'Canolbwyntio ar be' sy'n bwysig' ar ôl helbul Llafur Cymru

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Huw Irranca-Davies gael ei gadarnhau fel dirprwy brif weinidog newydd Cymru ym mis Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae'r dyn sy'n debygol o fod yn Ddirprwy Brif Weinidog newydd Cymru yn dweud ei fod am ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig ar ôl ychydig o fisoedd anodd i Lafur Cymru.

Dywedodd Huw Irranca-Davies ar raglen Sunday Supplement fod "cryn helbul" wedi bod o fewn y blaid yn ddiweddar.

"Nid yw'n ddeniadol i'r cyhoedd os oes gennych blaid sy'n delio'n gyson â'i materion ei hun," meddai.

Roedd Eluned Morgan - sy'n debygol o gael ei chadarnhau fel Prif Weinidog nesaf Cymru ym mis Awst - yn gywir i ymddiheuro am y trafferthion, yn ôl Mr Irranca-Davies.

'Cymryd ychydig o fflac'

Pan ofynnwyd iddo am gyflwr GIG Cymru a record Ms Morgan, dywedodd fod angen i'r blaid fynd allan i siarad yn ddwys â phobl "a derbyn dipyn o fflac".

"Yng Nghymru nid ydym wedi cael streic meddygon iau - bu ymgysylltu da â nhw, trafodaethau da wrth symud ymlaen," meddai.

"Mae amseroedd aros tymor hir yn dod i lawr yn gynt nag ydyn nhw yn Lloegr ond rydyn ni'n gwybod bod gennym ni gymaint ymhellach i fynd ac rydw i'n meddwl bod yna ychydig o onestrwydd yma gyda phobl yng Nghymru hefyd.

"Nid ydym yn imiwn rhag pwysau'r gwasanaeth iechyd ond mae gyda ni fwy o ffordd i fynd yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhy gynnar i ddweud os fydd swydd yn y cabinet i Jeremy Miles, yn ôl Huw Irranca-Davies

Fe gefnogodd Mr Irranca-Davies Jeremy Miles yn yr etholiad arweinyddiaeth yn gynharach eleni.

Ond dywedodd ar y rhaglen ei fod yn rhy gynnar i ddweud os fydd swydd yn y cabinet iddo.

"Mae yna lawer o bobl sydd wedi cael eu cleisio," meddai.

"Pan ddaeth y grŵp Llafur at ei gilydd, a phan wnaeth Eluned a fi gyfarfod â nhw - a dyma'r diffiniad o wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth - roedd pobl wedi'u cleisio, ond mae ysbryd colegol cryf nawr i ddweud 'gadewch i ni ddod yn ôl at ein gilydd a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i bobl Cymru'."

'Angen mwy o gydweithio'

Dywedodd Mr Irranca-Davies ei fod eisiau gweld mwy o gydweithio gyda'r gwrthbleidiau wrth symud ymlaen.

"Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nawr yw archwilio gyda Phlaid Cymru a hefyd gyda Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol a oes rhaglen lywodraethu a chyllideb a fyddai’n gweithio i'r Senedd gyfan.

"Fe ddes i'n ôl i'r Senedd oherwydd dwi'n credu bod yna ffordd o weithio… dwi eisiau gweld gwerthoedd Llafur yn cael eu hymgorffori ar draws popeth rydyn ni'n ei wneud ond rydw i hefyd eisiau gweithio'n drawsbleidiol lle rydyn ni'n cytuno ar faterion.

"Dyna a gawsom mewn gwirionedd yn ychydig fwy ffurfiol yn y cytundeb cydweithredol [gyda Phlaid Cymru] dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

"Wrth symud ymlaen mae'r cytundeb cydweithredu hwnnw wedi dod i ben ond mae yna dal ffordd i weithio gyda phobl ar draws y siambr.

"Nid dyma’r agwedd wrthwynebol y byddech chi'n ei gweld mewn seneddau eraill. Anghenraid y Senedd yw eich bod yn gweithio gydag eraill ac yn dweud ‘a fyddwch yn cytuno â ni fod y gyllideb hon yn edrych yn iawn?’”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr AS Plaid Cymru Delyth Jewell "na fydd pobl wedi anghofio" am helbul diweddar y Blaid Lafur pan ddaw'r etholiad Seneddol nesaf

Yn ôl Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru yn Senedd Cymru, Delyth Jewell, bydd cael prif weinidog benywaidd yn "gyffrous" ond mae "gymaint o gwestiynau o hyd sut weinyddiaeth fydd yna, a ble fydd ein blaenoriaethau".

O'r herwydd, dywedodd wrth y rhaglen, nid yw'n bosib dweud eto a fyddai ei phlaid yn cefnogi cyllideb Llafur.

Fe gyhuddodd Llafur Cymru o "gamu'n ôl o ran uchelgais", gan ddweud mai yn ystod cytundebau gyda Phlaid Cymru i daeth nifer o lwyddiannau'r llywodraeth.

Ychwanegodd na fydd pobl yn anghofio "anhrefn" y misoedd diwethaf "ar ben 25 mlynedd o fethu â gwneud digon ar ran pobl Cymru".

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, mae "angen nawr i'r ffocws fod ar flaenoriaethau'r bobl" yn dilyn "misoedd o ansefydlogrwydd a brwydrau mewnol Llafur".

Dywedodd bod Huw Irranca-Davies "wedi cyfaddef bod Llafur wedi bod yn edrych tuag at i mewn yn hytrach na gweithredu ar ran pobl Cymru".

Mae'r Ceidwadwyr, meddai, eisiau i'r llywodraeth Lafur ddileu "prosiectau porthi balchder costus, fel creu 36 yn rhagor o wleidyddion, er mwyn ariannu blaenoriaethau pobl hyd a lled Cymru, fel ein hysgolion ac ysbytai sy'n gwegian".

Fe awgrymodd Mr Davies ddydd Gwener y byddai'r Ceidwadwyr yn fodlon cynnal trafodaetha gyda'r llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd ynghylch eu cynlluniau gwariant.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Dodds ddydd Sul nad oes diddordeb ganddi i'r Democratiaid Rhyddfrydol fod yn rhan o glymblaid neu gytundeb gyda'r llywodraeth newydd

Dywed arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, nad oes diddordeb bod yn rhan o lywodraeth Eluned Morgan.

"Rwy'n glir mai fy sefyllfa, fel Democrat Rhyddfrydol, yw i herio Llafur Cymru - i'w dal i gyfri a gwella bywydau pobol yma yng Nghymru a dwi'n gwneud hynny'n well o'r tu allan," dywedodd.

"Dydw i ddim â diddordeb o gwbl mewn unrhyw glymblaid nag yn unrhyw swydd o fewn y llywodraeth o gwbl."

Ychwanegodd ei bod "eisiau gweld be ydi polisïau'r llywodraeth newydd" cyn penderfynu a fydd yn cymeradwyo cyllieb y llywodraeth.