Eluned Morgan yn ymddiheuro am jôc am Margaret Thatcher

Margaret ThatcherFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Margaret Thatcher, a fu'n brif weinidog o 1979 tan 1990, yn 2013

  • Cyhoeddwyd

Mae gweinidog iechyd Cymru wedi ymddiheuro ar ôl jocian mai'r diweddar Margaret Thatcher allai fod y person nesaf i gael ei phenodi i gabinet Llywodraeth y DU.

Yn cyfeirio at y newyddion fod y cyn-brif weinidog David Cameron yn dychwelyd i'r cabinet, dywedodd Eluned Morgan ar Facebook: "Beth nesaf? Hers Thatcher yn cyrraedd Rhif 10?!"

Roedd y neges gan Ms Morgan yn cynnwys llun o hers Mrs Thatcher, a fu'n brif weinidog o 1979 tan 1990.

Dywedodd llefarydd ar ran y gweinidog iechyd ei bod hi'n ymddiheuro am unrhyw ofid a achoswyd.

Mae'r neges bellach wedi cael ei dileu.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ni fydd David Cameron yn gallu annerch ASau yn Nhŷ'r Cyffredin

Cafodd David Cameron ei benodi'n Ysgrifennydd Tramor gan Rishi Sunak ddydd Llun, a'i wneud yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi hefyd.

Mae'n cymryd lle James Cleverly, sydd wedi cymryd swydd yr Ysgrifennydd Cartref wedi i Suella Braverman gael ei diswyddo.

Yn y post Facebook, roedd Ms Morgan wedi awgrymu ei bod yn eironig fod "dyn a ysgogodd benderfyniad wnaeth hollti'r genedl [pleidlais Brexit] nawr ar fin achub y llywodraeth!"

"Beth nesaf? Hers Thatcher yn cyrraedd Rhif 10?!" ychwanegodd gyda llun o hers Margaret Thatcher.

Fe wnaeth hi ddileu'r sylw am Mrs Thatcher a'r llun i ddechrau, cyn dileu'r post yn llwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Eluned Morgan ei bod hi'n ymddiheuro am unrhyw ofid a achoswyd

Dywedodd yr Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Laura Anne Jones fod y neges yn "ofnadwy" gan alw arni i ddileu'r neges ac ymddiheuro.

Ychwanegodd fod "y cyhoedd yn disgwyl llawer gwell gan eu gweinidogion".

Dywedodd AS Ceidwadol Brycheiniog a Sir Faesyfed, Fay Jones y "byddai'n wych pe bai GIG Cymru wedi cael ei sylw, yn hytrach na neges fach gas fel hyn".

Disgrifiad o’r llun,

Y post Facebook a gafodd ei ddileu gan Eluned Morgan

Fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ni fydd Mr Cameron yn gallu annerch ASau yn Nhŷ'r Cyffredin - rhywbeth sydd wedi cael ei feirniadu gan Blaid Cymru a Llafur.

Cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn swyddogol, dywedodd yr AS Llafur Syr Chris Bryant y byddai'n "warth cael ysgrifennydd tramor yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn enwedig ar adeg o ansefydlogrwydd gwleidyddol gyda rhyfel yn Ewrop a sefyllfa arswydus yn y Dwyrain Canol".

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, fod gan y Ceidwadwyr ddim unrhyw atebolrwydd democrataidd bellach.

Ond dywedodd cyn-Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fod yr Arglwydd Cameron yn "benodiad gwych" sy'n dangos fod y Ceidwadwyr "o ddifrif am lywodraethu ac ennill".