Betsi Cadwaladr: Ymddygiad Eluned Morgan 'gyfystyr â bwlio'

  • Cyhoeddwyd
Richard Micklewright
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Micklewright fod "dim cyfathrebu wedi bod gan Eluned Morgan na'i swyddogion i ddangos eu bod yn anfodlon"

Mae cyn-aelod annibynnol o fwrdd iechyd gogledd Cymru, gafodd ei orfodi i ymddiswyddo, wedi dweud bod ymddygiad y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan "gyfystyr â bwlio".

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Wales Live, dywedodd Richard Micklewright ei fod o a'i gyd-aelodau o fwrdd annibynnol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael eu trin fel "pethau dibwys i'w defnyddio, eu cam-drin a'u taflu fel y mynnodd".

Dywedodd Ms Morgan ar y pryd bod yn rhaid iddi weithredu er mwyn delio gyda phroblemau yn ymwneud â pherfformiad y bwrdd iechyd.

Ond wrth siarad am y tro cyntaf ers i'r 11 aelod annibynnol gael eu gorfodi i adael eu swyddi, dywedodd Mr Micklewright ei fod yn "gyfystyr â bwlio", a bod yr alwad arnyn nhw i ymddiswyddo wedi dod o nunlle.

"Doedd gennym ni ddim opsiwn ynglŷn â beth i'w wneud," meddai Mr Micklewright. "Cawsom ein diswyddo.

"Roedd yn brofiad hynod anodd a thrawmatig."

Fel cyn is-gadeirydd o bwyllgor archwilio Betsi Cadwaladr, mae'n credu bod "angen ymchwiliad troseddol" i faterion ariannol y bwrdd iechyd.

Mae adroddiad ddaeth i law y BBC gan y cwmni cyfrifon EY yn honni bod swyddogion cyllid wedi gwneud "cofnodion anghywir yn fwriadol".

Dywedodd yr adroddiad fod y bwrdd iechyd, sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, wedi rhoi cyfrifon anghywir am filiynau o bunnoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd EY yn honni bod eu gwaith wedi ei "rwystro" gan newid i ddogfen, a'r ffaith bod cofnod o gyfarfod wedi ei ddileu

Daeth gwasanaeth Atal Twyll GIG Cymru, sy'n rhan o sefydliad GIG Cymru, i'r casgliad ym mis Ebrill nad oedd angen unrhyw gamau pellach.

Ond dywedodd Mr Micklewright fod o a'i gyn-gydweithwyr yn credu bod "troseddau wedi digwydd, a bod angen delio â nhw".

"Fe wnaeth adroddiad Ernst and Young ganfod enghreifftiau eithaf difrifol o droseddau gwirioneddol," meddai. "Daethant o hyd i gyfrifo ffug, sy'n drosedd.

"Ac roedd awgrym gan y bobl Atal Twyll fod posibilrwydd o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder, sy'n drosedd llawer mwy difrifol."

'Mynegi pryderon'

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud eu bod yn ymchwilio i'r honiadau.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Gareth Evans: "Rydym yn ymwybodol o adroddiadau yn y cyfryngau ynghylch materion ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae unigolion wedi mynegi pryderon hefyd.

"Rydym mewn cysylltu â chydweithwyr mewn asiantaethau eraill ynglŷn ag ymholiadau a wnaed eisoes, er mwyn gwneud asesiad, ac fe fyddwn yn cyhoeddi diweddariad maes o law."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid ydym yn gwneud sylw ar ddogfennau sydd wedi eu gollwng, yn enwedig, fel yn yr achos hwn, pan mae gweithdrefnau mewnol yn dal i fynd rhagddynt yn y bwrdd iechyd."

Doedden nhw ddim am wneud sylw ar yr honiadau penodol, ond fe ddywedon nhw eu bod wedi cynnig cwnsela i'r aelodau annibynnol ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Morgan y bu'n rhaid iddi weithredu er mwyn delio gyda phroblemau'n ymwneud â pherfformiad y bwrdd iechyd

Mae 11 cyn-aelod annibynnol y bwrdd wedi cwestiynu'r pwyslais arnyn nhw, ar ôl i adroddiad archwilio damniol alw'r tîm gweithredol yn gamweithredol.

Mae swyddogion gweithredol yn gyfrifol am reolaeth y gwasanaethau iechyd o ddydd i ddydd, tra bod aelodau annibynnol o'r bwrdd yno i graffu ar benderfyniadau'r swyddogion gweithredol.

'Erioed wedi cal fy nhrin fel hyn'

Mae'r swyddogion gweithredol yn dal yn eu lle ac mae Richard Micklewright yn credu bod "angen gwneud rhywbeth" amdanyn nhw.

"Roedd y gweinidog yn hollol glir nad oedd ganddi'r gallu i ddelio â'r swyddogion gweithredol, sy'n wir hyd at bwynt," meddai. "Nid oes ganddi'r pŵer i sacio'r cyfarwyddwyr gweithredol.

"Fodd bynnag, roedd ganddi'r gallu i'w tynnu oddi ar y bwrdd, er mwyn iddyn nhw gael eu tynnu o'r sefyllfa lle'r oedden nhw'n gwneud penderfyniadau oedd yn niweidiol i Betsi wrth symud ymlaen."

Yn gyfrifydd sydd wedi gweithio i nifer o sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, dywedodd Mr Micklewright nad oedd erioed wedi cael ei drin fel hyn o'r blaen.

Fe gyhuddodd y Gweinidog Iechyd hefyd o ddiffyg dyletswydd gofal, gan ddweud bod rhai o'r aelodau eraill yn "dioddef o straen a gofid".

Ond doedd heb dderbyn unrhyw awgrym gan dîm Eluned Morgan "i nodi unrhyw ymwybyddiaeth o hynny nac unrhyw bryder amdanom ni ar ôl y digwyddiad".

"Mae angen i rywun gymryd cyfrifoldeb a dim ond dau berson alla i weld yn y ffrâm o bosib - Mark Drakeford ac Eluned Morgan," meddai Mr Micklewright.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Mae'r gwaith o reoli'r materion a godwyd yn adroddiad EY yn symud ymlaen gyda'r gweithdrefnau a pholisïau presennol.

"Mae hyn yn dilyn casgliad ymchwiliad Atal Twyll GIG Cymru sy'n gysylltiedig gyda barn gymwysedig yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon ariannol y Bwrdd Iechyd rhwng 2021-22.

"Byddai'n amhriodol i wneud sylwadau ar unrhyw o'n gweithwyr ar hyn o bryd.

"Ar hyn o bryd mae gennym ni chwe Aelod Bwrdd Annibynnol, ynghyd â dau Aelod Annibynnol Cyswllt.

"Mae dau Aelod Bwrdd Annibynnol arall yn y broses o gael eu penodi. Byddan nhw yn cael eu cyhoeddi cyn hir."

Bydd mwy ar y stori yma ar Wales Live ar BBC One Wales am 22:00 nos Fercher, a bydd hefyd ar gael ar iPlayer.