Busnes yn elwa o gynllun gwres dŵr pwll glo

Mae perchennog cwmni sy'n cynhyrchu pympiau gwres, Nick Salini, yn dweud ei fod yn rhy gynnar i gymharu'r gwahaniaeth mewn costau ers newid o nwy i ddŵr y pwll glo ym mis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dŵr o hen bwll glo ger Rhydaman yn cael ei ddefnyddio i wresogi busnes lleol am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae'r dŵr sydd rhwng 14 a 15 gradd selsiws yn cael ei bwmpio dan ddaear o safle trin dŵr i safle'r busnes cyfagos.
Yn ôl yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, yr hen Awdurdod Glo, mae gwaith yn parhau i geisio datblygu prosiectau adnewyddiadau tebyg ar draws de a gogledd-ddwyrain y wlad.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn cydnabod y rhan bwysig y gall dŵr o hen byllau glo chwarae yn yr ymdrech i gyrraedd sero net.

Mae tua 25 litr o ddŵr yn cael ei bwmpio o hen lofa Lindsey pob eiliad er mwyn ei lanhau a'i ryddhau i'r afon.
Gall dwr sy'n llenwi pyllau glo cyrraedd hyd at 20 gradd selsiws, yn dibynnu ar y dyfnder.
Fe wnaeth perchennog busnes, Nick Salini, sy'n cynhyrchu pympiau gwres, cydnabod potensial dŵr y pwll glo lleol ers amser, medde fe.
"Fe osodon ni bwmp gwres sy'n cymryd y dŵr sydd o gwmpas 14 i 15 gradd selsiws, o'r safle trin.
"Rydyn ni'n cymryd y dŵr twym, ei gywasgu nes ei fod yn dymheredd digon da i gynhesu'r adeilad a bydd hwn yn gweithio trwy'r flwyddyn.
"Mae'r system yma wedi'i ddylunio yn benodol ar gyfer yr adeilad hwn.
"Mae'n system sy'n defnyddio 35 cilowat o ynni sy'n ddigon i gynhesu deg o dai newydd a hynny trwy gymryd y gwres naturiol sydd o dan ein traed," meddai Mr Salini.

Dywedodd Gareth Farr "does dim rheswm pam na allai Cymru fod ar flaen y gad"
Llynedd, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru map yn dangos yr ardaloedd sydd a'r potensial gorau er mwyn datblygu cynllun gwres yn defnyddio dŵr o byllau glo.
Methodd cynllun tebyg ddwyn ffrwyth yn sir Pen-y-bont oherwydd cynnydd yng nghostau gweithredu yn ôl y cyngor.
Ceisio dod o hyd i ddigon o arian i ddatblygu rhagor o brosiectau tebyg yw un o'r heriau mwyaf yn ôl yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio.
Ond mae yna sawl prosiect wedi'u datblygu'n barod yn Lloegr. Y cyntaf oedd yn Gateshead - sydd bellach yn helpu i gynhesu dros 600 o dai a sawl busnes lleol.
Dywedodd pennaeth gwres ac isgynnyrch arloesol yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio, Gareth Farr: "Mae pawb yng Nghymru yn edrych ar beth rydyn ni wedi cyflawni yng ngogledd ddwyrain Lloegr ond does dim rheswm pam na allai Cymru fod ar flaen y gad hefyd.
"Mae chwarter poblogaeth Cymru yn byw ar y maes glo ac felly mae'r galw yn bodoli yna'n barod ac rydyn ni eisiau cysylltu ein hetifeddiaeth ddiwydiannol i ein dyfodol gwyrddach."

Fe gymerodd hi bythefnos i osod y pibellau ar gyfer y prosiect ger Rhydaman ond mae'r buddsoddiad werth yr arian dros yr hir dymor, yn ôl y datblygwyr.
"Ar draws Prydain, rydyn ni yn y broses o ddatblygu rhagor o brosiectau newydd felly rydyn ni'n gobeithio y bydd yr un yma yng Nghymru yn sbringfwrdd i roi'r hyder i eraill ddilyn syniadau tebyg," ychwanegodd Mr Farr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim arian ar gyfer rhwydwaith gwres yn benodol, ond mae sgôp gyda chyllid ynni lleol.
"Mae angen i ymgeiswyr ddangos sut mae eu cynllun nhw yn ffitio gyda chynlluniau ynni lleol ac yn cael yr effaith mwyaf am yr arian sy'n cael ei fuddsoddi o ran datgarboneiddio.
Mae Ynni Cymru newydd ryddhau £10miliwn ar gyfer prosiectau lleol newydd ac rydym ni'n annog datblygwyr i ystyried y ffordd yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020