Cwest yn methu dod i benderfyniad ar achos ffrwydrad Treforys

TreforysFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Gweddillion sawl eiddo ar Heol Clydach, Treforys wedi'r ffrwydrad ym mis Mawrth 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae rheithgor wedi methu dod i benderfyniad ar be wnaeth achosi ffrwydrad angheuol mewn tŷ yn Nhreforys oherwydd diffyg tystiolaeth.

Bu farw Brian Davies, 68, yn y ffrwydrad ar 13 Mawrth 2023 yn ei gartref ar Heol Clydach, Treforys, Abertawe.

Cafodd tri pherson arall, gan gynnwys bachgen 14 oed, driniaeth ysbyty.

Dywedodd y rheithgor nad yw'n bosibl dod i benderfyniad pendant gan fod tystiolaeth hanfodol wedi ei gymryd o safle'r trychineb gan y gwasanaethau brys cyn i swyddogion iechyd a diogelwch gyrraedd.

Wrth i'r cwest ddod i ben fe ddywedodd y crwner Aled Gruffudd y byddai'n ysgrifennu at y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a Heddlu De Cymru ynglŷn â sicrhau fod tystiolaeth yn cael ei warchod yn y dyfodol.

Clywodd y rheithgor bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r cwmni nwy Wales & West Utilities wedi beirniadu'r diffyg tystiolaeth yn yr achos.

O ganlyniad dim ond "damcaniaethau sydd gennym" o achos y ffrwydrad yn 159 Heol Clydach, yn ôl James Rutherford o'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Ychwanegodd fod y ffrwydrad yn "nodweddiadol o ffrwydrad nwy."

Dywedodd Stephen Critchlow, prif beiriannydd nwy HSE, ei bod yn "ffaith" bod gollyngiad mewn prif bibell nwy yn agos i'r tŷ, a bod hyn yn "achos dilys dros y ffrwydrad".

Ychwanegodd: "Ond allai ddim diystyru gollyngiad nwy o fewn y tŷ, mae'r dystiolaeth honno wedi'i cholli."

TreforysFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod yn Heol Clydach wedi'r ffrwydrad

Clywodd y rheithgor fod boeler nwy, popty a mesurydd nwy wedi'u hadfer a'u cadw i'w harchwilio gan yr heddlu, ond bod tunelli o falurion wedi'u cludo i ganolfan ailgylchu, a hynny wedi ei drefnu gan Gyngor Sir Abertawe.

Yn ôl yr asiantaeth gosod tai Homehunters, oedd yn gosod 159 Heol Clydach, roedd y tŷ wedi cael ei archwilio pum mis cyn y ffrwydrad - a chafodd yr archwiliad nwy blynyddol diwethaf ei gynnal ym mis Mai 2022.

Ni chafodd unrhyw broblemau gyda nwy eu nodi bryd hynny, clywodd y rheithgor.

Fe welodd y rheithgor luniau o ffwrn Mr Davies - ffwrn oedd wedi'i ddatgysylltu "mewn ffordd barhaol". Cadarnhaodd Mr Holder o Homehunters ni fyddai'r asiantaeth wedi trefnu hyn.

Clywodd y cwest fod adroddiad post-mortem gan batholegydd wedi dod i'r casgliad bod Mr Davies wedi marw oherwydd anafiadau i'w frest a'i wddf.

Cafodd ei gorff ei ganfod yn ardal y gegin yn gorffwys ar beiriant golchi.

Ffrwydrad TreforysFfynhonnell y llun, PA

Fe roddodd Claire Bennet, cymydog Mr Davies dystiolaeth i'r rheithgor. Cafodd hanner ei thŷ ei ddinistrio ar 13 Mawrth 2023.

Disgrifiodd Ms Bennett y bore hwnnw fel un "tawel" tan i "bopeth fynd yn ddu." Dywedodd iddi gredu bod car wedi bwrw blaen ei chartref pan glywodd hi "glec enfawr".

Ychwanegodd ei bod wedi gallu arogli nwy ar y stryd bythefnos cyn y ffrwydrad.

"Oedd popeth yn dywyll a llawn rwbel. Roedd y nenfwd wedi cwympo arna' i, o'n i methu symud."

Esboniodd bod ei mab, Ethan, oedd yn 14 ar y pryd, yn ei ystafell wely.

"O'n i'n trial galw enw fy mab ond o'n i methu anadlu. Yna sylwais i fod y grisiau tu ôl imi wedi diflannu."

Dywedodd ei bod wedi treulio wythnos yn yr ysbyty ac yn derbyn therapi am PTSD.

Ffrwydrad TreforysFfynhonnell y llun, PA

Fe glywodd y rheithgor hefyd gan bostman lleol, Jonathan Roberts, oedd yn gweithio ar fore 13 Mawrth 2023.

Cafodd fideo ei chwarae o gamera CCTV yn dangos cerbyd Mr Roberts yn gyrru heibio'r tŷ'r union eiliad pan ddigwyddodd y ffrwydrad.

Wrth siarad ar ôl y cwest, dywedodd Rob Long, prif swyddog gweithredu Wales & West Utilities: "Rydym yn parhau i gynnig ein cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau galarus Mr Davies.

"Yn ystod yr ymchwiliad i achos y ffrwydrad, rydym wedi cydweithredu'n llawn â'r holl asiantaethau dan sylw.

"Mae ein meddyliau hefyd yn parhau gydag eraill yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol gan y digwyddiad hwn a chymuned ehangach Treforys".

'Ofni na fyddwn ni fyth yn cael atebion'

Dywedodd teulu Brian Lewis mewn datganiad eu bod yn "drist iawn o golli tad a thad-cu yn y digwyddiad trawmatig yma".

"Fel teulu rydym wedi aros dwy flynedd a hanner yn y gobaith o allu deall yr amgylchiadau arweiniodd ar y digwyddiad trasig yma." meddai'r teulu.

"Ry'n ni'n ofni na fyddwn ni fyth yn cael yr atebion 'da ni eu hangen, ac yn teimlo ein bod wedi ein gadael i lawr wrth i'r awdurdodau golli tystiolaeth allweddol a fyddai wedi gallu helpu ni ddeall pam fod hyn wedi digwydd.

"Ry'n ni'n croesawu penderfyniad y crwner i gyflwyno newidiadau fel nad oes rhaid i unrhyw deulu arall ddioddef y torcalon yr ydym ni wedi gorfod ei brofi."

Dywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn nodi canlyniad y cwest ac y byddan nhw'n ymateb i unrhyw geisiadau gan y crwner maes o law.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.