Yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd i drafod priodas un rhyw

Jaci Taylor a Felicity Roberts yn arwyddo partneriaeth sifil ddechrau Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae cael cydnabyddiaeth gyhoeddus i berthynas hoyw yn hynod o bwysig, medd Jaci Taylor o Bow Street ger Aberystwyth.
Mae hi a'i phartner Felicity Roberts wedi bod mewn perthynas hoyw ers degau o flynyddoedd a ddechrau Mawrth eleni fe wnaethon nhw ffurfioli eu perthynas gan uno mewn gwasanaeth partneriaeth sifil.
Ar hyn o bryd mae'r Eglwys yng Nghymru yn cynnal nifer o gyfarfodydd ar draws Cymru er mwyn trafod priodas un rhyw,
Ym mis Medi 2021 mewn pleidlais hanesyddol, fe wnaeth corff llywodraethol Yr Eglwys yng Nghymru gefnogi caniatáu bendithio priodas neu bartneriaeth sifil cyplau un rhyw mewn gwasanaeth eglwysig.
Nodwyd bod y rheol mewn grym am gyfnod arbrofol o bum mlynedd - tan ddiwedd 2026.
'Falch bod hi wedi derbyn!'
"Roedd cael partneriaeth sifil yn gam naturiol wedi i ni gyrraedd yr oedran ry'n ni wedi'i gyrraedd ac mae'r gyfraith yn ein diogelu ni'n fwy os oes gynnon ni berthynas o fewn y gyfraith sy'n swyddogol.
"Hefyd ro'n ni am ddathlu ein bod yn cyrraedd yr 80 eleni," meddai Felicity Roberts wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.
"Jaci na'th ofyn y cwestiwn a dyma gydsynio - bodloni ein bod ni am ddathlu ein bod wedi cael y fraint o gyrraedd yr oedran yma ond hefyd bod gynnon ni berthynas dda gyda'n gilydd."
"Pan ofynnais i iddi, o'dd e'n rhywbeth hollol naturiol i ddatgan ein perthynas fel rhywbeth ffurfiol," meddai Jaci.
"Mae'n dda ein bod yn gallu galw'n gilydd nawr yn bartneriaid ffurfiol.
"Roeddwn wrth fy modd bod Felicity wedi derbyn y cynnig. Byddai wedi bod yn siom petai wedi dweud 'na."

Mae Felicity Roberts (chwith) a Jaci Taylor yn wynebau cyfarwydd fel tiwtoriaid Cymraeg yn ardal Aberystwyth
"Mae cael cydnabyddiaeth gyhoeddus o berthynas hoyw yn bwysig," ychwanega Jaci Taylor.
"Dim jyst i ni ond mae'n rhoi gobaith i bobl. Mae 'na dal pobl allan yna sydd ddim wedi datgan sut maen nhw'n teimlo go iawn, pwy ydyn nhw a dwi'n meddwl bod e'n rhoi hyder i bobl i ddweud 'dyma sut ydw i a dyma be' dwi eisiau'.
"Ma' pethe'n haws i bobl ifanc, dwi'n gwybod, ond dim 100% - mae rhagfarn ymhob man o hyd."
'Wedi cael cefnogaeth arbennig'
Mae Felicity Roberts a Jaci Taylor yn pwysleisio eu bod nhw wastad wedi cael cefnogaeth gan deulu, y gymuned leol a'r eglwys.
"Dwi'n mynd i'r eglwys yn rheolaidd a dwi ddim wedi teimlo unrhyw wrthwynebiad yn yr eglwys dwi'n mynd iddi - i'r gwrthwyneb," meddai Felicity Roberts.
"Mae egwyddorion sylfaenol Cristnogaeth o faddeuant ac ymestyn breichiau cariad at bawb heb osod ein hunain uwchlaw eraill a'u barnu yn rhai pwysig gen i. Dyna'r ffydd dwi i'n ceisio ymlynu wrthi.
"Mae wedi bod yn achos llawenydd i ni'll dwy deimlo breichiau cariadus ein teuluoedd a'n cymuned o gyfeillion amdanom yn ein derbyn fel y bobl ydyn ni yn rhan o wead cymdeithas.
"Mae cael eu sêl bendith nhw a llawenydd Duw gyda ni yn bwysig."
- Cyhoeddwyd6 Medi 2021
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
Mae opsiynau yr Eglwys yng Nghymru yn cynnwys caniatáu i'r ddarpariaeth bresennol ddod i ben, ymestyn y trefniadau presennol, neu gyflwyno gwasanaeth ffurfiol o briodas i gyplau o'r un rhyw.
"Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi cytuno y dylai'r opsiynau sydd ar gael i ni gael eu trafod eto," medd Archesgob Cymru, Andy John, mewn datganiad.
"Hoffwn bwysleisio mai pwrpas y cyfarfodydd hyn yw gwrando – yn barchus ac yn astud.
"Efallai y bydd yr opsiynau sydd ar gael i ni'n golygu bod y ddarpariaeth a wnaethom yn 2021 yn dod i ben, heb unrhyw ddarpariaeth bellach. Byddai hyn yn golygu na fyddai litwrgi awdurdodedig nac unrhyw gyfleuster i fendithio parau mewn undebau o'r un rhyw.
"Fodd bynnag, gallem hefyd ehangu'r ddarpariaeth hon a pharhau â'n harfer presennol.
"Yn ogystal, mae'n bosibl cynnig gwasanaeth priodas i barau o'r un rhyw, cam a fyddai'n arwyddocaol iawn i'r Eglwys ei wneud.
"Fy ngwahoddiad i chi i gyd yw cymryd rhan yn y broses hon. Mynychwch un o'r sesiynau yn eich ardal leol os gwelwch yn dda, a bydded i Dduw roi gras a heddwch inni i glywed ei lais."
Dadansoddiad
John Roberts, Cyflwynydd 'Bwrw Golwg' Radio Cymru
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i drafod partneriaethau un rhyw ers rhai blynyddoedd.
Mae dros ddegawd wedi pasio ers cyhoeddi astudiaeth o sail ddiwinyddol i wrthod perthynas o'r fath, neu i fendithio ymrwymiad cyfreithiol fel partneriaeth sifil a phriodas neu dderbyn fod priodas un rhyw yr un mor ddilys â phriodas heterorywiol.
Trafod eu cam nesaf y maen nhw ar ôl cyfnod arbrofol o fendithio yn unig.
O ran yr enwadau eraill mae'r Undodiaid wedi cefnogi cydraddoldeb llwyr i bobl LHDTC+ ers 1970 a chapel Undodaidd ym Manceinion oedd y man addoli cyntaf i gofrestru fel lle i gynnal partneriaethau sifil.
I'r Bedyddwyr ac Annibynwyr mater i bob eglwys unigol yw cynnal priodas neu wasanaeth bendithio ac y mae amrywiaeth barn rhwng gwahanol gynulleidfaoedd ar y mater.
Fe fu trafodaeth ar y mater o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru dros ddegawd yn ôl, ond penderfynu glynu at y traddodiad o briodas heterorywiol yn unig wnaed bryd hynny.
Mae ei chwaer eglwys sef y Methodistiaid (Wesleaidd) yn priodi cyplau un rhyw ers 2014 ond gyda chymal cydwybod i weinidog a fyddai yn gwrthod dilysrwydd y gwasanaeth.