Cyhuddo dynes, 41, o lofruddio plentyn 6 oed 'anhygoel'

Bu farw Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Cwm Du Close ddydd IauFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alexander Zurawski, 6, ei ddisgrifio gan ei deulu fel plentyn "caredig iawn"

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i ddynes fynd o flaen ynadon Abertawe ddydd Llun wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth plentyn yn y ddinas.

Bu farw Alexander Zurawski, chwech oed, mewn eiddo ar Glos Cwm Du, Gendros ddydd Iau.

Mae Karolina Zurawska, 41, wedi’i chyhuddo o lofruddiaeth mewn cysylltiad â'i farwolaeth, meddai Heddlu'r De nos Sul.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad â digwyddiad yn ymwneud â dyn 67 oed yn gynharach ar yr un dyddiad.

Nid yw'r heddlu'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.

Plentyn 'anhygoel'

Mae teulu Alexander wedi dweud ei fod yn "blentyn caredig iawn" a'i fod "wrth ei fodd yn chwarae gyda’i chwaer fach a’i gi, Daisy".

“Roedd Alexander bob amser yn ymddwyn yn dda a byth yn ddrwg," meddai'r deyrnged.

“Roedd yn glyfar iawn ac yn aeddfed iawn am ei oedran. Roedd ganddo ddealltwriaeth wych o ffeithiau.

“Roedd Alexander bob amser yn barod i helpu. Bob amser yn awyddus i helpu gyda choginio a glanhau.

“Roedd Alexander yn siarad Saesneg a Phwyleg a byddai’n aml yn cywiro ei rieni gyda’u Saesneg os oedden nhw’n cael geiriau’n anghywir.

“Roedd yn anhygoel.”

Mae'r teulu wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu gwaith ac wedi gofyn am breifatrwydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glos Cwm Du tua 20:30 nos Iau

Dywedodd Bethan Peterson, Pennaeth Ysgol Gynradd y Garreg Wen, ble'r oedd Alexander yn ddisgybl: "Rydym wedi ein syfrdanu o glywed am farwolaeth drasig Alexander."

Dywedodd ei fod yn "fachgen bach hoffus" a "phenderfynol".

"Roedd yn fachgen hynod annwyl a phoblogaidd ymhlith ei gyfoedion, staff a phawb oedd yn ei adnabod. Bydd colled fawr ar ei ôl.

"Bydd cymorth priodol ar gael i blant, staff a phawb yn ein cymuned ysgol sydd wedi'u heffeithio.

"Gofynnwn i breifatrwydd cymuned ein hysgol gael ei barchu ar yr amser anodd hwn."

Y gymuned wedi bod yn 'rhagorol'

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott, o Heddlu'r De, fod y digwyddiad wedi bod yn "sioc aruthrol i’r gymuned leol".

“Mae’r gymuned leol wedi bod yn rhagorol yn eu cefnogaeth i’n hymchwiliad, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt am eu hamynedd yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod trawmatig," meddai.

“Bydd presenoldeb yr heddlu yn cael ei gadw yn yr ardal leol dros y dyddiau nesaf er mwyn rhoi cyngor a sicrwydd.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Alexander ar yr amser anodd hwn.”