Rasio milgwn i gael ei wahardd 'cyn gynted ag sy'n bosib'

Dau filgi yn barod i rasio.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru fyddai'r wlad gyntaf ym Mhrydain i wahardd rasio gyda milgwn

  • Cyhoeddwyd

Bydd rasio milgwn yn cael ei wahardd "cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib", yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies gynlluniau i ddod â rasio i ben ar ôl i'r gamp gael ei beirniadu am niweidio cŵn.

Mae'n dilyn galwadau trawsbleidiol am waharddiad, ymgynghoriad gan y llywodraeth a deiseb wnaeth ddenu 35,000 o lofnodion.

Ddydd Mercher diwethaf fe ddywedodd Mr Irranca-Davies y byddai'n gwneud cyhoeddiad "yn y gwanwyn".

Ond chwe diwrnod yn ddiweddarach fe ddywedodd taw "nawr yw'r amser i symud i wahardd rasio milgwn yng Nghymru".

'Rwyf wedi gwrando'

Dywedodd ei fod wedi gweld bod 'na deimladau cryf ynglŷn â'r pwnc ac "rwyf wedi gwrando".

Mae gweinidogion wedi bod dan bwysau i wahardd y gamp, gan gynnwys gan aelodau Llafur.

Dim ond un trac rasio cŵn sydd yng Nghymru: Valley Stadium yn Ystrad Mynach.

Cymru fyddai'r wlad gyntaf ym Mhrydain i wahardd rasio gyda milgwn.

Dim ond un trac rasio cŵn sydd yng Nghymru: Valley Stadium yn Ystrad Mynach.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr unig drac rasio cŵn yng Nghymru: Valley Stadium yn Ystrad Mynach

Tynnodd Mr Irranca-Davies sylw at waharddiadau mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd lle cyhoeddodd y llywodraeth waharddiad ym mis Rhagfyr.

Does dim dyddiad wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwaharddiad yng Nghymru, ond dywedodd y dirprwy BW: "Rydw i eisiau i waharddiad ddod i rym cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib."

Bydd gwaith i'w wneud i sicrhau bod cŵn, perchnogion a phobl yn y diwydiant yn gallu dod â'r gamp i ben "tra'n dal i warchod lles cŵn yn y diwydiant ar hyn o bryd, y gymuned leol a'r economi leol".

Bydd "grŵp gweithredu" yn dysgu gan wledydd eraill ac yn cynghori'r llywodraeth ar sut i gyflwyno gwaharddiad, meddai.

Beca Brown a NelFfynhonnell y llun, Beca Brown
Disgrifiad o’r llun,

Beca Brown a'i milgi, Nel

Mae Beca Brown yn gynghorydd yng Ngwynedd ac yn ymddiriedolwr elusen Achub Milgwn Cymru.

Mae hi'n berchen ar filgi o'r enw Nel, oedd yn arfer rasio, ac yn croesawu'r gwaharddiad yn fawr.

"Mae o'n gamp sydd yn ecsploetio cyflymder naturiol anifail hyfryd er budd adloniant a gamblo," meddai ar Dros Frecwast fore Mercher.

"Ers 2018 mae 'na bron i 3,000 o filgwn wedi colli'u bywydau oherwydd rasio yn y gwledydd yma.

"Mae 'na ddamweiniau erchyll yn digwydd ar draciau rasio cŵn, ac oni bai bod chi'n eu gweld nhw, fasa chi ddim callach fod y ffasiwn beth yn digwydd.

"Wedyn mae gennych chi'r gor-fridio... mae Nel, fy nghi i, yn cael ei chysidro yn y diwydiant fel wastage - ci 'naeth ddim ennill rasys - wedyn oedd hi'n cael ei thaflu allan o'r diwydiant yn dair oed.

"Mae'r cŵn sbâr yna i gyd yn landio mewn canolfannau achub ac yn chwilio am gartrefi.

"Dwi mor falch fod Cymru yn arwain y ffordd yn y gwledydd yma a gobeithio fydd y gwledydd eraill yn dilyn.

"Mae amodau byw y milgi rasio yn wirioneddol greulon a digalon."