Rhybudd i ffermwyr ar ôl taclo tân mewn ysgubor
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i ffermwyr gadw offer ac anifeiliaid mewn mannau diogel yn dilyn tân sylweddol ar fferm yng Ngheredigion.
Cafodd 20 o ddiffoddwyr eu galw i dân mewn ysgubor fawr yng Nghoed-y-Bryn, ger Castellnewydd Emlyn dydd Mawrth.
Roedd y tân yn ymwneud â pheiriant Bobcat a 70 o fêls gwair.
Cafodd gwartheg oedd yn yr adeilad eu symud i fan diogel hefyd.
Treuliodd criwiau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o Gastellnewydd Emlyn, Aberaeron, Llandysul, Llanbedr Pont Steffan a'r Tymbl bron i bedair awr yn taclo'r digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod eisiau gweithio gyda ffermwyr i osgoi digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
Maent wedi rhybuddio ffermwyr rhag cadw offer fflamadwy gydag anifeiliaid neu gerbydau.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Gall ffermydd ac eiddo mewn ardaloedd gwledig fod yn bell ac yn ynysig, sydd yn gallu arwain at bellter teithio hirach, amseroedd ymateb hirach a phroblemau mynediad."
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023
Rhybuddiodd y gwasanaeth gall gridiau gwartheg rhwystro cyfarpar tan rag cyrraedd man tan, gyda rhai offer yn pwyso mwy na 12 tunnell.
Dywedodd y gwasanaeth ei bod nhw eisiau cyd-weithio a ffermwyr a pherchnogion tir i sicrhau bod eu hasesiad risg tan fferm yn gyfredol.
Maent hefyd eisiau datblygu bocs tan yn fynedfa'r tir sydd efo manylion amdan y cyflenwad dwr agosaf , map o'r tir a gwybodaeth am y nifer o anifeiliaid a lleoliad deunyddiau peryglus.
Mae Swyddog Cyswllt Fferm y gwasanaeth yn cynnig cyngor am ddim ar losgi dan reolaeth ac atal tannau ffermwyr, yn ogystal â chynnig profi tymheredd bêls.