Matthew Rhys yn diolch i'r Urdd wrth lansio eu drama gerdd 'fwyaf eto'

Drama gerdd newydd Cwmni Theatr yr Urdd - Calon - sy'n seiliedig ar ganeuon Caryl Parry JonesFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Matthew Rhys yn dweud bod angen i bobl ifanc geisio bachu ar gyfleoedd perfformio i fagu "hyder" - er bod y rheiny bellach yn mynd yn fwy prin.

Daw ei sylwadau wrth iddo ddatgan cefnogaeth i ddrama gerdd newydd Cwmni Theatr yr Urdd fydd yn cael ei llwyfannu y flwyddyn nesaf, sy'n cael ei ddisgrifio fel eu "sioe fwyaf" ers ail-lansio.

Bydd 'Calon' yn gynhyrchiad sy'n dwyn ysbrydoliaeth o ganeuon poblogaidd Caryl Parry Jones, gyda'r gantores ei hun yn rhan o'r broses o'i ysgrifennu.

Gyda disgwyl i dros 100 o bobl ifanc fod yn rhan o'r sioe, ychwanegodd Matthew Rhys y byddai'n "brofiad amhrisiadwy" iddyn nhw.

Cafodd Cwmni Theatr yr Urdd ei lansio ar ei newydd wedd yn 2022, gyda'u cynhyrchiad cyntaf 'Deffro'r Gwanwyn' yn cael ei lwyfannu'r flwyddyn wedyn.

Ond 'Calon' fydd eu drama gerdd fwyaf eto, meddai'r mudiad, sydd nawr yn galw ar bobl ifanc rhwng 15 a 25 i gofrestru eu diddordeb i fod yn rhan ohoni.

Wedi ei selio ar ganeuon Caryl Parry Jones, cafodd y sioe ei sgwennu ganddi ar y cyd gyda'i merched Elan Isaac a Miriam Isaac, fydd yn rhan o'r broses gyfarwyddo, a Non Parry o grŵp Eden.

Wrth lansio'r cynllun yn Sain Ffagan ddydd Iau, dywedodd Matthew Rhys fod yr Urdd wedi rhoi "sylfaen anhygoel" iddo fel actor ifanc.

Matthew RhysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Matthew Rhys wedi actio mewn sawl cyfres deledu adnabyddus gan gynnwys The Americans a Perry Mason

"[Rhoddodd] y llwyfan cyntaf, yr hyder i berfformio, a'r cyfle i ddysgu trwy wneud," meddai'r seren Hollywood.

"Er nad oes modd mesur effaith profiadau celfyddydol ar lesiant plant a phobl ifanc, galla i ddweud â sicrwydd ei fod yn bellgyrhaeddol.

"Yn yr oes sydd ohoni mae cyfleoedd fel y rhai a gynigir gan Gwmni Theatr yr Urdd yn medru bod yn brin.

"Mi ddylai'r celfyddydau fod yn agored i bawb, felly diolch i'r Urdd am alluogi mwy nag erioed i gael profiadau amhrisiadwy fel hyn."

'Ffordd o feithrin doniau'

Bydd y cynhyrchiad, fydd yn cael ei pherfformio dros bedair noson yng Nghanolfan y Mileniwm fis Awst 2026, yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Theatr Cymru.

"Mae lansio Calon ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant yn nodyn atgoffa pwerus o sut y gall y celfyddydau ryddhau potensial pobl ifanc," meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau'r Urdd.

"Mae theatr yn cynnig mwy na llwyfan. Mae'n ofod i feithrin hyder, mynegi hunaniaeth a datblygu sgiliau bywyd parhaol."

Caryl Parry JonesFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y sioe yn llawn caneuon cyfarwydd gafodd eu hysgrifennu gan Caryl Parry Jones, gan gynnwys Shampw, Space Invaders, a'r anthem eiconig Calon

Cafwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2022 i sefydlu Cwmni Theatr yr Urdd, ac maen nhw'n parhau i'w hariannu.

"Mae'r Urdd yn gweithio'n galed i rymuso pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg gyda hyder yn eu bywydau bob dydd," meddai Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg.

"Mae'r cyfleoedd creadigol a pherfformio y mae'r Urdd yn eu cynnig – fel cynhyrchiad Calon – yn ffordd wych o feithrin doniau, hyder a chysylltiad diwylliannol dwfn."

Steffan Donnelly
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Caryl a Non wedi creu sioe unigryw a direidus sy'n dathlu pobl ifanc Cymru," meddai Steffan Donnelly

Dywedodd Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru: "Mae'n wych cydweithio efo Cwmni Theatr yr Urdd i gyflawni'r weledigaeth uchelgeisiol o sioe gerdd newydd ar un o lwyfannau mwyaf Ewrop.

"Mae Caryl a Non wedi creu sioe unigryw a direidus sy'n dathlu pobl ifanc Cymru, ac mae'r cydweithrediad hwn – gyda'n Cyfarwyddwr Cyswllt Rhian Blythe yn cyfarwyddo'r sioe – yn tanlinellu ymrwymiad Theatr Cymru i feithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid a gweithwyr theatr Cymraeg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.