Eurgain Haf: Dysgu i ddelio gydag OCD a'r 'bwgan beth os'
- Cyhoeddwyd
Mae enillydd Y Fedal Ryddiaith wedi siarad am ei phrofiad personol o ddelio gydag OCD - cyflwr sy'n ganolog i'w nofel fuddugol.
Dywedodd Eurgain Haf, a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypridd eleni, mai un o negeseuon ei llyfr ydy bod angen i gymdeithas newid.
Mae Y Morfarch Arian yn adrodd stori merch 13 oed, Heli Jôs, sy'n teimlo'r angen i wneud pethau ailadroddus rhag ofn i rywbeth drwg ddigwydd.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol BBC Radio Cymru fe ddywedodd yr awdur ei bod hithau wedi bod drwy gyfnodau tebyg.
Dywedodd ei bod yn dal i ddioddef o or-bryder ar adegau, ond ei bod wedi dysgu i'w reoli yn well bellach.
'Byw mewn ofn dirdynnol'
"Pan o'n i'n blentyn, yn enwedig oed Heli, fasa fo'n dechrau efo 'mae'n rhaid i chdi beidio cyffwrdd y craciau neu gyffwrdd hwn neu bydd y gath yn marw'," eglurodd.
"Ges i hefyd fy magu yn ystod y Rhyfel Oer a ro'n i'n byw mewn ofn dirdynnol bod y bom niwclear yn mynd i syrthio ac roedd rhaid i fi, yn 13 oed, wneud y defodau yma er mwyn atal hynny rhag digwydd.
"Mae 'na nifer o ffrindiau a Mam - wnaeth hi ddarllen y llyfr a jest d'eud 'dwi'n nabod Heli Jôs yn reit dda'."
Mae OCD yn gyflwr lle mae person yn cael meddyliau annymunol neu bryderus, ond yn wahanol i drwch y boblogaeth, yn methu eu diystyru ac yn ceisio gwneud synnwyr ohonyn nhw.
Mae nifer sydd â'r cyflwr hefyd yn gwneud defodau neu'n atal rhag gwneud pethau i geisio lleddfu'r gor-bryder sy'n deillio o'r meddyliau - yn y gobaith bod hynny am eu hatal rhag troi'n realiti.
Dywedodd Eurgain Haf, sydd erioed wedi cael diagnosis swyddogol, bod y cyflwr yn gallu effeithio'n fawr ar fywydau pobl a bod angen ei drin weithiau â therapi a meddyginiaeth, ond ei bod hi wedi gallu ymdopi heb hynny.
Meddai: "Dwi'n meddwl y ffordd nes i ddod i ymdopi â'r peth oedd adnabod y triggers, mewn ffordd.
"Gwybod bod fi'n mynd i gyfnod o or-bryder, [a chael] cefnogaeth ffrindiau da iawn, oedd jest yn 'nabod fi fel ag o'n i - cymryd fi fel ag oeddwn i hefyd."
'Dysgu gwrando mwy ar fy llais fy hun'
Ychwanegodd: "Mae rhywun yn tueddu i feddwl amdano fo fel y golchi dwylo. Mae 'na nifer o elfennau - mae'n gallu bod yn gyfri obsesiynol, ailadrodd a rhifau.
"Mae rhai rhifau - faswn i methu gwneud dim byd dair gwaith achos ro'n i'n meddwl am y Trydydd Rhyfel Byd - rhyw bethau fel yna o'n i'n meddwl.
"Ar y pryd faswn i'n gorfod mynd yn ôl a chanslo hynny a gwneud rhyw betha'.
"Clywed y llais y 'bwgan beth os'... roedd yn gryf iawn pan o'n i yn fy arddegau.
"Roedd o'n gryf iawn ond erbyn hyn dwi 'di dysgu gwrando mwy ar fy llais fy hun ac anwybyddu llais y 'bwgan beth os'.
"Mae gen i bob cydymdeimlad efo unrhyw un sydd yn diodde' efo OCD.
"Roedd yn gallu bod yn flinedig iawn roedd gen i lot o ddefodau roedd rhaid i fi wneud cyn mynd i gysgu, ac roedd o'n gallu cymryd dipyn."
Mae Eurgain Haf, sy'n dod o Benisarwaun ger Caernarfon yn wreiddiol, yn byw gyda'i gŵr a'u dau o blant ym Mhontypridd.
Mae hi'n gweithio fel uwch reolwr y wasg a'r cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
'Newid' oedd testun y Fedal Ryddiaith a dywedodd yr awdur bod hynny'n berthnasol yn ei hachos hi wrth ddelio gyda'r cyflwr fel plentyn, a bod hynny'n dal yn berthnasol heddiw.
"Be' o'n i'n teimlo oedd bod pobl yn derbyn - fi oedd hi, fel hyn oeddwn i ac roedd pobl jest yn derbyn a ddim yn trio newid fi," meddai.
"Newid oedd testun y nofel a dwi'n meddwl bod hwnna'n neges bwysig hyd heddiw - peidiwch â thrio newid y person... mae 'na fwy o newid i gael ei wneud mewn cymdeithas."
Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 nos Sul 15 Rhagfyr ar BBC Radio Cymru ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2024