Cau ysgol uwchradd yng Ngwynedd ar ôl canfod llygod mawr

Mae llygod mawr wedi'u darganfod ym mhrif adeilad Ysgol Tryfan, Bangor
- Cyhoeddwyd
Bydd Ysgol Tryfan ym Mangor ar gau ddydd Iau ar ôl i lygod mawr gael eu darganfod ym mhrif adeilad y safle.
Mewn e-bost at rieni, dywedodd yr ysgol eu bod wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion o Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd.
Bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion ddydd Gwener hefyd ar gyfer hyfforddiant staff cyn gwyliau hanner tymor.
Dywedodd yr ysgol: "Credwn ei bod yn briodol i ni gau ddiwrnod ynghynt er mwyn delio’n llawn gyda’r broblem ar unwaith, fel y gallwn ailagor yn dilyn gwyliau’r hanner tymor, ddydd Llun, 4 Tachwedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022