Etholwyr yn 'cael eu hanghofio' gan wleidyddion

Barbara Burden
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Barbara Burden ddim wedi pleidleisio mewn etholiadau diweddar

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl na bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol yn dweud eu bod yn cael eu "hanghofio" gan wleidyddion.

Dywedodd nifer o bobl wrth raglen BBC Politics Wales eu bod yn credu na fyddai eu pleidlais yn effeithio ar eu bywydau nac yn dod â newid yn eu cymuned.

Cofnododd Abertyleri, sy'n rhan o etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni, y ganran isaf o bleidleiswyr yng Nghymru ar 42.7%.

Eleni, 56% o bleidleiswyr cymwys yng Nghymru wnaeth bleidleisio, o gymharu â 60% ledled y DU.

Yn arcêd Abertyleri, sy’n llawn siopau a chaffis, mae Barbara Burden, 76, ac Alan Johnson, 72, yn mwynhau paned o de yng nghanol y bore. Ni phleidleisiodd y naill na’r llall yn yr etholiad diweddar.

"Roedd fy nhad yn ddyn Llafur mawr, roedd bob amser yn pleidleisio dros Lafur ac fe fyddai’n dweud wrtha’ i fod menywod wedi ymladd dros ein hawl i bleidleisio, felly dylem wneud - ond dwi heb bleidleisio ers rhai etholiadau nawr,” meddai Ms Burden.

Mae'r ddau yn teimlo na fyddai eu pleidleisiau'n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw neu i'w hardal.

"Rydyn ni eisiau gweld beth mae Llafur yn ei wneud yn gyntaf, gweld beth fyddan nhw'n ei wneud i Abertyleri - yna efallai y byddaf yn pleidleisio yn yr un nesaf,” meddai Alan.

Mae Elaine Sandra Curtis yn siopa yn y dref, ac fe wnaeth hi bleidleisio.

"Nes i bleidleisio dros newid ond a fydd newid yn y cymoedd? Dyna gwestiwn arall,” meddai.

Dywedodd Ms Curtis fod yr ardal wedi cael ei hanghofio gan wleidyddion: “Roeddwn yn disgwyl i ymgeiswyr ddod at y drws, ond ni welais neb."

Mae hi'n awgrymu mai un rheswm dros y nifer isel o bleidleiswyr oedd oherwydd bod llawer yn teimlo bod yr ardal yn sedd ddiogel i Lafur.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Joshua Hill ei bod hi'n hawdd i bobl mewn llefydd fel Abertyleri deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu

Mae Joshua Hill yn rhedeg busnes Hearthside Games sydd wedi yn yr arcêd. Dechreuodd y busnes llynedd gan ei fod yn dweud ei bod yn haws na dod o hyd i swydd yn yr ardal.

"Pleidleisiais oherwydd dwi’n meddwl ei bod yn bwysig dangos sut rydych chi'n teimlo, ond mae’n anodd yn fan hyn achos mae’n teimlo bod neb yn yr ardal yn poeni o gwbl."

Nid oedd Joshua wedi synnu clywed bod nifer o bleidleiswyr yn yr ardal yn isel.

"Mae llawer o bobl yn teimlo nad oes ots pwy chi'n pleidleisio drosto oherwydd ‘does neb yn poeni am yr ardaloedd yma beth bynnag,” meddai.

“Ni’n ardal wledig ac allan o’r ffordd, ac yn cael ein gadael allan.”

Fe benderfynodd un o'r cwsmeriaid Samuel Hale, 21, beidio â phleidleisio.

"Os ydw i'n onest, nid oeddwn yn gwbl siŵr pwy i bleidleisio drosto a dwi’m yn synnu bod nifer y pleidleiswyr yn isel yma, does dim llawer o gwmpas yma."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cyn-arweinydd Llafur Cymru, Neil Kinnock, fod y nifer isel a bleidleisiodd yng Nghymru yn "warthus"

Yn gynharach yr wythnos yma, dywedodd cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock, fod y nifer isel o bleidleiswyr mewn rhannau o Gymru yn “warthus”.

Fe ostyngodd canran pleidlais Llafur yng Nghymru o 40% i 37% - ffigwr sy'n achosi cryn bryder, meddai’r Arglwydd Kinnock.

Doedd gan Llafur ddim llawer o fwyafrif mewn sawl sedd.

Roedd canlyniad etholaeth Gogledd Clwyd yn agos iawn gyda Gill German o Lafur yn cipio'r sedd gyda mwyafrif o 1,196 pleidlais.

Doedd dim llawer o fwyafrif chwaith yn etholaethau Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, Llanelli na Chanol a De Sir Benfro.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Jac Larner fod llawer o bobl ifanc yn ymwneud â gwleidyddiaeth ond nid drwy bleidleisio

Mae Dr Jac Larner, darlithydd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi pwysleisio sawl ffactor a allai esbonio y gostyngiad yn nifer y pleidleiswyr.

"Mae pleidleisio yn uwch fel arfer mewn etholiadau cystadleuol, lle mae pleidleiswyr yn teimlo bod eu dewis yn gallu dylanwadu ar y canlyniad. Fe welsom hyn yn cael ei adlewyrchu yng Nghymru lle’r oedd rhai etholaethau cystadleuol," meddai.

“Yn ogystal, gall gwahaniaethau ideolegol sylweddol rhwng y pleidiau godi nifer o bleidleiswyr, gan fod pleidleiswyr yn gweld potensial am newid mawr. Fodd bynnag, eleni, roedd llawer o bobl yn teimlo nad oedd llawer o wahaniaeth rhwng cynigion y pleidiau,” ychwanegodd.

Mae Dr Larner hefyd wedi sylwi bod llawer o bobl ifanc yn ymwneud â gwleidyddiaeth ond ddim o reidrwydd yn pleidleisio.

“Mae llawer o bobl ifanc yn llofnodi deisebau neu'n ysgrifennu at wleidyddion. Yn gyffredinol, mae pobl ifanc yn teimlo nad yw pleidleisio yn achosi newid.

Gyda'r etholiad nesaf y Senedd yn digwydd yn 2026, a'r dathliad o 25 mlynedd o ddatganoli ym mis Mai, mae gwleidyddion Cymru yn poeni am ymgysylltiad pleidleiswyr.

Dywedodd Dr Larner y gallai’r etholiad nesaf i’r Senedd fod yn fwy cystadleuol nag erioed.

“Wrth i fwy o bobl gredu bod Holyrood yn bwysig i Senedd yr Alban, cododd nifer y pleidleiswyr yno. Ac mae hynny’n duedd rydyn ni’n ei gweld ledled Cymru,” ychwanegodd.