Cofio'r trên cyntaf yn y byd i werthu tocynnau i deithwyr

Rheilffordd y Mwmbwls yn 1864Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut oedd Rheilffordd y Mwmbwls yn edrych yn 1864

  • Cyhoeddwyd

Mae'r byd yn dathlu 200 mlynedd ers sefydlu'r rheilffordd fodern ar 27 Medi, ond efallai bod llawer ddim yn ymwybodol fod y teithwyr trên cyntaf trwy'r byd i dalu am docyn, yn Abertawe.

Fe gafodd Rheilffordd y Mwmbwls ei hadeiladu yn wreiddiol yn 1804, i gario calch o chwareli'r Mwmbwls i Abertawe a Threforys.

Ond yn 1807 fe ddechreuodd Abertawe dyfu fel canolfan i dwristiaid, gan gystadlu â threfi glan môr fel Weymouth a Brighton yn Lloegr, ac fe benderfynwyd cychwyn cario teithwyr oedd yn talu am docyn ar y trên.

Yn ôl yr hanesydd yr Athro Prys Morgan, roedd cychwyn y gwasanaeth yn foment fawr yn hanes y byd.

"Dyma'r tro cyntaf yn hanes y byd i reilffordd a cherbydau gael eu tynnu gan geffylau ar gyfer teithwyr oedd yn talu," meddai.

"Digwyddodd hyn am ddegawdau, wedyn, amser Fictoria, fe drodd yr holl beth yn drên stem â cherbydau mawr agored.

"Erbyn 1929 fe gafwyd proses drydaneiddio a moderneiddio y tramiau, a dyna be' dwi'n cofio fel plentyn."

Prys Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Prys Morgan, roedd cychwyn y gwasanaeth yn foment fawr yn hanes y byd

Roedd Jaci Gruffudd yn byw yn Essex gyda'i mam a'i thad, ond bob haf fe fyddai hi'n dod i ymweld â'i mam-gu a'i thad-cu yn Abertawe, ac wrth ei bodd yn mynd ar y trên i'r traeth.

Mae hi'n cofio sŵn y trên yn dda, gyda'r cerbydau yn "llithro" ar hyd y cledrau metal.

"Rwy'n cofio mynd i'r slip i ddal trên y Mwmbwls ac roedd e'n brofiad mor wahanol," meddai.

"Roeddwn i yn gyfarwydd â dal bws i bobman adre yn Lloegr, a phawb yn dawel, ond roedd trên y Mwmbwls wastad yn llawn sŵn a bwrlwm.

"Roedd mynd ar y trên yn brofiad rhyfedd i blentyn."

Jaci Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jaci Gruffudd yn cofio'n dda y profiad o fynd ar y trên pan yn iau

Mae Jaci yn cofio'n iawn mynd i nôl tocyn i deithio ar y trên.

"Roedd rhaid mynd i sied bren i brynu tocynnau ac roedd hwnnw yn llawn pobl ac yn swnllyd ac yn boeth iawn.

"Wedyn bydde chchi yn aros am y trên.

"Roedd y slip yn llawn gweithgareddau - roedd laundry mawr yno, tai bach, pwll nofio, a byddech chi ond yn gallu mynd mewn am 20 munud cyn iddyn nhw chwibanu a'ch galw chi mas."

Model o drên y Mwmbwls yn Amgueddfa Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae model o drên y Mwmbwls yn Amgueddfa Abertawe

Y Mount ar Heol Ystumllwynarth oedd y orsaf drên gyntaf yn byd i'w chofnodi yn swyddogol, gan mai yma y byddai'r siwrne yn cychwyn yn wreiddiol.

Ond roedd sawl arhosfan ar hyd y daith, gan gynnwys adeilad ger lido Blackpill.

Ar ôl i'r trên orffen bu'r depo yn cael ei ddefnyddio fel storfa gan y cyngor, ac roedd cynllun ar un adeg i'w ddymchwel, nes i'r Athro Prys Morgan gamu mewn.

"Fe ges i alwad ffôn un bore tua 30 mlynedd yn ôl yn dweud bod cyngor y ddinas yn bwriadu tynnu yr adeilad lawr," meddai.

"Ffonies i Cadw yn syth a daeth eu penseiri allan a rhestrwyd yr adeilad - sy'n f'atgoffa i o deml Roegaidd oherwydd y pileri trawiadol - a'i ddiogelu am byth, ac mae e nawr yn fwyty.

"Chware teg i Abertawe am 'neud hynny, ac mae'r cofadail yma gyda ni i un o fomentau mawr Abertawe yn hanes y byd."

Karl Morgan
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hanes y trên yng nghalonnau pobl Abertawe a phobl dros y byd," medd Karl Morgan

Fe ddaeth Rheilffordd y Mwmbwls i ben ar 5 Ionawr 1960, ond mae Karl Morgan, swyddog arddangosfeydd Amgueddfa Abertawe, yn hyderus y bydd y stori a'r hanes yn parhau yn y cof.

"Ma' creiriau o'r trên yn dal i gyrraedd y casgliad yn yr amgueddfa," meddai.

"Ry'n ni newydd gael tocyn olaf trên y Mwmbwls, sy'n anhygoel.

"Mae hanes y trên yng nghalonnau pobl Abertawe a phobl dros y byd. Roedd e mor sbesial."

Torf o bobl wedi casglu i weld taith olaf trên y Mwmbwls yn Ionawr 1960Ffynhonnell y llun, Michael Eames
Disgrifiad o’r llun,

Torf o bobl wedi casglu i weld taith olaf trên y Mwmbwls yn Ionawr 1960

Heddiw mae tua 3.6 miliwn o bobl yn defnyddio'r orsaf drenau brysuraf yn y byd yn Tokyo yn ddyddiol.

Ond pan gychwynnodd Rheilffordd y Mwmbwls, llond dwrn o yn unig o dramiau fyddai'n dilyn y llwybr ar hyd y bae rhwng canol Abertawe a'r Mwmbwls.

Erbyn heddiw mae nifer o bobl y ddinas yn dweud y bydden nhw'n hoffi gweld y trên yn dychwelyd, ond, a bod yn realistig, mae Jaci Gruffudd yn amau yn fawr a fydd hynny yn digwydd.

Fe gafodd hi gyfle i fynd ar y daith olaf ond un ar y trên bach, ac mae'n atgof y mae hi'n trysori.

"Roedd pawb yn teimlo yn drist ond eto fel petai nhw yn derbyn e a'n dweud 'dyna sut mae pethe yn mynd, mae pobl yn prynu mwy o geir'.

"Ond be' sy'n dwp nawr yw y bydde fe'n llawn bob dydd os bydde fe dal i redeg.

"Mae'n gallu cymryd awr i fynd i'r Mwmbwls dyddie 'ma o Abertawe mewn car oherwydd y traffig.

"Ond ddaw y trên ddim nôl, yn anffodus."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.