Ysgol Gymraeg sydd wedi tyfu'n 'annisgwyl' angen 'sicrwydd' am gartref

Mae'r cyngor wedi cael trafferthion i ddod o hyd i safle addas yn Nhrefynwy
- Cyhoeddwyd
Mae angen i ysgol flwydd oed sydd wedi denu mwy o blant i addysg Gymraeg nag oedd y cyngor sir wedi disgwyl gael "sicrwydd" am gartref parhaol.
Dyna neges Gweinidog y Gymraeg, Mark Drakeford, yn y Senedd brynhawn Mercher am Ysgol Gymraeg Trefynwy.
Penderfynodd Cyngor Sir Fynwy yn Ionawr 2023 fwrw ymlaen gyda sefydlu'r ysgol newydd, er bod yr aelod cabinet dros addysg yn "siomedig" mai dim ond tri o blant oedd wedi cofrestru.
Wedyn, oherwydd trafferthion wrth recriwtio staff, gohiriwyd y cynllun am flwyddyn.
Roedd yn rhaid felly i rieni yn Nhrefynwy oedd am i'w plant gael addysg Gymraeg anfon eu plant ar daith gron o 37 milltir i Ysgol Y Fenni.
Erbyn hyn mae 32 o blant yn yr ysgol a agorodd ym mis Medi 2024, ond mae'n rhannu safle gydag ysgol gynradd Saesneg Overmonnow.
Dywedodd Cyngor Sir Fynwy wrth y BBC eu bod yn "hyderus bod capasiti yn Ysgol Gymraeg Trefynwy iddi barhau i dyfu [ar y safle presennol] am y tair blynedd nesaf".
Dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg bod "hyder y gymuned mewn addysg Gymraeg yn dibynnu ar ymrwymiad pendant gan y sir i ddarparu cartref teilwng i'r ysgol, ac rydym yn dymuno gweld camau pendant i adnabod adeilad a fydd yn ddatrysiad hirdymor cyn gynted ag y bo modd".

"Mae'r ysgol yn llwyddo i feithrin cariad at y Gymraeg" meddai Peredur Owen Griffiths
Yn y Senedd brynhawn Mercher, dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, "mae'r ysgol yn llwyddo i feithrin cariad at y Gymraeg ymhlith plant a theuluoedd, ond does dim cartref penodol wedi'i glustnodi iddi ar hyn o bryd gan y sir".
Gofynnodd yr AS Plaid Cymru dros ddwyrain de Cymru, "sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i gynnal a datblygu'r Gymraeg yn lleol, yn enwedig yn achos sir Fynwy, lle mae'r angen yn arbennig o fawr?
"Sut y bydd y llywodraeth yn sicrhau bod buddsoddiad priodol a chynaliadwy yn cael ei wneud i ddiogelu dyfodol yr ysgol, a rhai eraill yn fy rhanbarth rydych chi wedi nodi yn barod, ac i gryfhau'r Gymraeg yn y gymuned ac yn y system addysg?"
Atebodd Mr Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, "mae'r ysgol sydd newydd wedi dechrau wedi llwyddo.
"Mae mwy o blant wedi dod ymlaen i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg nag oedd y cyngor sir yn disgwyl yn wreiddiol.
"Y pwynt nawr yw bod yn glir am ddyfodol yr ysgol yn yr hir dymor."

Mae angen y sicrwydd er mwyn i'r ysgol "allu parhau â'r llwyddiant y mae wedi'i gael hyd yn hyn" meddai Mark Drakeford
Ymhelaethodd Mr Drakeford, "sefydlwyd Ysgol Gymraeg Trefynwy fel yr hyn a elwir yn 'ysgol egin': ysgol i ddechrau'r busnes o sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael yn fwy rhwydd i rieni a phobl ifanc yn yr ardal honno.
"Mater i'r awdurdod lleol yw cynllunio ar gyfer dyfodol hirdymor yr ysgol honno.
"Fy nealltwriaeth i yw, o'r dechrau, bod lle wedi bod ar ei safle presennol iddi am ddwy neu dair blynedd yn unig.
"Ond rwy'n deall y pwynt sydd y tu ôl i gwestiwn yr Aelod; bydd rhieni a staff yn chwilio am sicrwydd ynghylch lleoliad hirdymor yr ysgol honno.
"Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r swyddog arweiniol dros addysg yn Sir Fynwy, a chyda'r swyddog arweiniol dros addysg cyfrwng Cymraeg.
"Rwy'n deall y bydd papur yn mynd i gabinet y cyngor sir yn yr hydref, yn nodi'r opsiynau sydd yno ar gyfer lleoliad hirdymor yr ysgol honno, gan gydbwyso, fel y mae'n rhaid iddo ei wneud, y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a'r rhagamcanion cyffredinol ar gyfer niferoedd gostyngol o blant ifanc sy'n dechrau addysg yn y sir dros y degawd nesaf.
"Dydw i ddim yn credu y dylem ni ymddwyn fel pe baem ni'n meddwl bod y rheini'n bethau hawdd i'w datrys, ond rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig i'r ysgol hon, Ysgol Gymraeg Trefynwy, fod ganddi sicrwydd ynghylch ei lleoliad hirdymor a'i bod hi'n gallu parhau â'r llwyddiant y mae wedi'i gael hyd yn hyn o ran denu hyd yn oed mwy o bobl ifanc i addysg cyfrwng Cymraeg."

