Kinnock: Canran pleidleisio isel Cymru yn 'warthus'

Neil Kinnock a Syr Keir Starmer yn dathlu buddugoliaeth Llafur yn yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, yn dweud fod y niferoedd isel a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol mewn rhannau o Gymru yn "warthus".
Yng Nghymru, dim ond 56% o'r rhai oedd yn gymwys aeth ati i fwrw pleidlais, o'i gymharu â 60% ar draws y DU, a 67% yng Nghymru y tro diwethaf yn 2019.
Er iddyn nhw ennill y mwyafrif o seddi, gostyngodd cyfran pleidlais Llafur yng Nghymru o 40% i 37%.
Ar raglen frecwast Radio Wales, dywedodd yr Arglwydd Kinnock fod y blaid yn "bryderus iawn" am y mater.

Cymru welodd y cwymp mwyaf yn nifer y pleidleiswyr o wledydd y DU
"Roedd y ffaith bod cyfran y bleidlais i lawr ac mewn rhai mannau, sawl lle, roedd y nifer a bleidleisiodd yn warthus ac yn peri gofid mawr, mae'n achos pryder gwirioneddol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny," meddai'r Arglwydd Kinnock.
Dywedodd ei fod wedi siarad gydag ymgeiswyr sy'n "bryderus iawn" am y niferoedd isel sy'n pleidleisio mewn "cymaint o etholaethau".
Cymru welodd y cwymp mwyaf yn nifer y pleidleiswyr ym Mhrydain - o'i gymharu â'r Alban a holl ranbarthau Lloegr.
Dim ond Sir Efrog a Humber oedd â chanran pleidleisio is (55.7%) ac fe welodd pob etholaeth yng Nghymru ostyngiad o'i gymharu â'r etholiad blaenorol.

Roedd yr Arglwydd Kinnock wedi brwydro dwy etholiad fel Arweinydd Llafur yn 1987 a 1992
Mewn cyfweliad emosiynol, dywedodd yr Arglwydd Kinnock, sydd â mab, Stephen Kinnock, sy’n AS dros Aberafan a Maesteg, fod ei neiniau a’i deidiau wedi brwydro am yr hawl i bleidleisio.
"Roedd fy mam-gu bron yn 40 oed pan gafodd ei phleidlais gyntaf. Mae hynny'n ddiweddar," meddai.
"Roedd ein neiniau, ein teidiau a'n rhieni yn rhan o genedlaethau gafodd eu herlid, oedd yn gorfod sefyll dros eu hawliau."
Ychwanegodd fod Syr Keir Starmer wedi dweud wrtho ar ôl buddugoliaeth yr etholiad y bydd y blaid nawr yn "bwrw ati".
“Be chi’n weld ydi be chi’n gael. Mae ganddo synnwyr digrifwch da," meddai'r Arglwydd Kinnock.
"Mae'n caru ei wraig a'i blant, mae'n rhan o gymuned, mae'n ddyn agos-atoch-chi, naturiol, normal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2017