Cymru'n teithio i Wlad yr Iâ yn targedu buddugoliaeth
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru'n herio Gwlad yr Iâ yn Reykjavík nos Wener, wrth i garfan Craig Bellamy geisio parhau gyda'r dechrau addawol i'w hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Yng ngemau cyntaf y rheolwr newydd wrth y llyw fis diwethaf fe gafodd Cymru gêm gyfartal gyda Thwrci yng Nghaerdydd, cyn trechu Montenegro oddi cartref.
Mae hynny'n golygu fod Cymru yn yr ail safle yng Ngrŵp B ail haen Cynghrair y Cenhedloedd, ar yr un nifer o bwyntiau â Thwrci sydd ar y brig.
Mae pedair gêm eto i chwarae yn yr ymgyrch, ond roedd cefnogwyr yn falch o'r chwarae ymosodol a welwyd gan dîm Bellamy yn y gemau cyntaf hynny fis diwethaf.
Wedi'r gêm yng Ngwlad yr Iâ bydd Cymru'n croesawu Montenegro i Gaerdydd nos Lun.
Mae ambell enw mawr yn absennol ar gyfer y ddwy gêm yma, gydag Aaron Ramsey, Ethan Ampadu, Daniel James a Rabbi Matondo allan gydag anafiadau.
Ond mae un enw cyfarwydd iawn yn dychwelyd, wedi i Joe Allen newid ei benderfyniad i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.
Mae rhagor o chwaraewyr wedi'u cynnwys am y tro cyntaf dan y rheolwr newydd hefyd, gyda Rhys Norrington-Davies yn y garfan am y tro cyntaf ers dwy flynedd oherwydd anafiadau, a David Brooks, Wes Burns a Nathan Broadhead yn holliach wedi anafiadau hefyd.
Mae un chwaraewr sydd ar dân i'w glwb yn y garfan hefyd - Brennan Johnson, sydd wedi sgorio yn y chwe gêm ddiwethaf i Tottenham Hotspur.
Ond nid felly mae hi i bawb o'r chwaraewyr, gyda sawl aelod o'r garfan prin wedi chwarae i'w clybiau hyd yma'r tymor hwn, yn enwedig yn yr Uwch Gynghrair.
O'r 25 chwaraewr yn y garfan, mae naw yn chwarae i glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond dim ond Johnson ac amddiffynnwr Nottingham Forest Neco Williams sydd wedi bod yn dechrau gemau yn rheolaidd.
Un esiampl amlwg ydy Harry Wilson - a sgoriodd gôl wych yn y fuddugoliaeth ym Montenegro fis diwethaf - sydd wedi chwarae dim ond 36 munud i Fulham yn y gynghrair ers dechrau'r tymor.
Ond mae Bellamy wedi dweud nad yw hynny yn ei boeni, gan obeithio y bydd hynny'n golygu eu bod yn ffres i Gymru, ac ychwanegodd fod y Bencampwriaeth - ble mae mwyafrif y garfan yn chwarae - yn gynghrair gref hefyd.
Wedi'r cyfnod rhyngwladol yma, bydd gemau nesaf Cymru fis Tachwedd, pan fyddan nhw'n herio Twrci oddi cartref a Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd yng ngemau olaf yr ymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd16 Medi