Joe Allen wedi ei enwi yng ngharfan Cymru 18 mis ar ôl ymddeol

Mae Allen wedi ennill 74 cap dros ei wlad ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2009Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Allen wedi ennill 74 cap dros ei wlad ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2009

  • Cyhoeddwyd

Mae Joe Allen wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Fe wnaeth chwaraewr canol cae Abertawe ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror y llynedd, ar ôl ennill 74 cap dros ei wlad.

Ond ar ôl i Ethan Ampadu ac Aaron Ramsey ddioddef anafiadau yn yr wythnosau diwethaf, mae Craig Bellamy wedi llwyddo i berswadio Allen, 34, i wneud tro pedol ynglŷn â'i ymddeoliad.

Mae anafiadau gwahanol wedi golygu nad yw Allen wedi dechrau gêm i'r Elyrch y tymor hwn.

Ond fe ddywedodd rheolwr Abertawe, Luke Williams, fod y syniad o ddychwelyd i chwarae i Gymru wedi ei "gyffroi".

Bydd Cymru yn wynebu Gwlad yr Iâ oddi cartref ar 11 Hydref cyn croesawu Montenegro i Gaerdydd dridiau yn ddiweddarach.

Dadansoddiad

Dylan Griffiths, Sylwebydd pêl-droed BBC Cymru

Does dim byd tebyg i brofiad yn y byd chwaraeon, ac yn sicr mae Joe Allen yn enghraifft berffaith o hyn.

Yn 34 oed, mae Allen o Sir Benfro wedi cynrychioli ei wlad yn rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop ddwywaith a Chwpan Y Byd.

Mae o felly yn haeddiannol yn cael ei ystyried fel un o’r chwaraewyr mwyaf dylanwadol sydd wedi chwarae yng nghanol cae Cymru.

Ond ar ôl ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Chwefror 2023, pam felly dychwelyd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd Ethan Ampadu yn absennol tan y flwyddyn newydd

Gydag anafiadau hir dymor i’r capten Aaron Ramsey ac Ethan Ampadu mae’r dyfnder yng nghanol cae yn edrych yn denau, ond hyd yn oed cyn yr anafiadau hynny, mae’r trafodaethau rhwng Craig Bellamy ac Allen wedi bod yn rhai rheolaidd.

Yn y trafodaethau yma fe ddywedodd Bellamy - wnaeth chwarae gydag Allen i Gymru - ei fod wedi gofyn iddo wylio'r ddwy gêm yn erbyn Twrci a Montenegro a dod yn ôl ato gyda’i farn.

“Dwi’n barod” oedd ymateb Allen ac mi fydd ganddo rôl bwysig i’w chwarae ar ac oddi ar y cae gyda’r garfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys Norrington-Davies yn dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd

Yn amlwg, presenoldeb Allen ydy’r prif bwnc trafod yn y garfan o 25, ond er yr ergyd o golli Ramsey ac Ampadu, mae 'na wynebau cyfarwydd yn dychwelyd.

Braf gweld Nathan Broadhead a Wes Burns o Ipswich yn ôl wedi anafiadau.

Gyda David Brooks o Bournemouth ar gael hefyd, mae’r opsiynau ymosodol yn edrych yn gryfach, er nad ydy asgellwr Leeds Dan James, ar gael unwaith eto oherwydd anaf.

Er bod Bellamy yn hoff o Tom Lawrence, does dim lle i asgellwr Rangers yn y garfan y tro yma. Ond mae amddiffynnwr Sheffield United Rhys Norrington-Davies yn dychwelyd am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd wedi anaf difrifol i’w goes.

Fe ddangosodd Bellamy yn erbyn Twrci a Montenegro ei fod yn fodlon rhoi cyfle i bawb. Doedd neb yn disgwyl i Sorba Thomas gychwyn y gêm gyntaf a gwneud cystal, ac mae Oli Cooper o Abertawe wedi ei adfywio ers dychwelyd i’r garfan.

Paratoi ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ym mis Mawrth ydy’r flaenoriaeth yn ystod yr ymgyrch yma, ond mae rhywun yn cael y teimlad bod cymaint mwy i ddod gan Bellamy ei hun a’r chwaraewyr dros y misoedd nesaf.

Carfan Cymru i wynebu Gwlad yr Iâ a Montenegro

Golwyr: Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Karl Darlow (Leeds United)

Amddiffynwyr: Rhys Norrington-Davies (Sheffield Utd), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Owen Beck (Blackburn Rovers, ar fenthyg o Lerpwl), Joe Rodon (Leeds United), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Neco Williams (Nottingham Forest), Connor Roberts (Burnley)

Canol cae: Joe Allen (Abertawe), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Rennes), Ollie Cooper (Abertawe), Sorba Thomas (Nantes, ar fenthyg o Huddersfield), Wes Burns (Ipswich Town), Nathan Broadhead (Ipswich Town), David Brooks (Bournemouth)

Ymosodwyr: Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Harry Wilson (Fulham), Kieffer Moore (Sheffield United), Lewis Koumas (Stoke, ar fenthyg o Lerpwl), Mark Harris (Oxford United), Liam Cullen (Abertawe)