Gwrthdrawiad Llanpumsaint: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

Bu farw Aaron Jones wrth fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint nos Lun 23 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Bu farw Aaron Jones, dyn lleol 38 oed, yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint nos Lun.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nos Fawrth eu bod wedi arestio dyn 27 oed ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, methu ag aros wedi gwrthdrawiad a methu â hysbysu'r heddlu ynghylch gwrthdrawiad.
Ddydd Gwener fe gadarnhaodd y llu bod y dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau tra bod swyddogion arbenigol yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.

Car heddlu ger safle'r gwrthdrawiad ddydd Mawrth
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Capel y Bedyddwyr Caer Salem rhwng 18:45 a 19:45 nos Lun.
Yn eu datganiad nos Fawrth yn cadarnhau enw'r dyn a fu farw dywedodd yr heddlu eu bod wedi dod i hyd i gerbyd roedden nhw'n credu oedd yn y gwrthdrawiad.
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i roi cefnogaeth i deulu Mr Jones, sydd "wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd yma".