Rhybudd y gall profion arfau gael effaith ar systemau llywio GPS

Drôn AR3 yn paratoi i gael ei lansio o faes awyr Gorllewin Cymru yn Aberporth
Disgrifiad o’r llun,

Drôn AR3 yn paratoi i gael ei lansio o faes awyr gorllewin Cymru yn Aberporth

  • Cyhoeddwyd

Gallai profion arfau electronig mewn canolfan filwrol yng Nghymru effeithio ar systemau llywio fel GPS, yn ôl rhybudd sydd wedi cael ei roi i yrwyr a pheilotiaid.

Bydd signalau radio sy'n targedu systemau llywio drôn yn cael eu tanio ar faes awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhont Senni ym Mhowys o 08:00 tan 17:00 ddydd Gwener.

Gallai'r gwaith profi achosi i ddyfeisiau sy'n defnyddio GPS roi gwybodaeth anghywir ac mae'n bosib y bydd cerbydau gerllaw yn cael eu heffeithio hefyd.

Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi rhoi rhybudd i beilotiaid a gweithredwyr drôn yn y rhan fwyaf o ganolbarth a de Cymru a chyn belled i'r de â Dyfnaint a Chernyw.

Ymarfer Rock Lobster yw'r prawf diweddaraf o offer a thactegau rhyfel electronig, sydd wedi dod yn amlach ers y gwrthdaro rhwng Rwsia ac Wcráin yn 2022.

Mae degau o filoedd o drôns wedi cael eu defnyddio yn ystod y gwrthdaro.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phartneriaid yn y diwydiant wedi datblygu technolegau newydd i frwydro yn erbyn bygythiad dronau milwrol.

Un ohonynt yw arf ynni o'r enw RF DEW sy'n sicrhau bod microdonnau yn weithredol o bellter.

Arf newydd arall yw DragonFire sy'n ganon laser a all losgi dronau o gryn bellter ac mae disgwyl iddo gael ei ddefnyddio gan y llynges o 2027.

Yn y cyfamser, mae'r adolygiad amddiffyn strategol diweddar wedi rhoi mwy o bwyslais ar y defnydd o dronau gan luoedd y DU.

Mae'r cwmni amddiffyn Tekever wedi derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer technoleg dronau, gan gynnwys drôn StormShroud newydd yr RAF sy'n cael ei ddatblygu ym Mharc Aberporth yng Ngheredigion.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.