Symud 500 o gyrff rhwng corffdai bwrdd iechyd oherwydd diffyg lle

CorffdyFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl corffdy yng Nghymru wedi cyrraedd ei gapasiti llawn ers i newidiadau gael eu cyflwyno fis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru wedi datgelu fod un bwrdd iechyd wedi trosglwyddo cannoedd o gyrff rhwng corffdai eu hysbytai oherwydd diffyg lle.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, rhwng Medi 2024 hyd at ganol Mawrth eleni, cafodd tua 500 o gyrff eu symud o'r safle lle buon nhw farw, i gorffdy mewn un o'u hysbytai arall.

Roedd hyn oherwydd y "pwysau eithafol" oedd yn eu hwynebu dros y gaeaf, wrth orfod storio cyrff am gyfnodau hirach na'r arfer.

Yn ôl un trefnwr angladdau, mae'r ystadegau - sy'n dangos realiti'r sefyllfa ar draws holl fyrddau iechyd Cymru - yn "ganlyniad uniongyrchol" o system newydd a gafodd ei chyflwyno fis Medi y llynedd.

Mae'r newidiadau'n golygu fod pob marwolaeth na fu'n destun ymchwiliad gan grwner, bellach yn cael ei hadolygu'n annibynnol gan archwiliwr meddygol cyn cyhoeddi tystysgrif marwolaeth.

Dywedodd Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru eu bod yn "gweithio'n ddiflino" i fynd i'r afael ag unrhyw oedi yn dilyn y newidiadau.

Cafodd y system newydd a gyflwynwyd ar 9 Medi 2024 ei chyflwyno'r rhannol mewn ymateb i lofruddiaethau Harold Shipman yn chwarter olaf y ganrif ddiwethaf.

Ers hynny, mae'r system wedi derbyn cryn feirniadaeth am yr oedi sydd ynghlwm â chyhoeddi tystysgrifau marwolaeth.

Mae'r effaith ar deuluoedd, yr oedi wrth drefnu angladdau, ac anallu rhai teuluoedd i ffarwelio â'u hanwyliaid oherwydd y bwlch amser, i gyd yn rhan o'r pryderon.

Faint o gyrff sy'n cael eu symud?

Mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru hefyd yn dangos fod y system newydd yn cael effaith uniongyrchol ar fyrddau iechyd Cymru.

Rhwng Medi 2024 hyd at ganol Mawrth eleni, mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi datgelu fod "tua 500" o gyrff wedi cael eu trosglwyddo rhwng corffdai eu hysbytai, oherwydd diffyg lle i storio'r cyrff yn yr ysbyty lle buon nhw farw.

Yn ôl y bwrdd iechyd fe ddaethon nhw "dan bwysau aruthrol" yn ystod y gaeaf oherwydd eu bod yn storio cyrff "am gyfnodau hirach na'r arfer".

Mewn un achos, oherwydd yr oedi gyda chyhoeddi tystysgrifau marwolaeth, cafodd corff ei gadw am bedair wythnos ar un safle, o'i gymharu â phythefnos yn ystod yr un cyfnod yn 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran Cwm Taf Morgannwg eu bod nhw "fel pob bwrdd iechyd arall yng Nghymru, yn wynebu oedi" ers cyflwyno'r system newydd, a bod hynny'n golygu bod rhaid iddyn nhw "wneud y defnydd gorau o'r capasiti corffdai" ar draws yr ardal.

Ysbyty Brenhinol Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - sy'n cynnwys ysbytai fel Ysbyty Brenhinol Morgannwg - wedi symud "tua 500" o gyrff rhwng eu corffdai mewn chwe mis

Mae byrddau iechyd eraill yng Nghymru hefyd wedi datgelu iddyn nhw drosglwyddo cyrff rhwng corffdai eu hysbytai oherwydd diffyg lle ers Medi 2024 hyd at ganol Mawrth eleni.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan fod 229 o gyrff wedi cael eu trosglwyddo rhwng corffdai eu hysbytai, tra bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn dweud i 21 o gyrff gael eu trosglwyddo.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe fod 98 o gyrff wedi cael eu trosglwyddo, er nad oedden nhw i gyd "o ganlyniad i weithredu'r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol".

Doedd dim un corff wedi cael ei drosglwyddo ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oherwydd diffyg lle.

Nifer wedi cyrraedd eu capasiti llawn

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro "nad yw'n bosib" iddyn nhw roi ffigwr, ond ychwanegon nhw fod y sefydliad "bob amser wedi symud cleifion marw gyda threfnwyr angladdau... i sicrhau bod corffdai yn cael eu rheoli ac nad yw'r capasiti'n cael ei dorri".

