Merch, 15, wedi marw ar ôl llithro i Afon Hafren - cwest

Holli SmallmanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Holli Smallman ar 9 Awst, 2024

  • Cyhoeddwyd

Bu farw merch 15 oed ar ôl llithro ger cored yn Afon Hafren wrth chwarae gyda ffrindiau, mae cwest wedi clywed.

Mewn cwest ysgrifenedig, dywedodd y Crwner bod ffrindiau Holli Smallman wedi ceisio cael gafael arni ac wedi chwilio amdani ar ôl iddi ddisgyn.

Cafodd ei chorff ei ddarganfod gan y gwasanaethau brys deirawr yn ddiweddarach ar 9 Awst, 2024.

Mae ei theulu, o'r Trallwng, yn rhybuddio plant a rhieni o'r peryglon o fod yn agos i neu chwarae mewn dŵr agored.

Roedd Holli yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Trallwng ac yn gadet y fyddin.

Wrth roi teyrnged iddi fis Awst y llynedd, dywedodd ei theulu eu bod yn ddiolchgar am yr holl negeseuon o gefnogaeth a gawson nhw gan y gymuned gyfan, gan hefyd fynegi eu cefnogaeth nhw i'r cyfeillion oedd gyda Holli pan aeth i'r afon.

Dywedodd y Crwner bod Holli a'i ffrindiau yn cymdeithasu ar ochr yr afon ond bod ardaloedd bas a dwfn a bod y dŵr yn symud yn gyflym ger y gored.

Clywodd y cwest: "Er gwaethaf ymdrechion ei ffrindiau i gael gafael arni ac i chwilio amdani, nid oedd yn bosib lleoli Holli a ni wnaeth hi ddod yn ôl i'r wyneb.

"Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chafodd Holli ei chanfod dros deirawr yn ddiweddarach."

Aeth ymlaen i gofnodi achos y farwolaeth fel boddi damweiniol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig