Ennill yn regata Henley... ar ôl dim ond tair blynedd o rwyfo
- Cyhoeddwyd
Prin fyddech chi’n meddwl fod tair blynedd o brofiad yn ddigon i chi lwyddo ar lefel uchel mewn unrhyw gamp.
Ond mae Cedol Dafydd newydd ennill yn un o rasys mwyaf y byd rhwyfo, ac ar fin ymuno â thîm rhwyfo Prydain yn llawn amser, lle bydd yn rhwyfo ochr-yn-ochr â phobl fydd wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd, ag yntau ond wedi bod wrthi ers 2021.
O Fangor i Henley
Doedd yna ddim llawer o gyfleoedd rhwyfo yng ngogledd Cymru pan oedd o’n tyfu i fyny, eglurodd Cedol, sy’n dod o Fangor yn wreiddiol, felly doedd o ddim yn rhywbeth roedd yn gwybod llawer amdano.
Nofio oedd ei gamp o, tan iddo fynd i’r brifysgol yng Nghaerfaddon, a rhoi cynnig ar rwyfo. Ac mae’r penderfyniad wedi talu ar ei ganfed, eglurodd wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
Yn Henley Royal Regatta ddechrau Gorffennaf, roedd Cedol, sy’n 23 oed, ymhlith 780 o gychod o ryw 30 gwlad wahanol a oedd yn cystadlu yn y ras fyd-enwog.
"Llynedd, 'naethon ni golli’r rownd gynta, felly dwi ddim wedi cael lot o brofiad o Henley tan flwyddyn yma," meddai. "'Naethon ni golli flwyddyn dwytha, a do’n i’m yn licio’r teimlad yna o gwbl, so aethon ni yna eleni i ‘neud o’n iawn!"
Ac mi gadwodd at ei addewid, wrth iddo ef a’i bartner, Jamie Gare ennill y fedal aur yn y categori Double Sculls, a churo dau a oedd o fewn trwch blewyn i gynrychioli UDA yn y Gemau Olympaidd eleni.
Curo pencampwyr Tokyo 2020
Ychydig wythnosau cyn hynny, roedd Cedol a’i gyd-rwyfwyr Prydeinig wedi cael ras dda yn Poznań yng Ngwlad Pwyl yng Nghwpan Rhwyfo’r Byd.
"O’dd o un o’r rasys mwyaf cyffrous dwi erioed wedi bod yn rhan ohono fo," eglurodd. "O’dd y chwech cwch i gyd o fewn tair eiliad i’w gilydd.
"Iwerddon, Yr Almaen a Seland Newydd oedd gyntaf, ac o’ddan ni eiliad wedyn, a 'nathon ni guro pencampwyr Olympaidd Tokyo, ar y llinell, o 0.4 eiliad, sef y dwbl o Ffrainc.
"O’dd hi’n eitha’ swrreal gallu dweud, 'nathon ni ddim medalu, ond waw!'. Doedden ni ddim yn siŵr bo’ ni’n mynd i 'neud hynny cyn dechrau rasio... O’ddan ni’n dau yn ifanc, yn erbyn y gorau yn y byd, a heb ddim byd i’w golli.
"Er 'sa medal yn neis, dwi’m yn gallu bod yn rhy siomedig efo ffordd 'nathon ni rasio. Am ras anhygoel!"
Addasu er mwyn gwella
Does gan Cedol ddim partner rhwyfo parhaol, ag yntau wedi rasio gyda dau bartner gwahanol yn y ddwy ras fawr ddiwethaf. Mae hyn yn rhywbeth sydd yn cael ei benderfynu gan hyfforddwyr y tîm rhwyfo, ac er fod yna lot o fudd o gael cysondeb, eglura, mae gallu addasu i bartner gwahanol yn fuddiol hefyd, meddai.
"Yn Poznań, fy mhartner i oedd Stephen Hughes, yn Henley o’n i efo Jamie Gare, sy’n ei wneud o bach yn anodd weithiau.
"Pan 'da chi’n edrych ar rwyfo, mae o i’w weld fod pawb yn rhwyfo yr union 'run peth. Ond pan ti yn y cwch ma’n deimlad hollol wahanol; mae’n rhaid i ti adaptio’n gyflym iawn i ffordd mae’r boi arall yn rhwyfo, ar ôl rhwyfo efo’r boi cynta.
"Ddeuddeg diwrnod cyn mynd i Poznań, 'naeth Stephen a fi jympio fewn i’r cwch efo’n gilydd am y tro cynta ac ymarfer o fana tan Gwlad Pwyl.
"'Swn i’n licio mwy o amser ond ma’n sgil dda iawn i allu rhwyfo efo pobl wahanol yn gyflym, achos dyna sy’n dy 'neud di’n rwyfwr gwell."
Er mai dim ond yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn rhwyfo, mae ei brofiad o wneud chwaraeon pan oedd o’n iau wedi helpu tuag at ei lwyddiant heddiw, meddai.
"O’n i’n nofiwr efo academi Swim Gwynedd ers o’n i’n blentyn. O ran y ffitrwydd, mae o wedi helpu lot.
"Y gwahaniaeth ydi, os dwi yn y cwch, dwi ddim isho nofio!"
Â'i fryd ar LA
Ag yntau wedi bod yn rhan o raglen ddatblygu gan y tîm rhwyfo Prydeinig am y dair blynedd ddiwethaf, bydd yn ymuno gyda’r prif dîm ym mis Medi er mwyn hogi ei grefft a dysgu gan ei gyd-rwyfwyr, gan edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd nesaf yn Los Angeles yn 2028.
"Dwi wastad 'di deud, os mai ti ydi’r person gorau yn y squad, ti’m yn y squad iawn; ti wastad angen gweithio efo rhywun sy’n well na ti.
"Dwi’n edrych 'mlaen i weld pa hwyl byddan nhw’n ei gael yn Paris eleni, a gobeithio pan dwi’n ymuno mod i’n adio at y tîm a chael mwy o fedalau i Brydain.
"Gobeithio rŵan ffeindio partner sy’n gweithio’n dda efo fi, bod y ddau ohonan ni’n gallu ymarfer efo’n gilydd yn dda am flynyddoedd, ac y g’na i’i dal hi yn LA!"
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai
- Cyhoeddwyd6 Ebrill