Er hynny, fe ddywedon nhw fod hyd storio cyrff yn eu corffdai wedi cynyddu, ar gyfartaledd, o 10.12 diwrnod yn Awst 2024 i 16.48 diwrnod yn Ionawr 2025.

Ond ychwanegodd y bwrdd iechyd nad oedd hyn o reidrwydd yn ymateb uniongyrchol i'r system newydd o gofrestru marwolaethau.

MynwentFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ers mis Medi 2024, mae'n rhaid i archwiliwr meddygol adolygu pob marwolaeth yng Nghymru a Lloegr sydd heb gael eu cyfeirio at grwner

Mae'r ystadegau hefyd yn datgelu nifer y corffdai mewn ysbytai wnaeth gyrraedd eu capasiti llawn yn ystod y cyfnod.

Fe ddigwyddodd hyn yn o leiaf un o safleoedd bron i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, gyda rhai yn gorfod dod o hyd i unedau storio cyrff ychwanegol.

Er enghraifft, cafodd capasiti llawn o 114 ei gyrraedd yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am ddiwrnod, cyn iddyn nhw gychwyn ar gynlluniau wrth gefn.

Roedd dau o gorffdai Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn llawn am dros dri mis, ynghyd ag un o gorffdai Bwrdd Iechyd Bae Abertawe.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan nad oedd yr un o gorffdai eu hysbytai wedi gweithredu ar gapasiti llawn rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025, oherwydd bod cyrff yn cael eu symud "cyn i safle gyrraedd capasiti llawn".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro "nad oes unrhyw gapasiti wedi'i dorri ar unrhyw adeg" gan fod cyfleusterau'r corffdai "wedi cael eu cefnogi gan y storfeydd corff sydd ar gael i'w defnyddio".

Ond fe ychwanegon nhw fod eu corffdai wedi bod dros 97% yn llawn "ar sawl achlysur"

Iwan Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Iwan Evans fod y diffyg capasiti yng nghorffdai ysbytai "yn bendant" o ganlyniad i'r newidiadau

Mae Iwan Evans yn gweithio fel trefnwr angladdau i fusnes teuluol sy'n gwasanaethu Caerfyrddin a'r cylch.

Wrth ymateb i ganfyddiadau BBC Cymru, pwysleisiodd fod "dim bai" ar staff y corffdai nac ychwaith unrhyw fwrdd iechyd.

"Maen nhw yn y sefyllfa 'ma - beth maen nhw fod i wneud?" meddai.

Dywedodd fod y ffigyrau yn adlewyrchu'r "pwysau naturiol" sy'n digwydd yn ystod y gaeaf, gyda "chynnydd naturiol bob blwyddyn" mewn marwolaethau.

Ond ychwanegodd bod y diffyg capasiti yng nghorffdai'r ysbytai "yn bendant o ganlyniad uniongyrchol i'r drefn arolygwyr meddygol".

'Pam bod e mor fiwrocrataidd?'

"Rhaid gofyn y cwestiwn, pam bod e mor fiwrocrataidd erbyn hyn?

"A oes angen mewn gwirionedd i'r arolygwr i arolygu gwaith y doctor ym mhob un achos?

"Amser ni'n fyw, ni'n ymddiried yn y doctoriaid, ond wedyn ar ôl marwolaeth, mae'r system yma i gyd mewn lle er mwyn arolygu a monitro gwaith y doctor.

"Fi ddim yn credu bod e'n hollol 100% addas i arolygu pob un farwolaeth."

Cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan oedd newid y drefn o ran y tystysgrifau marwolaeth, ac nid yw'n fater sydd wedi'i ddatganoli i Gymru.

Ond mae Mr Evans yn galw ar Lywodraeth Cymru i "werthuso ac adolygu beth sy'n digwydd fan hyn, er mwyn sicrhau bod y system yn gwella".

"Mae systemau er mwyn gofalu am yr ymadawedig ar draws y byd, ond y sefyllfa sydd gyda ni, yw bod ein Senedd ni, ble mae iechyd wedi cael ei ddatganoli, yn atebol i senedd arall am y mater yma," meddai.

"Ni newydd gael Covid. Beth sy'n mynd i ddigwydd i'r dyfodol?

"Mae e'n gwestiwn o ran paratoi i'r dyfodol hefyd - paratoi at argyfyngau posib i'r dyfodol. Mae wir angen edrych ar hwn."

Robert Townsend
Disgrifiad o’r llun,

Dyw corffdai "ddim wedi cael cynllunio ar gyfer cymaint o oedi yn y system", medd Robert Townsend

Mae'r Hybarch Robert Townsend, Archddiacon Meirionydd wedi cael profiad personol o'r oedi sydd ynghlwm â'r system newydd, gan orfod aros mis cyn trefnu angladd i aelod o'i deulu.

