Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio 'tad a brawd cariadus'

Craig RFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Craig Richardson ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 30 oed wedi ymddangos yn y llys ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 37 oed yn Wrecsam.

Fe wnaeth Thomas Iveson o ardal Plas Madoc ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener trwy gyswllt fideo o'r ddalfa.

Bu farw Craig Richardson yn ei gartref ar ystâd Gwynant, Acre-fair ddydd Sul.

Dywedodd teulu Mr Richardson ei fod yn berson "llawn hwyl" ac y bydd "colled ar ei ôl am byth".

Stad Gwynant, AcrefairFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ystâd Gwynant, Acre-fair ddydd Sul

Mae disgwyl i Mr Iveson wneud ei ymddangosiad llys nesaf fis Mai.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar ystâd Gwynant, Acre-fair ychydig cyn 12:30 ddydd Sul yn dilyn pryderon am ddiogelwch dyn oedd yn byw yno.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon bu farw Craig Richardson yn ei gartref.

Mae ail ddyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad - sy'n 32 oed ac yn dod o Wrecsam - yn parhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

'Colled ar ei ôl am byth'

Dywedodd teulu Mr Richardson mewn datganiad: "Roedd Craig yn fab, tad, brawd, ewythr, nai, cefnder, partner a ffrind cariadus i lawer ac yr oeddem ni i gyd yn ei garu â'n holl galon.

"Bydd pawb a oedd yn adnabod Craig yn dweud bod ganddo'r galon fwyaf ac yn berson hwyliog.

"Bydd colled ar ei ôl am byth a bydd yn ein calonnau yn barhaus."

Pynciau cysylltiedig