Rees-Zammit wedi dychwelyd ar ôl 'gwastraffu ei dalent' yn yr NFL

Louis Rees-ZammitFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Louis Rees-Zammit i Gymru yng Nghwpan y Byd yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae Louis Rees-Zammit yn dweud iddo ddychwelyd at rygbi ar ôl sylweddoli ei fod yn "gwastraffu ei dalent" yn yr NFL.

Ond mae'n dweud nad oes ganddo unrhyw edifeirwch am roi'r gorau i rygbi'r undeb, gan honni ei fod yn well am brofi byd "creulon" pêl-droed Americanaidd.

"Roeddwn i'n teimlo fel petawn i'n gwastraffu fy nhalent allan yna, a dweud y gwir," dywedodd Rees-Zammit.

"Mae'n anodd iawn mynd i fewn i'r NFL os nad ydych chi wedi mynd trwy system y coleg - dydych chi ddim yn cael yr un cyfleoedd â'r bechgyn hynny.

"Cadwais y drws ar agor i rygbi oherwydd ro'n i'n gwybod pa mor ddidrugaredd oedd hi allan yna, roedd yn hollol greulon - chwaraewyr yn cael eu torri bob dydd. Nes i roi fy ngorau."

Louis Rees-Zammit yn ystod ei gyfnod gyda'r Jacksonville Jaguars
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Louis Rees-Zammit amser gyda'r Jacksonville Jaguars a'r Kansas City Chiefs

Fe wnaeth asgellwr Cymru a'r Llewod synnu'r byd rygbi pan gyhoeddodd cyn y Chwe Gwlad yn 2024 ei fod wedi penderfynu ceisio llwyddo yn yr NFL.

Rhyw 18 mis yn ddiweddarach, mae'r chwaraewr 24 oed yn ôl ar ôl llofnodi cytundeb gyda Bristol Bears, ar ôl dechrau sylweddoli'n araf nad oedd ei freuddwyd Americanaidd yn mynd i ddod yn realiti.

Er gwaethaf ennill cytundebau gyda'r Kansas City Chiefs a'r Jacksonville Jaguars, ni chwaraeodd Rees-Zammit gêm yn yr NFL.

Ond mae bellach yn anelu at lwyddo gyda Bristol Bears ac yn gobeithio y gall wisgo crys coch Cymru eto yn yr hydref ar ôl siarad â'r prif hyfforddwr newydd Steve Tandy.

"Siaradais â Steve [Tandy] a chwpl o'r staff," dywedodd Rees-Zammit, sydd wedi ennill 32 cap dros ei wlad.

"Rwy'n credu i mi mai chwarae'n dda iawn i Fryste yw'r peth pwysicaf. Mae gennym ni ychydig o gemau cyn gemau rhyngwladol ym mis Tachwedd.

"Rwy'n gobeithio cael fy newis i Gymru. Roedd yn freuddwyd a ddaeth yn wir i chwarae dros fy ngwlad, a phob tro y gwnes i wisgo'r crys, roedd yn arbennig.

"Gêm gyntaf yr hydref fyddai'r freuddwyd, ond yn y pendraw yr hyfforddwyr sy'n dewis y tîm."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig