Daf James: Geiriau olaf Mam yn 'rhodd' wrth fabwysiadu plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r dramodydd Daf James wedi siarad am y "rhodd" a gafodd gan ei fam gyda'i geiriau olaf iddo cyn iddi farw.
Dywedodd awdur Lost Boys & Faires ei bod hi wedi bod yn poeni am ei benderfyniad o a'i ŵr i fabwysiadu plentyn, ond bod ei geiriau tra'r oedd hi'n wael iawn yn galondid iddo.
Meddai'r dramodydd: "Roedd hi'n gwybod bod ni'n mabwysiadu a'i geiriau olaf hi i fi yn ysbyty… o'n i'n siarad ambyti e [y mabwysiadu] a nath hi edrych i fyw yn llygaid i a dweud, 'Fyddi di'n briliant'.
"Ma'n 'neud i mi deimlo mor emosiynol just dweud y geiriau yna achos fi'n clywed ei llais hi'n d'eud y geiriau - ac am rodd i riant ei roi."
Mae Lost Boys & Fairies, oedd yn gyfres lwyddiannus ar BBC1, yn dilyn cwpl hoyw drwy'r broses fabwysiadu, ac wedi ei seilio'n rhannol ar brofiadau Daf James ei hun.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd nad oedd ei rieni yn siŵr ar y cychwyn os oedd o'n syniad doeth iddo fabwysiadu.
I ddechrau, roedd yn meddwl mai'r rheswm am hynny oedd ei fod o a'i ŵr Hywel yn hoyw, cyn sylweddoli mai pryder naturiol unrhyw riant oedd tu cefn i'r ansicrwydd.
Meddai: "[Roedden nhw'n gofyn] ydi hwnna am fod yn anodd? Ydyn nhw'n mynd i fedru allu ymdopi?
"Yr holl gwestiynau mae unrhyw un sy'n mynd drwy'r broses o fabwysiadu yn gofyn i'w hunain…
"A fi'n meddwl bod unrhyw riant yn poeni ambyti plant nhw a falle i ryw radde yn gweld nhw fel eu plant bach nhw o hyd.
"Poeni yw e ond y ffaith ar ddiwedd hynny i gyd nath hi ddweud, 'Ti'n mynd i fod yn briliant' - am wobr."
Eisteddfod yr Urdd 'problematic' wedi newid
Yn ei gyfweliad fe wnaeth y dramodydd hefyd drafod sut mae ei agwedd tuag at Yr Urdd wedi newid yn ddiweddar, wrth weld sut mae'r mudiad wedi datblygu.
Dywedodd ei fod yn arfer meddwl bod Eisteddfod yr Urdd yn "problematic" oherwydd natur y cystadlu yn y gorffennol.
"Roedd y cystadlu a'r rhagbrofion a'r math o berfformiadau a phlant a diwylliant oedd yn cael eu derbyn fel perfformiadau 'cywir', beth bynnag mae hynny'n ei olygu - llais yr oedolyn yn rhoi eu hymwybyddiaeth nhw ymlaen i'r plentyn yn lle bod ni'n dathlu creadigrwydd a llais y plentyn."
Ond mae ei agwedd wedi newid, yn rhannol oherwydd ei brofiad ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn y llynedd, pan gafodd ei enwi fel un o enillwyr gwobr Tir na n-Og am ei lyfr Jac a'r Angel.
Eglurodd: "Erbyn hyn mae'r Urdd yn ffantastig o ran hynny.
"Dwi wrth fy modd bod 'na gymaint o lwyfannau gwahanol ac mae 'na lwyfan lle mae pobl yn dod i gael eu gwobrwyo a Mari Lovgreen yn cyflwyno a'r plant i gyd yn cael dathlu achos bod hi'n ddathliad. Mae hwnna wedi newid.
"Ac mae'r ffaith bod Cwiar na Nog [cymuned LHDTC+ yr Urdd] i'w gael ar faes yr Urdd - oh my gosh! Taswn i yn blentyn wedi cael y pethe yma.
"Pan es i i'r Urdd llynedd nath gweld yr holl bethe yna symud fi i'r byw.
"Ni'r Cymry wedi dod wir yn bell ac am wn i achos bod ni yn ddiwylliant bach fi, ambell waith, yn teimlo fel bod ni'n gallu esblygu yn gynt a dwi'n teimlo ein bod ni fel diwylliant, ambell waith, nid tu ôl i'r gad ond o flaen y gad."
Mewn datganiad, dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru, bod yr ŵyl yn "credu'n gryf mewn tyfu a datblygu, a gwrando ar leisiau ein pobl ifanc".
"Dwi'n falch iawn o aelodau'r Urdd sy'n gweithio'n galed i greu datblygiadau newydd fel Cwiar na Nog ar faes yr Eisteddfod, a sicrhau fod yr Urdd i bawb.
"Diolch i Daf James am gydnabod eu gwaith arloesol, fel aelod blaenllaw o'r gymuned LHDTC+ a'r byd celfyddydol yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2024