Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Eurgain Haf yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Daw yn wreiddiol o Benisarwaun yng Ngwynedd, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mro'r Eisteddfod ym Mhontypridd.
Daeth Eurgain, dan y ffugenw Manaia, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr.
Testun y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun Newid.
Y beirniaid oedd Annes Glynn, John Roberts ac Elen Ifan.
Mae Eurgain yn gweithio ym maes cyfathrebu a PR, ac fe dreuliodd 10 mlynedd yn Adran y Wasg S4C cyn cael ei phenodi'n uwch reolwr y wasg a’r cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
Daw o Benisarwaun yn Eryri yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw ym Mhontypridd gyda’i gŵr Ioan, eu dau o blant - Cian Harri a Lois Rhodd - a chi o’r enw Cai Clustia’.
Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Tan-y-Coed, Penisarwaun ac yna Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug, ble y daeth dan ddylanwad ei hathrawon Cymraeg - Esyllt Maelor a’r diweddar Alwyn Pleming - a’i hanogodd i ysgrifennu.
Aeth ymlaen i Brifysgol Aberystwyth ble y graddiodd yn y Gymraeg a Drama ac yna mynd ati i gwblhau gradd MPhil Drama.
Mae hi wedi ennill sawl gwobr lenyddol yn y gorffennol, gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd, coron Eisteddfod Môn a’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen.
Mae Eurgain hefyd yn gyn-enillydd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ac fe berfformiwyd ei drama fer, Cadw Oed, fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru yn 2005.
Mae hi wedi cyhoeddi 12 o lyfrau ar gyfer plant.
'Dwy arall yn dynn ar ei sodlau'
Dywedodd John Roberts yn ei feirniadaeth: “Mae gan Manaia allu i ysgrifennu yn gynnil ond lliwgar a bywiog, ac mae’r cymeriadau yn grwn ac yn gyfan.
"Dyma gymeriadau sydd yn aros gyda’r darllenydd a dyma ysgrifennu synhwyrus, dychmygus sydd yn defnyddio hiwmor, cynhesrwydd a thensiwn.
"Manaia sy’n dod i’r brig a’r ddwy nofel arall yn dynn ar ei sodlau.”
Yn ei beirniadaeth hi dywedodd Annes Glynn: “Nid nofel drom, lafurus mo hon.
"Mae dawn yr awdur i newid cywair yn effeithiol, y cyfuniad o dosturi a hwyl, a’r fflachiadau cynnil o hiwmor - rhywbeth digon prin yn y gystadleuaeth - yn ei chadw rhag disgyn i’r pydew hwnnw.
"Mae’n llenor sy’n gwybod pryd i roi’r brêcs ymlaen ac yn ddigon hyderus yn ei allu ei hun ac yng nghrebwyll y darllenydd."
Ychwanegodd Elen Ifan: “Mae’r ysgrifennu yn gadarn: ceir disgrifiadau cywrain a barddonol ar adegau, cymeriadu cryf, plotio da, a deialog gredadwy drwyddi draw.
“Mae’r nofel hon yn ei chyfanrwydd, a’i chymeriadau yn arbennig, yn cyfareddu, ac yn aros gyda’r darllenydd am gyfnod hir wedi’i darllen."
Cyflwynwyd y Fedal gan Clochdar, papur bro Cwm Cynon, er cof am Idwal Rees, pennaeth cyntaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a’r wobr ariannol o £750, gan Gymdeithas Gymraeg Rhiwbeina.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024