S4C yn dechrau'r broses o recriwtio prif weithredwr nesaf y sianel
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd S4C wedi penodi penhelwyr (headhunters) i recriwtio prif weithredwr nesaf y sianel.
Cafodd Siân Doyle ei diswyddo o'r rôl ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio.
Sioned William sydd wedi bod yn brif weithredwr dros dro ers cael ei phenodi ym mis Chwefror.
Mae disgwyl i gwmni Odgers Berndtson weithio gyda'r bwrdd unedol i lunio proses recriwtio, medd S4C, gyda'r bwriad o hysbysebu'r rôl o fis Medi.
Yn y cyfamser, mae'r darlledwr yn hysbysebu am swydd i ofalu am staff a chreu "awyrgylch gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol".
Bydd cyflog o hyd at £90,000 i'r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, a bydd y swyddog hefyd yn aelod o dîm rheoli S4C. Nid yw'r rôl honno yn un newydd.
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Mai 2023
Wrth hysbysebu am Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, dywed S4C fod creu awyrgylch gwaith cadarnhaol yn "ganolog" i'w blaenoriaethau "yn dilyn cyfnod heriol".
Bydd gofyn i'r swyddog lunio strategaeth i ddenu, cadw a datblygu staff, "a chreu amgylchedd sy'n caniatáu i bawb sy'n gweithio gyda ni deimlo'n ddiogel a bod y gorau y gallent fod".
Rhaid bod gan ymgeiswyr o leiaf pum mlynedd "ddofn" o brofiad ym maes adnoddau dynol.
Bydd gan y swyddog gyflog rhwng £85,000 a £90,000.
Ymchwilio i 'fwlio ac ofn'
Fe wnaeth cwmni cyfreithiol ymchwilio i awyrgylch gwaith S4C yn 2023 wedi i undeb Bectu honni fod "diwylliant o ofn" ymhlith staff y sianel.
Daeth i'r amlwg yr wythnos ddiwethaf fod S4C wedi gwario dros £500,000 ar yr ymchwiliad.
Disgrifiodd y cadeirydd dros dro hynny fel testun "ychydig o embaras" ond fod y sianel yn "symud i'r cyfeiriad cywir" o'i herwydd.
Mewn datganiad ddydd Gwener, cadarnhaodd Guto Bebb y byddai Sioned Wiliam yn parhau yn ei swydd tan y bydd y prif weithredwr nesaf yn dechrau.