Rhaid rhoi "cyfle ac anogaeth i fwy o deuluoedd roi'r cyfle i'w plant gael addysg Gymraeg" meddai Elin Maher
Dywedodd Elin Maher wrth y BBC ar ran Rhieni dros Addysg Gymraeg, ei bod yn "llongyfarch ac yn dathlu gyda chymuned Ysgol Gymraeg Trefynwy ar fod ar agor ers blwyddyn.
"Mae'r garreg filltir hon yn dyst i ymroddiad y teuluoedd, y staff, y gymuned leol a phartneriaid y Gymraeg yn lleol i sicrhau bod plant Trefynwy yn cael cyfle i fwynhau addysg Gymraeg o'r cychwyn cyntaf."
Fodd bynnag, mae'n awyddus i glywed gan Gyngor Sir Fynwy am eu cynlluniau ar gyfer cartref parhaol i'r ysgol.
Meddai: "Mae'n hanfodol bod cymuned yr ysgol yn ymwybodol o gynlluniau'r sir er mwyn gallu dangos bod addysg Gymraeg yn tyfu yn y dref, a bod cyfle ac anogaeth i fwy o deuluoedd roi'r cyfle i'w plant gael addysg Gymraeg a dod yn siaradwyr dwyieithog hyderus.
"Ar hyn o bryd, nid oes lle ar gyfer gofal cynnar mewn Cylch Meithrin nac ar gyfer darpariaeth gofal cofleidiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
"Yn ogystal, nid oes modd i'r teuluoedd mwyaf difreintiedig yn Nhrefynwy gael mynediad at ddarpariaeth Dechrau'n Deg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan nad oes digon o ystafelloedd ar gael i'r ysgol newydd ar y safle presennol.
"Rydym yn galw ar Gyngor Sir Fynwy i sicrhau bod cynlluniau clir ar gyfer adeilad parhaol yn cael eu datblygu cyn gynted ag y bo modd."
'Parhau i dyfu'
Cyn penderfynu rhannu'r safle gydag Ysgol Gynradd Overmonnow, dywedodd y cyngor yn 2023, "dros y tair blynedd diwethaf, mae gwaith sylweddol wedi'i wneud i nodi lleoliad addas ar gyfer ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn ardal Trefynwy.
"Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymdrechion, nid ydym wedi gallu sicrhau safle addas yn y dref oherwydd diffyg tir sydd ar gael neu addas."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Fynwy wrth y BBC fod y cyngor "wedi ymrwymo i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg".
"Rydym wedi bod yn hynod falch o'r ymateb i greu Ysgol Gymraeg Trefynwy, ac mae ei thwf yn dangos yr awydd am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.
"Mae'r cydweithrediad rhwng yr ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Gynradd Overmonnow, ac Ysgol Gymraeg Trefynwy wedi bod yn gadarnhaol ar gyfer datblygiad yr egin ysgol.
"Rydym yn hyderus bod capasiti yn Ysgol Gymraeg Trefynwy iddi barhau i dyfu am y tair blynedd nesaf ar ei llwybr presennol.
"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn nodi lleoliad addas a chynaliadwy i'r ysgol barhau i dyfu."
Y ddwy ysgol gynradd Gymraeg arall yn Sir Fynwy yw Ysgol Gymraeg Y Ffin, Cil-y-Coed ac Ysgol Y Fenni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mai
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2023