Talu £500 y flwyddyn am docyn bws ysgol yn 'hollol warthus'
- Cyhoeddwyd
Mae mam disgybl chweched dosbarth yng Nghaerdydd yn dweud bod gorfod talu £500 y flwyddyn am le ar fws ysgol i'w merch yn "hollol warthus".
Dywedodd Beca Evans, sy'n byw yn ardal Grangetown, fod y sefyllfa yn achosi "straen enfawr" a'i fod yn waeth i rai teuluoedd yr ardal "ddifreintiedig" honno.
Mae'n dweud fod angen cysoni'r taliadau teithio i ddisgyblion chweched dosbarth ar draws Cymru.
Mae BBC Cymru Fyw wedi canfod bod gwahaniaeth mawr ledled Cymru, gyda nifer o siroedd yn cynnig trafnidiaeth am ddim.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i £40 yr wythnos fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod £10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
Mae ond yn orfodol i awdurdodau lleol ddarparu bws am ddim i'r rheiny sy'n gymwys.
Mae'n rhaid i gynghorau sir ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.
Ond dyw disgyblion addysg ôl-16 ddim yn gymwys, ac felly dewis yr awdurdodau lleol yw penderfynu sut maen nhw'n delio â hynny.
Fe wnaeth BBC Cymru Fyw holi holl siroedd Cymru i weld beth yw’r tâl maen nhw’n ei godi am 'sedd wag' ar fws ysgol i ddisgyblion chweched dosbarth y sir.
O'r 19 wnaeth ymateb, dywedodd 12 sir eu bod yn cynnig 'sedd wag' yn ddi-dâl yn dilyn proses ymgeisio, tra bod sedd wag i ddisgybl chweched yng Nghaerdydd yn costio £500 y flwyddyn.
Cafodd Beca Evans wybod bod yn rhaid iddi dalu £500 os yw ei merch - Martha - eisiau lle ar fws i'r ysgol.
Er i gerdyn bws ei merch arall, sydd yn yr un ysgol, gyrraedd drwy'r post cyn dechrau'r tymor, doedd dim sôn am gerdyn bws Martha, a oedd yn dechrau yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
Cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi wneud cais am 'sedd wag' ar y bws am fod blaenoriaeth i blant iau yr ysgol, sy'n rheswm digon "rhesymol" meddai Beca.
Yna cafodd wybod y byddai’n rhaid iddi dalu £500 os oedd yn dymuno cael sedd i’w merch ar y bws.
"Dyle fod y cyngor yn hybu addysg bellach, yn cefnogi rhieni i anfon eu plant i'r chweched dosbarth," meddai.
Ychwanegodd fod angen cysoni'r taliadau ar draws Cymru, gan ddweud ei fod yn fater o "postcode lottery" i dderbyn trafnidiaeth am ddim.
'Barus tu hwnt'
Gyda'i merch arall yn defnyddio'r bws yn rheolaidd, dywedodd ei bod yn ymwybodol o lefydd gwag ar y bws.
Ychwanegodd: "Mae'n teimlo'n farus tu hwnt i fi gan fod y bws yna yn cael ei ddarparu ta beth, dyw e ddim yn costio unrhyw beth yn ychwanegol i'r Cyngor.
"Mae £500 yn lot fawr o arian, yn enwedig nawr gyda phethau mor anodd i deuluoedd, ac mae £500 i bobl sy'n dod o'r ardaloedd yma yn benodol hyd yn oed yn anoddach."
Dywedodd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol y byddai'n gallu ei ddefnyddio fel trafnidiaeth i'r ysgol, gan ychwanegu y bydd yn rhaid i'w merch gerdded tipyn i ddal y bws neu'r drên agosaf.
Dywedodd fod y sefyllfa yn "straen enfawr" arni hi a'i theulu.
"Mae'r gaeaf yn dod nawr, ma' hyd yn oed yn mynd i fod yn anoddach. Dwi ddim eisiau fy merch 16 oed yn gorfod cerdded y strydoedd ar ei phen ei hun am 20 munud neu hanner awr i ddal bws."
Mae'n awyddus i weld newid am ei fod yn "ymarferol rili rili anodd ar y funud".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod disgyblion chweched dosbarth sydd ar incwm isel yn gymwys i £40 fel rhan o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg, gan ddweud fod £10 o'r swm i fynd tuag at gostau teithio.
Dywedon nhw fod "trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gan Cardiff Bus rhwng Grangetown ac Ysgol Glantaf lle mae gan y disgyblion opsiwn i brynu tocyn wythnos am £12".
Maen nhw hefyd yn cydnabod fod modd talu'r swm o £500 mewn rhannau, gan dalu £50 y mis sydd gyfystyr â thua £12 yr wythnos.
Pwy sy'n gymwys i gael trafnidiaeth ysgol am ddim?
Yn ôl Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol:
"ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf;
"ddarparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu'r ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol addas agosaf.”
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi "nad oes rheidrwydd ar awdurdodau lleol i ariannu cludiant ar gyfer dysgwyr ôl-16 ond gallant ystyried hyn yn ôl disgresiwn".
Er hyn, gall myfyrwyr ôl-16 fod yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydyn nhw:
dros 16 oed, yn astudio yn eich ysgol leol ac yn teithio dros bellter penodol i gyrraedd yno;
rhwng 16 a 19 oed ac yn astudio'n llawn amser mewn coleg addysg bellach;
yn 19 oed neu'n hŷn neu'n astudio'n rhan-amser.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "er nad oes dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach neu hyfforddiant prif ffrwd" fod yna "ystod o gynlluniau yn cynnig pris gostyngedig a thrafnidiaeth am ddim i blant a phobl ifanc yng Nghymru".