Byd 2027: Cymru mewn grŵp gyda'r Weriniaeth Tsiec

Cymru yn erbyn Gwlad PwylFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Cymru heb ennill yn eu 11 gêm ddiwethaf, gan golli saith gêm yn olynol

  • Cyhoeddwyd

Mae'r grwpiau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd y merched yn 2027 wedi cael eu dewis.

Fe fydd Cymru yn chwarae yng ngrŵp B1 yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec, Albania a Montenegro.

Bydd y gemau rhagbrofol cyntaf yn cael eu chwarae ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, gyda'r ymgyrch yn dod i ben ym mis Rhagfyr.

Ond os yw carfan Rhian Wilkinson am sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ym Mrasil yn 2027, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny drwy'r gemau ail gyfle, gan nad oes modd i dimau yn haen B fynd drwodd yn awtomatig.

Fe fydd perfformiad Cymru yn y grŵp hefyd yn effeithio ar ba haen y byddan nhw'n chwarae ynddo yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Dyma fydd ymgyrch ragbrofol gyntaf Cymru yn dilyn ymddeoliad Jess Fishlock.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol