Y brodyr Croft i focsio ar lefel broffesiynol

Ioan a Garan Croft
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brodyr Croft yn edrych ymlaen at focsio ar lefel broffesiynol am y tro cyntaf yn Iwerddon dros y penwythnos

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl dangos eu doniau mewn gornestau amatur, mae efeilliaid o Grymych yn barod i gamu i lefel broffesiynol y byd bocsio.

Fe fydd Ioan a Garan Croft yn teithio i Waterford, Gweriniaeth Iwerddon ble byddan nhw'n cael eu cyfle cyntaf i focsio ar y lefel nesaf dros y penwythnos.

Fis Chwefror eleni, fe gefnodd y ddau ar system focsio Prydain, a hynny bum mis cyn Gemau Olympaidd Paris.

Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n anhapus â newidiadau i ddosbarthiadau pwysau - rheolau fyddai’n golygu mai dim ond un o’r efeilliaid fyddai’n cael mynd i Ffrainc.

Er iddi fod yn flwyddyn anodd yn i'r ddau ddyn ifanc, mae Garan yn teimlo eu bod nhw’n barod i ddangos eu sgiliau ar y lefel uchaf.

"Un o'r rhesymau nethon ni adael oedd achos ein bod ni'n cystadlu am yr un lle yn y Gemau Olympaidd.

"Pan rydych chi wedi neud e am flynyddoedd, mae'n anodd. Ond nawr, ni'n gallu edrych ymlaen i traino, edrych ymlaen i gystadlu a ddim yn gorfod cystadlu yn erbyn fy mrawd.

"Mae jyst yn haws, yn fwy hapus fel hyn."

'Gobeithio gallwn ni ddathlu'

Bydd bws llawn dop o Grymych yn mynd draw i Weriniaeth Iwerddon dros y penwythnos i gefnogi’r brodyr ifanc.

Gobaith Ioan yw gallu dathlu gyda'r rheini sydd wedi eu cefnogi ar hyd y daith.

"Bydd hi'n foment sbesial iawn ar y noson - a wedyn gobeithio gallwn ni ddathlu gyda ffrindiau a phobl sydd wedi dod i gefnogi o'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-bencampwr pwysau ysgafn y byd, Anthony Crolla, yn rhagweld dyfodol disglair i'r brodyr Croft

Ag yntau â llu o brofiadau, fe fydd cael cyn-bencampwr pwysau ysgafn y byd, Anthony Crolla, yn eu cornel yn siŵr o fod o fudd i'r ddau.

Campfa FOX ABC Manceinion sydd wedi bod yn gartref i Ioan a Garan dros y misoedd diwethaf, a hynny o dan oruwchwyliaeth Anthony Crolla.

"Maen nhw'n llawer mwy talentog nag oeddwn i erioed," meddai.

"Yn y gêm hon mae angen ychydig o lwc arnoch i gyrraedd y brig, dim ots pa mor dda ydych chi.

"Ond os yw'r rhain yn cael y lwc i fynd gyda, nid yn unig y sgiliau, ond pa mor galed maen nhw yn gweithio.

"Mae'n beth prin cael y ddau, ac mae gan rhain gyfle gwych i fynd yr holl ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brodyr wedi gwneud eu marc ers dechrau bocsio yn fechgyn ifanc

Mae cyfle i gyrraedd yr uchelfannau i’r efeilliaid, gyda'r ddau yn barod i ddangos eu bod yn gartrefol ar y llwyfan mawr.

Bydd y gornestau ar 7 Rhagfyr, ac mae'r brodyr Croft yn barod i chwifio’r faner dros Grymych a Chymru.

Pynciau cysylltiedig