Cyngor Môn o blaid her gyfreithiol yn erbyn fferm solar ddadleuol

Cyfarfod Cyngor Môn
Disgrifiad o’r llun,

Fe bleidleisiodd cynghorwyr sir o blaid yr egwyddor o lansio her gyfreithiol mewn cyfarfod brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Môn wedi cefnogi, mewn egwyddor, i lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganiatáu fferm solar ddadleuol ar yr ynys.

Ym mis Awst fe wnaeth Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, ganiatáu datblygiad Alaw Môn.

Bydd y paneli yn cael eu gosod dros 660 erw o dir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys, gan gynhyrchu digon o ynni i bweru tua 34,000 o dai - sydd gyfystyr â phob cartref yn y sir.

Mae'r penderfyniad wedi cythruddo llawer yn lleol.

Brynhawn Iau, fe wnaeth cynghorwyr y sir bleidleisio o fwyafrif llethol o blaid yr egwyddor o lansio her gyfreithiol yn erbyn penderfyniad y llywodraeth.

Mae'r cynnig yn ddibynnol ar farn gyfreithiol os fyddai ymdrech o'r fath yn debygol o lwyddo yn y llysoedd, gyda'r ffenestr i apelio yn cau ar 8 Hydref.

Fe all fod ar ffurf y cyngor yn lansio her gyfreithiol ei hun neu yn cyfrannu'n ariannol tuag at ymdrechion grŵp arall i wneud hynny.

Cafodd y cynnig gerbron y cyngor llawn gefnogaeth trawsbleidiol - gydag ond un aelod annibynnol yn pleidleisio yn erbyn, a'r tri aelod o'r grŵp Llafur yn atal eu pleidlais.

Gary Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun yn "dwyn erwau o dir ffrwython amaethyddol," meddai arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard

Dywedodd arweinydd y cyngor fod llawer ar yr ynys wedi eu cythruddo gan benderfyniad y llywodraeth.

"Nid gwrthwynebu solar neu ynni adnewyddol ydan ni yn y siambr yma," meddai'r cynghorydd Plaid Cymru, Gary Pritchard.

"Be 'dan ni'n wrthwynebu ydy'r ffordd mae'r datblygiad yma wedi ei osod i'r graddau yma, mae 'na ffyrdd llawer mwy amgen.

"Does ond edrych ar faes parcio 100 metr o'r fan hyn, mae 'na baneli ar hyd y parking bays ac mae 'na dir llwyd ddim yn cael ei ddefnyddio.

"Mae'r datblygiad yma am ddwyn gymaint o erwau o dir ffrwythlon amaethyddol ar adeg lle 'dan ni'n gwybod bod problemau diogelwch bwyd.

"'Dan ni yng Nghymru yn cyflenwi ac yn darparu mwy o ynni nag ydan ni'n ei ddefnyddio."

Ymgyrchwyr y tu allan i swyddfeydd y cyngor cyn y cyfarfod
Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhai ymgyrchwyr i bencadlys y cyngor ddydd Iau er mwyn lleisio eu barn

Wrth ganiatáu'r datblygiad fe ddywedodd Ysgrifennydd Economi, Ynni a Chynllunio Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, fod "buddion y cynllun yn drech nag unrhyw effeithiau niweidiol".

Gan gyfeirio at dargedau'r llywodraeth i gynhyrchu 70% o'r trydan sy'n cael ei ddefnyddio drwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030, ychwanegodd ei bod yn "cytuno gyda barn yr arolygwyr y dylid rhoi cryn bwys ar gyfraniad sylweddol y cynllun at gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y cydbwysedd cynllunio".

Y gred yw bod Enso Energy, sef y datblygwyr y tu ôl y cynllun, am gynnig cronfa gymunedol etifeddol gwerth tua £32,000 y flwyddyn (neu tua £1.28m ar hyd oes y prosiect) at fuddion y gymuned leol.

'Ar groesffordd o ran torri allyriadau'

Ond hyd yn oed yn y siambr, roedd yna beth cefnogaeth i'r datblygiad hefyd.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol, Bob Llewelyn Jones, "ein bod ar groesffordd o ran torri ein hallyriadau carbon" a bod modd i ddefaid barhau i bori o dan y paneli.

"Mae cyfle yma i ddangos ein bod o ddifrif yn y rhyfel yn erbyn cynhesu byd eang," meddai.

"Dwi'n gofyn i chi feddwl eto am bleidleisio yn erbyn y datblygiad pwysig yma."

Ond roedd arweinydd y grŵp annibynnol, y cynghorydd Aled Morris Jones, yn daer yn ei wrthwynebiad i'r datblygiad solar.

"Boddi ardal ydi hyn, fel Tryweryn," meddai, "ond ddim hefo dŵr... boddi nhw hefo solar frames ydi'r bwriad yma."

Mae disgwyl i Gyngor Môn ddod i benderfyniad a fydd adolygiad barnwrol yn caei ei lansio cyn 7 Hydref.