Doedd Mr Townsend "ddim wedi synnu o gwbl" fod byrddau iechyd yn gorfod trosglwyddo cyrff o un lle i'r llall oherwydd diffyg lle.

"Dydy'r adeiladwaith ar gyfer ein corffdai ddim wedi cael cynllunio ar gyfer cymaint o oedi yn y system," meddai.

"Felly mae'n anochel bod cyrff yn gorfod cael eu symud, ond mae'n ddefnydd o adnoddau dynol ac ariannol fasa'n well yn cael eu defnyddio rhywle arall yn y gwasanaeth iechyd.

"Os 'da ni'n gorfod byw gyda'r drefn newydd o archwiliaeth meddygol, mae'n rhaid ffeindio ffordd o ddod â'r amser i lawr, a chael y drefn i weithio'n gynt."

'Diffyg difrifol o ran patholegwyr'

Ategu hynny mae Rachel Bradburne, cyfarwyddwr materion allanol Cymdeithas Genedlaethol y Trefnwyr Angladdau, sy'n dweud fod y system yn "rhwystredig".

"Y gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr yw bod iechyd wedi'i ddatganoli, felly'r meddygon teulu a'r archwilwyr meddygol.

"Ond mae gennych chi'r system gyfiawnder a system grwnerol sydd ddim, ac mae yna ddiffyg difrifol o ran patholegwyr."

Hoffai'r gymdeithas weld un adran o'r llywodraeth yn goruchwylio rheoleiddio marwolaethau.

Dywed Ms Bradburne fod y system bresennol yn "llawn oedi".

"Byddwn yn galw ar bob lluniwr polisi a'r holl randdeiliaid a phawb sy'n gysylltiedig i weithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i rywbeth a fydd yn gweithio i bobl mewn profedigaeth, nawr ac yn y dyfodol.

"Nid yw'r system bresennol yn gweithio ac mae angen mynd i'r afael â hi mewn modd cyfannol."

AngladdFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r newidiadau i'r system wedi gweld oedi i angladdau

Dywedodd Jason Shannon, Archwilydd Meddygol Arweiniol Cymru, ei fod yn "cydnabod yn llwyr bwysigrwydd cynnal gwasanaeth ardystio marwolaethau di-dor a phrydlon ar gyfer teuluoedd mewn profedigaeth ledled Cymru".

"Rydym yn cydymdeimlo ag unrhyw anwyliaid sy'n profi oedi ac rydym yn gweithio'n ddiflino gyda'r holl weithwyr proffesiynol a sefydliadau sy'n ymwneud â'r broses ardystio marwolaethau i fynd i'r afael ag unrhyw oedi a brofir yn dilyn newidiadau newydd a wnaed i system tystysgrifau marwolaeth Cymru a Lloegr.

"Mae'r Archwilwyr Meddygol a gyflwynwyd yn ddiweddar yn un rhan o'r broses ardystio marwolaethau ehangach.

"Cawsom ein cyflwyno i roi mesurau diogelu annibynnol ychwanegol ar waith yn ogystal â rhoi llais i bobl mewn profedigaeth, nad oeddent wedi'i gael o'r blaen.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r broses i sicrhau bod y gwelliannau sydd eu hangen yn cael eu gwneud yn barhaus a rhoi cymorth priodol i deuluoedd mewn profedigaeth lle bo'n briodol."

'Ymddiheuro i deuluoedd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Hoffem ymddiheuro i deuluoedd sydd wedi profi oedi wrth dderbyn tystysgrifau marwolaeth.

"Cyflwynwyd newidiadau broses cofrestru marwolaethau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn cryfhau diogelwch y drefn.

"Rydym yn gweithio gyda'r Prif Archwiliwr Meddygol, y Gwasanaeth Iechyd a sefydliadau eraill sy'n rhan o'r drefn gofrestru marwolaethau i ddarparu cefnogaeth ychwanegol.

"Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda'r sector i sicrhau gwelliannau a chefnogi teuluoedd ar yr amser anodd hwn."

Yn ôl llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, mae'r "newidiadau i'r broses ardystio marwolaeth yn cefnogi gwelliannau hanfodol i ddiogelwch cleifion ac yn anelu at roi cysur ac eglurder i'r rhai sy'n galaru".

"Rydym yn cydnabod bod amrywiadau rhanbarthol sylweddol, ac rydym wrthi'n monitro'r rhain ac yn gweithio'n agos gyda'r GIG a Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â nhw'n gyflym.

"Rydyn ni'n disgwyl i farwolaethau gael eu cofrestru cyn gynted â phosib, ac rydyn ni hefyd yn ymgysylltu â grwpiau ffydd a'r sector angladdau i ddeall beth allai fod yn cyfrannu at hyn."