Ehangu cynllun sgrinio canser y coluddyn 'am achub bywydau'

Andrea Weston
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrea Weston yn dweud bod gwneud prawf canser adref "wedi achub fy mywyd"

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wnaeth oroesi canser y coluddyn yn gynharach eleni, ar ôl dal yr afiechyd yn gynnar, yn dweud y gallai ehangu gwasanaeth sgrinio “wir achub bywydau”.

Daw hynny wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd unrhyw un sy’n 50 oed a hŷn nawr yn derbyn profion sgrinio’r coluddyn i’w gwneud adref.

Mae gostwng yr isafswm oed ar gyfer y cynllun – o flwyddyn – nawr yn golygu y bydd miloedd yn rhagor o bobl yn gymwys am brawf drwy eu meddyg teulu.

Y bwriad, meddai’r gweinidog iechyd Jeremy Miles, yw “gwella canlyniadau canser” drwy ddal y clefyd yn gynnar.

Cafodd Andrea Weston, 65, o Abertawe wybod bod ganddi ganser y coluddyn Cyfnod 1 yn gynharach eleni, ar ôl cymryd prawf adref.

Ar ôl dal yr afiechyd yn gynnar, cafodd lawdriniaeth o fewn mis i’r diagnosis ac mae eisoes yn gwella.

“Naeth e chwalu fy myd i, ro’n i wedi fy llorio,” meddai Andrea ar ôl cael clywed bod ganddi ganser.

“Fe symudodd popeth yn sydyn wedyn, ges i’r llawdriniaeth ym mis Mai.

“Fe wnaethon nhw ddod o hyd iddo fe yng Nghyfnod 1, a dim nodau lymff. Felly dwi ddim wedi gorfod cael triniaeth bellach.

“Mae mor, mor bwysig i bobl wneud y profion achos fe wnaeth e’n llythrennol achub fy mywyd.”

Disgrifiad o’r llun,

Taflen wybodaeth y pecyn sgrinio am ganser y coluddyn

Ychwanegodd Ms Weston bod ehangu’r rhaglen brofi yn gam “positif”.

“Ni’n lwcus iawn yn y wlad hon i gael yr holl brofion sgrinio. Mae mor syml (i wneud).

“Mae’n arbed ar y gwasanaeth iechyd hefyd, achos ar ddiwedd y dydd dwi ddim wedi bod angen rhagor o driniaeth.”

Canser y coluddyn yw un o’r canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru, gyda thua 2,400 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Ar hyn o bryd mae cynllun sgrinio canser y coluddyn yn golygu bod y rheiny rhwng 51 a 74 oed yn cael cynnig pecyn hunan-sgrinio bob dwy flynedd.

Mae’r broses yn cynnwys prawf imiwnocemegol ysgarthol (FIT), sydd wedyn yn cael ei anfon am brofion i weld os oes unrhyw arwydd o ganser y coluddyn.

Os yw’n cael ei ddal mae modd ei drin cyn i symptomau ymddangos, a gall y profion hyd yn oed ganfod polypau, sef tyfiannau sydd ddim yn ganser, ond sydd modd eu tynnu er mwyn atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth "wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser" meddai Jeremy Miles

“Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru, a'r ffordd orau o wneud hyn yw canfod a gwneud diagnosis o ganser ar gam cynharach – mae sgrinio’n ein helpu i wneud hyn,” meddai Jeremly Miles.

“Pan fydd rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, mae’n fwy tebygol y gellir ei drin.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfradd gwella canserau sy'n cael eu canfod trwy brofion sgrinio’r coluddyn yn 90%, ac mae bron i naw o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn pan fyddant yn cael diagnosis yn y cam cynharaf.

“Rwy'n falch iawn y bydd miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru yn cael y profion sgrinio’r coluddyn i’w gwneud yn eu cartrefi.”

Gostwng oedran sgrinio yn newyddion 'gwych'

Ychwanegodd elusen Bowen Cancer UK ei bod hi’n “wych” gweld yr oedran sgrinio’n gostwng, ar ôl ymgyrchu mor hir ar y mater.

“Rydym yn gobeithio gweld ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru o ran optimeiddio a sicrhau cyllid priodol ar gyfer sgrinio,” meddai Gerard McMahon, Pennaeth Polisi a Dylanwadu (Gwledydd Datganoledig) yr elusen.

“Gwyddom fod anghydraddoldebau o hyd o ran cymryd rhan mewn sgrinio, a hynny ym mhob rhan o’r wlad.

“Rhaid mynd i’r afael â hyn, a pharhau i wella sensitifrwydd presennol y prawf FIT yn unol ag argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC).

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni’r amcanion allweddol hyn, gan wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn yn y pen draw.”

Pynciau cysylltiedig