Treth etifeddiaeth i effeithio ar 'gyfran fechan iawn' o ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd y newidiadau i reolau treth etifeddiaeth yn effeithio ar "gyfran fechan iawn" o ffermwyr Cymru, yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan.
Yn y Senedd ddydd Mawrth disgrifiodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, y newid fel "brad creulon".
Dan gynlluniau'r Canghellor, bydd treth etifeddiaeth o 20% yn berthnasol i werth asedau y tu hwnt i'r trothwy o £1m o'r flwyddyn nesaf ymlaen.
Fe wnaeth Ms Morgan gyhuddo'r gwrthbleidiau o "godi bwganod" gyda'u beirniadaeth.
Mae cyhoeddiad y Canghellor, Rachel Reeves, yn y Gyllideb yr wythnos ddiwethaf yn golygu na fydd £1m cyntaf unrhyw ystâd yn cael ei drethu, ond fe fydd yn rhaid talu treth o 20% dros gyfnod o 10 mlynedd ar unrhyw swm ar ben hynny.
Ond oherwydd eithriadau o ran tai a pharau priod yn trosglwyddo asedau i ddisgynyddion uniongyrchol, fe allai olygu bod £2m yn cael ei eithrio cyn gorfod talu'r dreth.
Dywedodd Andrew RT Davies fod gwleidyddion Llafur wedi diystyru newid o’r fath yn flaenorol, a gofynnodd i’r prif weinidog: “Ydych chi’n deall y dicter, y pryder a’r ofn y mae ffermwyr a’r rhai sy’n ddibynnol ar y diwydiant amaeth yn ei deimlo pan maen nhw wedi'u bradychu mewn ffordd mor chwerw gan eich plaid?"
Mewn ymateb dywedodd Ms Morgan wrtho am "roi'r gorau i godi bwganod", gan ychwanegu "mewn gwirionedd, cyfran fach iawn o ffermwyr yng Nghymru fydd yn cael eu heffeithio gan y dreth etifeddiaeth".
Dywedodd Delyth Jewell o Blaid Cymru fod ffermwyr yn “teimlo wedi eu bradychu”, gan honni bod y polisi newydd yn “bygwth dyfodol llawer o ffermydd teuluol Cymreig”.
Ymatebodd Ms Morgan na fyddai'r "mwyafrif helaeth" o ffermydd Cymru yn gorfod talu'r dreth.
Er gwaethaf y newidiadau gafodd eu cyhoeddi, mae lwfansau treth etifeddiant eraill yn golygu y gallai ffermwyr etifeddu asedau gwerth bron i £3m heb dalu treth.
"Mae yna lwfans enfawr pan mae'n dod i'r gymuned amaethyddol, a'r hyn rydyn ni'n sôn amdano yma yw ffermydd hynod o fawr a chyfoethog," ychwanegodd Morgan.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Hydref