Canfod tiwmor ar ôl mynd â bachgen at yr optegydd

RomeFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Rome, 4, lawdriniaeth chwe awr o hyd ar ei ymennydd

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth rhieni bachgen pedair oed ddarganfod fod gan eu mab diwmor ar yr ymennydd ar ôl mynd ag ef at yr optegydd.

Aeth rhieni Rome Hill ag ef am brawf golwg ar ôl sylwi bod ei lygad chwith yn crynu.

Esboniodd meddyg ei fod yn ddall yn y llygad hwnnw ac, ar ôl profion pellach, bod ganddo diwmor ar yr ymennydd.

Cafodd rhan o'r tiwmor ei dynnu mewn llawdriniaeth chwe awr o hyd ym mis Mehefin.

"Doeddwn ni methu coelio'r peth," medd ei dad Perry Hill, 33, o Gaerdydd.

"Mi wyt ti'n clywed am bethau fel hyn ar y newyddion neu'r teledu – ond dwyt ti byth yn dychmygu y galle fe ddigwydd i dy deulu di."

Fe wnaeth Mr Hill a'i bartner, Katie Hayes, fynd â Rome at yr optegydd ym mis Ebrill.

"Ro'n i'n edrych ar ei lygad tra'i fod e'n gwylio'r teledu, a 'nes i sylwi arno fe'n crynu.

"'Nes i sôn am y peth wrth Katie. I ddechrau, meddwl ei fod e'n beth anwirfoddol oeddwn i, ond fe benderfynon ni cael rhywun i edrych arno."

Fe ddywedodd optegydd fod gan Rome "olwg eitha' gwan".

Ond wedi hynny, fe ddywedodd meddyg ymgynghorol wrth y teulu fod Rome yn ddall yn ei lygad chwith.

"Doeddwn ni methu credu'r peth. Dyw Rome erioed wedi 'neud unrhyw beth fyddai'n awgrymu fod problem gyda'i lygaid," meddai Mr Hill.

"Does dim problemau ganddo o ran cydbwysedd na chydsymud. Pan 'dw i'n chwarae rygbi 'dw i'n chwifio arno fe o'r cae, ac mae e'n chwifio'n ôl."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd Rome gyfnod yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru wedi ei driniaeth

Aeth Rome am sgan MRI rhai wythnosau'n ddiweddarach, a chafodd y teulu eu gwahodd i gyfarfod â'r meddyg wedi hynny.

"Cawsom ni ein cymryd mewn i'r 'stafell 'ma gyda chadeiriau cyfforddus, a ninnau'n gofyn, 'beth ma' rhain am ei ddweud?' Roedden ni'n nerfus iawn," medd Mr Hill.

'Wedi bod mor ddewr'

Fe ddywedodd y meddyg fod gan Rome diwmor yn agos at waelod ei ymennydd.

Cafodd rhan o'r tiwmor ei dynnu mewn llawdriniaeth chwe awr o hyd.

"Ar ddiwrnod y llawdriniaeth, 'nes i gerdded 'nôl a 'mlaen trwy'r tŷ cyfan. Roedd e'n erchyll.

"Pan ddaeth e' mas ac fe glywsom ni bod y llawdriniaeth wedi llwyddo, roedd e'n gymaint o ryddhad.

"Y prif beth i ni oedd bod Rome yn gallu dod adref. Mae e' wedi bod mor ddewr trwy hyn i gyd," medd ei dad.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae tad Rome am godi ymwybyddiaeth o waith staff Ysbyty Arch Noa

Dywedodd meddygon nad oedd y tiwmor yn ganseraidd. Bydd Rome nawr yn derbyn cemotherapi er mwyn lleihau maint y tiwmor.

Bydd y bachgen hefyd yn cael profion i weld a fydd lleihau'r tiwmor yn golygu bydd ei olwg yn gwella.

"Roeddwn ni ar ben y byd i glywed nad oedd y tiwmor yn ganseraidd. Mae'r peth wedi digwydd mor gyflym ac mae'r teimladau dal yn fyw.

"Ond roeddwn ni moyn codi ymwybyddiaeth o'n stori ni a'r gwaith gwych mae'r tîm yn Arch Noa yn ei wneud."

Bydd Mr Hill yn rhedeg 10km gan obeithio codi £10,000 i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

"Mae'n 10k am £10k. Ry'n ni moyn codi gymaint ag y gallwn ni i'r tîm fel diolch am edrych ar ôl ein mab.

"Ry'n ni hefyd eisiau dangos faint y'n ni'n gwerthfawrogi'r doctoriaid, nyrsys a'r holl weithwyr iechyd ar y ward."

Pynciau cysylltiedig